Rhwystredig – Cymru’n colli mas ar Ewro 2024

Barn

Lleisiau Newydd:

BARN gan Steffan Alun Leonard

Mae gobaith am y dyfodol oes… ond cymaint o siom hefyd ar ôl dod mor agos

Wedi i Gymru golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Gwlad Pwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae realiti colli mas ar yr Ewros am y tro cyntaf ers cyn 2016 yn bwrw cefnogwyr Cymru.

Dyma oedd ymgyrch lle gafodd Cymru gyfleoedd di-ri i allu sefydlu ei lle yn y Bencampwriaeth yn yr haf; ond methu a’u cymryd oedd y stori.

Yn amlwg, dros y deuddeg mis diwethaf, yr ydym wedi clywed trafodaethau a dadlau am y trawsnewidiad angenrheidiol sydd o flaen Cymru ac sydd yn digwydd nawr.

Dadl deg yw hynny wrth gwrs wrth ystyried  ymddeoliad Gareth Bale o bêl-droed ac ambell un arall a oedd wedi dod yn rhan sefydlog o’r tîm cenedlaethol ers blynyddoedd.

Fe ddaeth y gemau ail-gyfle i Gaerdydd unwaith yn rhagor mewn ymgyrch i gyrraedd twrnamaint rhyngwladol, ond rhwystredig oedd y ffaith i’r gemau ddod i Gaerdydd yn y lle cyntaf medd llawer o gefnogwyr Cymru. Sylwadau fel: “Collwyd y cyfle i fynd i’r Almaen wedi’r gemau yn erbyn Armenia” oedd i’w gweld ar y cyfryngau cymdeithasol wedi’r gêm.

Fe fyddai’r rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru wedi ysgwyd eich llaw ar ôl cynnig 12 pwynt iddynt cyn i’r broses ragbrofol ddechrau llynedd.Ond wrth ystyried llwyddiant y pwynt allan yn Split gan ychwanegu’r fuddugoliaeth gartref yn erbyn Croatia; ac yna siom y golled yn Armenia gan gipio dim ond pwynt yn erbyn y tîm sy’n sefyll yn 95ed yn safleoedd FIFA, mae’n rhaid ystyried yr ymgyrch fel un hollol rhwystredig.

Yr ydym yn sicr yn byw mewn oes aur arall o ran pêl-droed yma yng Nghymru, gyda sgil-effeithiau’r perfformiad yn Ffrainc yn Ewro 2016 yn dal i fodoli yn 2024.Dwy Bencampwriaeth Ewro ac yn Cwpan Byd (y cyntaf ers 64 mlynedd gyda llaw) – yr ydym ni fel cefnogwyr gêm y bêl gron wedi ein sbwylio gyda’r llu o chwaraewyr sydd yn chwarae eu pêl-droed ar y lefel uchaf.

Ond dyna yw un o achosion mwyaf y boen a’r galwadau am ymchwiliad i’r ‘methiant’ yma. A yw’r tîm yn wirioneddol yn dal i fod yn un ifanc sydd yn aros i gyrraedd eu potensial yn llawn? Cwestiynau i Page oedd llawer iawn o’r ymateb a ddaeth o’r gêm derfynol yn erbyn Gwlad Pwyl. Ai Page yw’r dyn i arwain y tîm yma? Oes ganddo fe’r gallu tactegol i gael y mwyaf allan o’r chwaraewyr? Cwestiynau teg mae’n siŵr ar ôl ymgyrch fyddai sawl un o’r Wal Goch wedi teimlo’n dawel-obeithiol amdani cyn cychwyn.

Mae gobaith yn y ffaith y gallai’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr yma chwarae rôl hanfodol i gyrraedd Ewro 2028 a Chwpan yn Byd cyn hynny yn 2026; ond pennawd yr ymgyrch hon i’r Wal Goch yw ‘Cymru yn tangyflawni’.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau