“Arddangoswch eich cefnogaeth am annibyniaeth” medd CPD Cymru Dros Annibyniaeth sy’n trefnu rali cyn gêm canolig-i-fawr Cymru a Denmarc ar nos Wener 15fed o Dachwedd a fydd yn cael ei chwarae am 7.45yh yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ceir galwad, “i bob cefnogwr tîm pêl droed Cymru; dewch draw i Stryd Womanby o 4 y.h. i gwrdd â’r criw annibyniaeth i drafod popeth Cymreig.”* gan griw y Cefnogwyr Pêl-droed Cymru Dros Annibyniaeth.
Mae’r digwyddiad yn ymddangos ei fod yn digwydd yn baralel i – ac nid fel rhan o – brif ffrwd gwleidyddiaeth Cymru. Cawn weld ai dyna fydd ffawd y mudiad, tra yn yr Alban mae SNP yn sneipo Llywodraeth Llundain am ganolbwyntio ar Ogledd Iwerddon yn unig wrth greu’r cytundeb Brecsit arfaethedig. Dim sôn am Gymru yna, yn naturiol.
Does dim sôn chwaith bod gwrthwynebwyr Cymru sef Denmarc yn poeni gormod am sefyllfa druenus Cymru yn y byd gwleidyddol , gan fod nhw a’u cefnogwyr i weld yn canolbwyntio ar enillion ar y maes chwarae; tra bod tîm Cymru yn un sy’n cynnal breuddwydion ein cenedl mewn mwy nag un maes erbyn hyn ymddengys.
Dyma’r gair olaf i CPD Cymru Annibynnol:
“Gadael am 6:30y.h. i Stadiwm Dinas Caerdydd
Mae’r baneri Annibyniaeth barod i’w chwifio!”
Wele..
Lluniau @CPDCymruDO
* = gan gynnwys darpariaeth chwaraeon Y Cymro, felly.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.