Rhaid peidio ag edrych i ffwrdd… rhaid ymateb a gweithredu

Barn
Llun: Carys Huws

Aeth Deian ap Rhisiart i siarad gyda’r cerddor a’r bardd Casi Wyn, sy’n wreiddiol o Fangor, wrth iddi gyhoeddi ei chyfrol newydd Bro Prydferthwch yn dethol cerddi o’i chyfnod fel bardd plant Cymru.    

 Bu Casi’n trafod ei phrofiadau gwerthfawr mewnysgolion, yr angen i ymateb i’r sefyllfa argyfyngus yn Gaza a’i rôl fel golygydd cylchgrawn Codi Pais ac yn mynegi ei barn am wendidau’r Wasg Gymreig. 

Daeth ei chyfnod fel bardd plant Cymru i ben ym mis Rhagfyr y llynedd ar ôl cyfnod o ddwy flynedd yn dechrau yn 2021 – amser cythryblus ac eithriadol ymhob ystyr o’r gair mewn cyfnod pan oedd y pandemig yn parhau’n gysgod tywyll dros gymdeithas. 

 Meddai: “Dwi’n cofio’r ysgolion cynharaf imi ymweld â nhw – ac ro’n i’n dal i orfod gwisgo masg.” 

Wrth iddi gamu i’r swydd, fe roedd ganddi yn ei meddwl syniad o’r hyn a oedd i ddod.  

 “O’n i’n ymwybodol o arwyddocâd y rôl a’r cyfoeth beirdd oedd wedi bod ynddi o ’mlaen.” 

Mi gafodd brofiadau bythgofiadwy wrth ymweld ag ysgol ymhob cornel o Gymru.  Un o’r uchafbwyntiau oedd arwain diwrnod efo senedd ieuenctid Cymru. 

“Mi gyd-weithiais hefo aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ar gerdd amlieithog er mwyn adlewyrchu Cymru heddiw a’u Cymru nhw fel pobl ifanc.” 

Cafodd ei thanio gan agweddau aelodau’r senedd,  “Mi ges wir fy ysbrydoli gan griw Senedd Ieuenctid, be ti’n gael yn fanno ydi unigolion sydd heb dyfu i fod yn wleidyddion proffesiynol ac sydd felly yn siarad o le sydd yn fwy gonest a phur.”  

 

Gorymdaith cerflun Cranogwen   

Uchafbwynt arall oedd bod yn rhan o seremoni a gorymdaith yn dadorchuddio cerflun i gofio Cranogwen neu Sarah Jane Rees yn Llangrannog, “Ma’ na gerdd, sydd hefyd yn gân (drwy’r cod QR), o’r enw Sŵn’ o fewn fy llyfr newydd Bro Prydferthwch. 

 “Mi arweiniais gyfres o weithdai hefo disgyblion Ysgol T. Llew Jones yng Ngheredigion i baratoi at ddigwyddiad cyffrous yn y pentre’ haf diwethaf oedd yn dadorchuddio cerflun o Cranogwen. Proses eitha’ arbennig wrth inni gyfansoddi cerddoriaeth i eiriau’r plant. Ac ar ôl ei hymarfer, dyma ni’n mynd ati i’w pherfformio hi wrth ymyl bedd Cranogwen. Profiad theatrig sydd am aros hefo’r plant am weddill eu bywydau.

Llun gweithdy Neges Heddwch: Pink Chillies

Ymhell i’r dwyrain o fröydd traddodiadol y Gymraeg, gwelodd ochr hardd arall o Gymreictod yn nisgyblion Ysgol Gymraeg Casnewydd, 

“Mi roedd hi’n wirioneddol brydferth gweld ac archwilio cysylltiad plant Casnewydd hefo’r iaith Gymraeg, roedd rhai o’r plant yn uniaethu gyda’u Cymreictod yn ogystal a’u hetifeddiaeth Affricanaidd – a phawb yn siarad yn rhugl mewn acen Casnewydd, oedd hynny’n ciwt iawn. Mae’r athrawon yn yr ardaloedd yma’n gwneud gwaith arbennig iawn, yn ddiwylliannol a chymdeithasol.” 

 Mae hefyd yn gweld fod dysgu hanes Cymru a hanes lleol yn hanfodol yng Nghymru, i greu Cymry:

 “Mae hi’n mynd heb ddweud pa mor bwysig ydi cynnwys hanes Cymru ac hanesion lleol mewn gwahanol  ysgolion. Mi fysa hi’n annheg i amddifadu plant Cymru o’u hetifeddiaeth a’u stori genedlaethol. 

 “Dyma sut mae cyfoethogi ymwybyddiaeth plant – drwy sicrhau bod crwydro drwy ddrysau’r gorffennol yn fodd o lunio llwybr celfydd yn ein dyfodol.” 

 

Mwy o gefnogaeth i Fardd Plant Cymru     

 Wrth edrych yn ôl, mae’n gweld fod bardd plant Cymru yn rôl bwysig tu hwnt a bod angen mwy o gefnogaeth i’r swydd, fel yr  eglurodd: 

“Ma’ hi’n rôl mor bwysig yn ddiwylliannol.   

 “Yn rôl ddylanwadol ar greadigrwydd plentyn. Mae barddoniaeth Gymraeg yn cynnig cyswllt i blentyn rhwng ei iaith gynhenid yng Nghymru. Oes angen sicrhau mwy o gefnogaeth ariannol ac egnïol i’r rôl? Oes.” 

  

Codi llais yn Codi Pais  

Mae Casi hefyd yn olygydd ac yn gyfarwyddwr creadigol i gylchgrawn Codi Pais, ac mae’r cylchgrawn sydd wedi’i anelu yn bennaf at ferched, yn ceisio cynnig byd olwg benywaidd ac enfysaidd ar Gymru – a’r byd.  

 Ac wrth i’r sefyllfa yn Gaza  ffrwydro ers dechrau Hydref y llynedd, credodd fod angen gwneud rhywbeth trwy gyfrwng y cyfrwng i gefnogi Palestiniaid yn y Llain. 

 “Mi wnes benderfynu yn fuan iawn ar ôl y 7fed o Hydref i gynhyrchu rhifyn o’r enw Heddwch i weithredu dros heddwch ac o fewn mis a hanner roeddan ni wedi codi £1500 i’w yrru at Medical Aid to Palestinians. 

Clawr Codi Pais: Sioned Medi

Ges i’r pleser o fedru cynnwys pobl arbennig iawn yn rhan o’r rhifyn fel Angharad Tomos, Menna Elfyn a’r artist o Ddyffryn Nantlle, Lleucu Non.” 

 Mynegodd ei phryder dwys am y gwarchae gan Israel yn Llain Gaza,

“Dwi’n ffeindio hi’n anodd prosesu’r ffaith ein bod ni’n byw mewn byd lle mae hyn yn gallu parhau i ddigwydd. 

 “Mae ’na dros 13,000 o blant wedi eu llofruddio ers mis Hydref – nid dim ond ffigwr ydi’r rhif, ond degau o fywydau unigol gwerthfawr – na chaiff dyfu i fyw bywyd cyflawn. 

“Dw i’n rhan o genhedlaeth sy’n gweld hyn yn digwydd yn ddyddiol ac hefyd yn uniongyrchol dros y ffôn – ond mae hi’n bwysig peidio edrych i ffwrdd – fel ein bod ni’n ymateb ac yna’n gweithredu.” 

 

Ein bwydo gyda’r un gwybodaeth… 

 Mi roedd sefydlu cylchgrawn Codi Pais yn ymgais i gynnwys llais arall gwahanol annibynnol o fewn gwasg Gymreig, fel yr eglurodd:

“Does yna ddim gwasg iach a chytbwys yng Nghymru – sy’n hyrwyddo ac herio be’ ydi Cymru a’i chymunedau. Mi rydan ni’n cael ein bwydo gyda’r un wybodaeth â Lloegr. Dyna’r rheswm dros sefydlu Codi Pais.” 

 

Anrhydedd  

Y mae heddwch ac heddychiaeth yn greiddiol i’w byd olwg, ac ym mis Mai fe fydd yn lansio Neges Ewyllys Da yr Urdd ar Fai 17ain mewn hanner cant o wahanol ieithoedd.  “Mae’n anrhydedd mawr i gyhoeddi’r Neges Ewyllys sydd wedi  digwydd yn flynyddol ers 1922. Mae hi’n neges sy’n berthnasol i bawb.” 

Arluniad grwp Neges Heddwch: Efa Blosse Mason

Ar ôl i’w chyfnod fel bardd plant ddod i ben, nid yw Casi Wyn yn gorffwys o bell ffordd wrth iddi barhau i weithio gydag ysgolion yn ysbrydoli creadigrwydd. 

 Ar ben hynny, fe fydd sawl prosiect ar y gweill gyda Gŵyl y Gelli, Theatr Genedlaethol Cymru a phrosiect Geiriau  Diflanedig yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, cartref y bardd Hedd Wyn. Llond plât o greadigrwydd ar droed! 

 Mae Bro Prydferthwch wedi ei gyhoeddi gan Gwasg Carreg Gwalch – £6.50 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau