Cwpan Y Byd i Ryfeddu Ati

Chwaraeon

Garmon Ceiro sy’n gofyn : Gawn ni fynd y tro nesa?

Dyna ni: Cwpan y Byd arall drosto. Amser inni gyd drïo cofio enwau’n partneriaid, meddwl pa bethau eraill o’n ni’n arfer hoffi eu gwneud, a fflicio drwy’r sianeli teledu yn meddwl pa mor anghyfiawn yw byd lle mae Love Island yn para’n hirach na Chwpan y Byd.

Odd hi’n Gwpan y Byd dda ‘fyd – wel, ma nhw i gyd yn grêt yn fy marn i – 169 o goliau mewn 64 o gemau, 2.64 y gêm, a 6 gôl yn y ffeinal am y tro cynta ers 1966 (pwy enillodd bryd ‘ny, gwedwch?) Mi fydd Vladimir wrth ‘i fodd. Dyma gipolwg ar rai o’r uchafbwyntiau a’r penawdau o’r twrnament…

VARglwydd mawr

Mi o’n i’n ofni y galle hon droi’n Gwpan y Byd oedd ag un stori’n unig: VAR. Yn y diwedd, galle pethe ’di bod yn wath. Fe achosodd e ffys fwy nag unwaith, cofiwch: ma’i nawr yn beryclach cyffwrdd rhywun yn y blwch cosbi nag mewn tafarn yn y Rhyl, a chyda’r penaltis a roddwyd am lawio’r bêl, ma’i nawr yn anfantais i amddiffynnwr berchen ar ddwylo; fe welwn ni dipyn mwy o amddiffynwyr yn rhedeg o gwmpas gyda’u dwylo tu ôl i’w cefnau fel Liam Gallagher ar ganol cân o hyn allan. Fe dawelodd pethe ar ôl y gemau grŵp (tybed a oedd hyn yn sgil rhyw fath o gyfarwyddyd gan FIFA?). Tan y ffeinal, wrth gwrs. Dwi, yn bersonol, dal ddim yn cytuno â VAR – beth yw’r pwynt anfon y reff oddi ar y cae i wylio’r teledu am 5 munud os yw’r penderfyniad yn dal am fod yn un dadleuol, neu anghywir? Yn wir, yn y ffeinal, be wnaeth VAR oedd rhoi cyfle, a pheth anogaeth, i’r reffarî wneud camgymeriad. Diddorol yw nodi bod llawer o’r bobl sy’n dadlau o blaid VAR bellach yn gwneud hynny gan ei fod e’n dod ag elfen newydd o gyffro i’r gêm… wel, diolch, ond dim dyna odd y pwynt, nage? Bydd rhai’n gweud mai dim ond mireinio’r gweithdrefnau sydd angen, ond fydden ni’n rhoi’r cwbwl yn y bin a derbyn bod llawer o reolau a digwyddiadau pêl-droed yn oddrychol ta beth.

Da ’di Didier

Fydd fawr neb yn dadlau na enillodd y tîm gore.  Roedd llawer o wybodusion yn pwpŵio gobeithion Ffrainc yn gynnar yn y twrnament gan nad oedden nhw’n chwarae â’r rhyddid sydd mor boblogaidd yn y gêm y dyddiau hyn. Ond roedd Didier Deschamps yn deall cryfderau ei dîm: amddiffyn cryf, canol cae caled, ac ymosodwyr chwim a thalentog. Drwy drïo cau’r siop yn y cefn, ro’dd e’n gwbod eu bod nhw’n debygol o sgorio mwy na’u gwrthwynebwyr. Ar ôl eu grŵp, fe guron nhw’r Ariannin, Wrwgwai a Gwlad Belg heb wir fod mewn trwbwl unwaith. Y dasg i Didier nawr, os fydd e’n dewis parhau (ac mi fydd, yn ôl y sôn) fydd efelychu ei dîm ei hun o ’98 a mynd ymlaen i ennill Pencampwriaeth Ewrop, ac yna ceisio efelychu camp Sbaen rhwng 2008 a 2012 ac ennill tair cystadleuaeth o’r bron. Fydden i’n betio arnyn nhw i wneud hynny hefyd: oedran cyfartalog y garfan oedd 26, cydradd ifancaf gyda Lloegr a Nigeria. Er, falle fydd angen rheolwr newydd erbyn Cwpan y Byd nesa… pwy sydd “Ar Gâl”, gwedwch? O, dim ond Zinedine Zidane sydd ‘di ennill tair Cynghrair y Pencampwyr o’r bron…. jiw, ma pethe’n fain ar bêl-droed Ffrainc!

Liberté, Egalité, Mbappé (Balé?)

Os nad yw teitl  chwaraewr goré (oce, na’i stopio da’r acenion nawr) wedi newid dwylo eisoes, mi fydd e dros y tymhorau i ddod. Ma Kylian Mbappé yn 19. Mae’n debygol bod ganddo dri Chwpan y Byd arall ar ôl, ac y bydd Ffrainc ymysg y ffefrynnau i’w hennill nhw hefyd. Ma’r boi’n arallfydol. Petai e ddim mor anhygoel o chwim, mi alle fe chwarae fel rhif deg traddodiadol, a fydde fe’n well na phawb yn gwneud hynny hefyd. Yn amlwg, dy’n ni ddim wedi gweld diwedd Messi a Ronaldo eto, ond gyda’r ddau’n heneiddio mae’r râs yn agored i gymryd teitl ‘chwaraewr gorau’r byd’. Kylian yw’r ffefryn, wedyn falle Neymar os allith e aros ar ei draed ddigon hir. Y llall yn y râs yw ein boi ni: nawr bod Ronaldo wedi gadael Real Madrid am Juventus, tybed a gaiff Gareth Bale gyfle i fod yn ffocws ei dîm? Os gaiff e’r cyfle, ac amser gwell o ran anafiadau, mae ei gôl yng Nghynghrair y Pencampwyr wedi dangos ei fod yn barod i godi ei statws o fod yn un o’r goreuon i fod y gore… ond, mi fydd Kylian yn ei ffordd e.

Let’s talk about England…

Wath inni neud, cyn gorffen: fe gafon nhw dwrnament da, ond dyden nhw ddim yn dîm da. Fel ro’dd eu sylwebwyr yn dweud yn gyffro i gyd: roedden nhw yn hanner ‘gwan’ y twrnament. Beth anghofion nhw yw mai honno oedd yr hanner gwan yn rhannol am eu bod nhw yno – fe ddangosodd Croatia hynny iddyn nhw’n ddigon plaen.

A ddaw dydd y bydd mawr y rhai bychain?

Tangyflawnwyr y twrnament, heb os nac oni bai, oedd yr Almaen. Od iawn oedd gweld Mannschaft mor ddi-ddim. Mae’r bai ar yr hyfforddwr, Joachim Löw: fe ddewisodd e’r tîm a’r garfan anghywir, yn y bôn. Tra bo’r asgellwyr/blaenwyr chwim, Mbappé, Griezmann a Perisic, yn cystadlu’r ffeinal, ro’dd chwaraewyr tebycaf yr Almaen ar y fainc i ddechre (Brandt, Reus) neu adre’n gwneud dim byd (Sané), a’r Almaen o’r herwydd yn rhy araf a chul – mae Özil, Draxler a Müller yn chwaraewyr gwych, ond sdim un yn mynd i ennill râs i chi. Efallai bod y fath beth yn bod â gormod o ddewis.

Er iddyn nhw golli’r ffeinal, Croatia yw gorgyflawnwyr y twrnament. Tua 4m yw poblogaeth y wlad, ac fe halodd e fi i feddwl: a all gwlad mor fach ennill y gwpan rywbryd? Dwi’n tueddu tuag at ‘na’: dyma genhedlaeth hynod o bêl-droedwyr, a doedd e ddim cweit yn ddigon. Gellid dweud rhwbeth tebyg am wlad ychydig yn fwy: Gwlad Belg. Cenhedlaeth euraidd; ond gydag anaf i Meunier yn y rownd gyn-derfynol, rhaid oedd aildrefnu, a doedd y tîm ddim mor beryg wedyn rhywsut. Mae’r un peth yn wir am Wrwgwai. Os mai Ffrainc, Gwlad Belg a Croatia oedd tri thîm gore’r twrnament, gellid dweud, o anghofio am ennyd am Brasil, mai Wrwgwai fyddai nesaf. Ond daeth eu twrnament hwythau i ben gydag un o’u chwaraewyr disgleiriaf (Cavani) ar y fainc oherwydd anaf. Fel ry’n ni’n gwybod o rownd gynderfynol Ewro 2016, mae cael tîm cryf yn un peth, mae cael chwaraewyr cystal ar y fainc yn beth arall.

Ta waeth: twrnament gwych. Plîs gawn ni fynd y tro nesa?

 

NODWEDD BONWS YCHWANEGOL : Dyma oedd rhagolygon mis Mai er gwyb!

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau