Rydym i gyd yn casáu reffs. Hynny yw, oni bai eu bod nhw’n Gymry
Mae Cheryl Foster yn rheol wraig yng nghynghrair Huws Gray Gogledd Cymru sydd wedi cynrychioli Cymru fel aelod o’r tîm cenedlaethol 63 o weithiau. Cafodd ei chyfraniad i bêl-droed yng Nghymru ei gydnabod pan gyflwynwyd cap aur iddi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ei menter ddiweddaraf mae hi eisoes wedi dyfarnu ar lefel rhyngwladol yng nghystadleuaeth UEFA i ferched o dan 17 oed ac wedi dyfarnu ffeinal Cwpan Merched Cymru. Erbyn hyn, mae Cheryl hefyd yn aelod o’r tîm dyfarnu ar gyfer gem Cwpan y Byd i ferched!
Mae Cheryl Foster mewn cwmni dethol iawn ac yn ymuno ac Iwan Arwel Griffith, Bryn Markham-Jones, a Lee Evans sydd eisoes ar lwyfan dyfarnwyr rhyngwladol Cymru. Fel cofiwn ni o’n dyddiau yn yr ysgol, dim reff = dim gêm felly diolch amdanynt! Bu Iwan Arwel Griffith yn dyfarnu mewn dwy gêm ryngwladol dros y Pasg: y gêm gyfeillgar dan 21 rhwng Lloegr a Romania ar faes Wolverhampton Wanderers ac yna dridiau wedyn yn y gêm rhwng Slofacia ac Albania yng nghystadleuaeth UEFA i dimau o dan 21. Mae Iwan eisoes wedi bod yn bedwerydd swyddog yn y gêm lawn rhwng Cymru a Panama (gêm olaf Chris Coleman – tipyn o ‘send off!’) ac yng ngêm Cwpan y Byd rhwng Slofenia a Malta.
Dyfodol disglair felly i ddyfarnwyr o Gymru ar ein meysyddpêl droed, tybed ai nhw neu un o’r timoedd cenedlaethol bydd y cyntaf i gyrraedd gêm olaf twrnament rhyngwladol?
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.