Boed y pennawd uchod yn cyfeirio at y ffaith ei bod wedi mynd i’r gêm fawr ar ran Cyfeillion Y Cymro,
neu at emwaith gwerthfawr,
can diolch i Esyllt Sears a oedd yn ddigon gêm i drydar ar ein rhan nos Wener yng Nghasnewydd!
Dyma’r hanes yn llawn o’n prif ffrwd trydar @y_cymro
; gan gynnwys sut y bu Esyllt gwrdd efo Ebzy!
Heddi yw’r diwrnod! Pob lwc i dîm @Cymru heno yng Nghasnewydd, fe fydd @EsylltMair yno i gynrychioli @CyfeillionCymro @chwaraeonycymro #GorauChwaraeCydChwarae https://t.co/VkDPjHApeY
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Esyllt sy 'ma. Co ni off. Bant i gasglu’r chwaer fach wedyn i ryw dafarn nondescript yng Nghasnewydd i moyn tocyn iddi hi a’r ferch. Siwrne saff i bawb arall sydd ar y ffordd. Am resymau cyfreithiol bydd unrhyw neges wrtha i heno yn gorffen gyda E⃣ #traceability#WALENG #CYMLLO
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Does neb yn gallu dweud wrtha i ble ma’r media centre felly dwi a newyddiadurwr o Wales Online wedi ffeindio 2 sedd wag. Stress! O’n i yn ardal gynhesu tîm Lloegr ar un pwynt. Rhoddodd Phil Neville evil eyes i fi. Come on @cymru #WALENG #CYMLLO E⃣
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Dwlen i wbod ratios merched i ddynion yn y dorf. Gyda fy mathemateg grŵp 4* wi’n dyfalu 50/50. Ma’r lle’n orlawn. Fflipin gwych. #WALENG #CYMLLO
E⃣*ddim yn gallu cael uwch na B yn TGAU
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Unrhywun arall yn anadlu mewn neu mas yn ôl y cyfeiriad ma nhw moyn i’r bêl deithio? Na? #WALENG #CYMLLO E⃣ pic.twitter.com/GqjlIQttRt
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Chants posib:
“Fishlock the boat, Fishlock the boat baby”
“Fishlock around the clock”
“Fishlock me Amadeus”
“Fishlokin’ all over the world”
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Oce, bach o punditry. Heblaw am y gôl nad oedd yn gôl, ma golgeidwad @cymru O’Sullivan yn ca’l gêm dda. E⃣ #WALENG #CYMLLO
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
O’dd hwn jest cyn i fi weud wrtho fe bo fi di bod yn ei briodas e. Do’dd e ddim yn gwbod. #waleng #CYMLLO E⃣
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
O’dd honna’n teimlo’n anochel braidd. #waleng #cymllo E⃣
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Newch chi sylwi bo fi heb sôn am y g^wr eto heno. Ma hynna achos bod e ddim ma. A na, ddim achos mai gêm bêl-droed merched yw hi, ond achos bod e'n Sais. #WALENG #CYMLLO E⃣
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Nai gymryd y foment ma i sôn sut y bu i Geredigion arloesi mewn pêl-droed merched yn y 90au. Cynrychiolais i @YGRhydypennau mewn twrnament pêl-droed 5 bob ochr i ferched yn Ysgol Penglais circal 1990. O'n i yn gôl. Dathon ni'n ail i Ysgol Plascrug. #WALENG #CYMLLO E⃣
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Ma angen oleia un merch i ymuno â @thebarryhorns Os ddysgai i chware sax, ydw i mewn? #waleng #cymllo E⃣
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Ma’r canlyniad yn bansllyd ond ma’r ffaith bod tîm @cymru wedi cal standing ofêshyn wrth iddyn nhw adael y cae adeg hanner amser jest yn dangos i chi faint ma cefnogaeth i bêl-droed merched wedi cynyddu mewn cyfnod cymharol fyr #WALENG #CYMLLO E⃣ #togetherstronger #gorauchwarae pic.twitter.com/nRKhXZX5ur
— Y Cymro (@Y_Cymro) August 31, 2018
Os am fod yn gyfaill i’r Cymro; Dilynwch hefyd @cyfeillioncymro a www.facebook.com/cyfeillionycymro
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.