Myfyriwr ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion oedd Adam Smith, ac yn chwilio am gyfle i wneud enw iddo’i hun ac ennill profiad. Cynigiodd Uwch gynghrair Cymru’r cyfle perffaith iddo ac fe ymunodd â mi yn Nhreffynnon pan oeddwn yn rheolwr ar y clwb. Ar ôl ei gyfnod yng Nghymru, aeth Adam ymlaen i chwarae yn yr Unol Dalaethau gyda’r Long Island Rough Riders a Wilmington Hammerheads cyn ymuno a’r Portland Timbers a Sacramento Republic fel hyfforddwr. Yna, ar gychwyn y flwyddyn yma, fe’i penodwyd yn brif hyfforddwr ar glwb Fresno FC, sydd yn aelod o’r United Soccer League, sef ail adran pêl droed yn yr UDA.
Parhaodd Adam i gadw cysylltiad â Chymru drwy ddilyn cwrs hyfforddiant Cymdeithas Bel Droed Cymru o dan arweiniad Osian Roberts ac mae erbyn hyn yn dal y dystysgrif bennaf yn y byd pêl droed.
Gan mai clwb newydd ydi Fresno, mae wedi cael benthyg ychydig o chwaraewyr gan glwb Vancouver Whitecaps, sef y tîm o dan hyfforddiant y Cymro Carl Robinson, ond hefyd, mae Fresno wedi cael benthyg gwasanaeth cyn chwaraewr Caerdydd a Chymru, Robert Earnshaw, fel is reolwr er mwyn rhoi iddo’r profiad ehangach o reoli a hyfforddi ar y lefel uchaf ( gan mai swydd hyfforddwr academi’r Whitecaps oedd gan Earnshaw).
Ond nid dyma’r unig gysylltiad rhwng Cymru a’r USL gan fod cyn olwr Cymru, Owain Fôn Williams wedi arwyddo a chlwb Indy United, clwb arall newydd, o Indianapolis sydd hefyd yn cystadlu yn yr USL. Gyda’r Unol Dalaethau yn wlad mor fawr, mae’r gynghrair wedi ei rhannu yn ddau ar sail ddaearyddol. Tra bydd tîm Adam Smith yn cystadlu yn rhanbarth y gorllewin, bydd Owain Fôn yn chwarae yn adran y Dwyrain. Ond petai’r ddau dîm yn llwyddiannus, pwy a ŵyr na fydd y ddau yma yn cyfarfod yn y rowndiau terfynol rhwng enillwyr y ddwy adran ar ddiwedd y tymor?
Ie wir, mae’r Cymry yn troi i fyny’n mhob man! Pob hwyl i Adam Smith, Robbie Earnshaw ac i Owain Fôn, ar eu gyrfa newydd a gychwynnodd y mis yma.]
gan Glyn Griffiths
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.