Mae pêl-droed ar fin newid am byth- mae’r fideo-ddyfarnwr ar ei ffordd. Ers 2016, mae treialon wedi’u cynnal mewn gwahanol gynghreiriau a chwpanau ar draws y byd, gan gynnwys rhai gemau yng nghwpanau Lloegr y tymor hwn. Y bwriad yw ei ddefnyddio yng Nghwpan y Byd eleni – gyda noddwr yn ymddangos adeg y replay, wrth gwrs! ‘Progress’ fydd rhai yn galw hyn, ond ddim fi.
Mae’n siŵr mai’r syndod mwyaf yw i hyn gymryd cyhyd i gyrraedd pêl-droed; mae campau eraill wedi bod yn defnyddio technoleg ar ryw ffurf ers blynyddoedd lawer. Ond y brif broblem gyda fideo-ddyfarnwr a phêl-droed yw’r holl din-droi diflas ma’ fe’n achosi. Dyw replays yn amharu dim ar lif tenis, er enghraifft,achos ar ôl pob pwynt, mae’r chwaraewyr yn crwydro o gwmpas am gryn amser yn edrych am dywel ac yn aros i ryw blentyn ddod â phêl iddyn nhw.
Mae technoleg bron yn anhepgor gyda chriced – yn wir, y syndod yw bod y gêm wedi gweithio o gwbl ar lefel uchel cyn dyfodiad replays – ond mae criced yn para drwy’r dydd. Beth yw dwy funud i gal pip ar sgrîn? Gallech chi watsho Ben Hur, a fydde’i dal ddim yn amser mynd gatre. Pêl-droed Americanaidd – Gridiron – oedd y gêm gyntaf i ddefnyddio technoleg; gêm sydd bron yn amhosib ei deall heb ei hail-wylio.
Wrth wylio rygbi, does dim byd gwaeth na’r dathliad yn cael ei gwtogi tra bo’r dyfarnwr yn cael sgwrs gyda rhywun. Mae’r rheol yna yn wir ar draws pob math o gampau…
Allech chi ddychmygu taflu dŵr oer dros rediad gorfoleddus Marco Tardelli yng Nghwpan y Byd ’82, achosbod y dyfarnwr ar y ffôn gyda rhyw foi mewn lori yn y maes parcio yn trafod a oedd Gaetano Scirea’n camsefyll foment ynghynt?
Os dwi eisiau aros am benderfyniad dros y ffôn, galla’i ffonio’r banc i ofyn am overdraft.
Yn y bôn, fel ffan pêl-droed, dwi ddim yn siŵr a yw cywirdeb mor ddymunol â hynny ta beth. Mae anghyfiawnder, a’r potensial am anghyfiawnder, yn rhan o’r hwyl. Mae’r posibilrwydd eich bod ar fin cael eich shelffo yn rhan o’r tensiwn. Dwi ddim yn mynd i gêm yn becso dim ond am y gwrthwynebwyr – dwi’n becso f ’enaid am y reffarî hefyd:
“Pwy yw e? O na, dim fe. Unrhyw un ond fe. Clown.”
Mae’r dyfarnwr yn rhan o’r sioe, er nad ydw i’n lico cyfaddef hynny. Sawl gwaith dwi ’di bod mewn gêm lle does affliw o ddim yn digwydd –dim dim, hanner awr mewn i’r hanner cynta, braidd dim awyrgylch, dwi eisoes yn meddwl mynd i’r bar ac yn ystyried pa beint i’w gael – ac wedyn, ma’r reffarî’n gwneud penderfyniad sarhaus o anghywir. Dwi a gweddill y dorf mewn byd arall: byd lle ma un dyn – un idiot – yn trio’ch twyllo.
‘Ma’r boi off ’i ben! Ma nam ar ’i olwg e!’
A dyna ni: pnawn Sadwrn diflas yny glaw wedi’i droi’n sgandal cyffrous a fydd yn ein diddanu ni am weddill y penwythnos… o leia’. Mae’n wir: gyda fideo-ddyfarnwr, byddai ’na ddim Joe Jordan yn 1977. Ond hefyd – i bigo un enghraifft ar hap ondife – byddai Diego Maradona wedi’i anfon o’r maes yn 1986, a hynny cyn iddo sgorio un o’r gôls gorau erioed. Mae drama yn y drygioni ac mae twyll yn rhan o’r tensiwn; fel ffan pêl-droed, yn bersonol, dwi eisiau cymryd y risg.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.