Lleisiau Newydd:
gan Ava Williams, Blwyddyn 10, Ysgol Glan Clwyd
Gyda chynnydd enfawr ym myd y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol yn y degawdau diwethaf, mae adnoddau a gwybodaeth mewn cyfrwng digidol yn mynd yn haws ac yn haws i’w cyrchu.
Mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg yn dilyn y pandemig, sy’n arwain at y cwestiwn; a oes dal lle i lyfrgelloedd yn ein cymunedau?
Oes dal pwrpas iddynt yn ein cymdeithas fodern?
Efallai mai dyma pam mae Cyngor Sir Dinbych wedi cynllunio i dorri oriau agor llyfrgelloedd o 40%! Ond rydw i’n anghytuno. Mae llyfrgelloedd yn amhrisiadwy yn ein cymuned, a dyma rhai o’r rhesymau pam.Gall hyn swnio’n amlwg, ond prif werth llyfrgelloedd yw’r nifer helaeth o lyfrau sydd ganddynt. A’r peth gorau yw – gallwch chi ei benthyg am ddim.
Mae darllen yn cryfhau eich ymennydd, ac mae sawl arolwg yn profi hyn. Mewn arolwg yn 2013 gan ‘PubMed Central’, mesurwyd actifedd yr ymennydd gan ddefnyddio sganwyr MRI. Gofynnwyd i gyfranogwyr yr astudiaeth ddarllen y llyfr ‘Pompeii’ dros 9 diwrnod, a gwelwyd wrth i densiwn yn y nofel gynyddu, cynyddodd actifedd yr ymennydd hefyd. Wrth i’ch gallu i ddarllen aeddfedu, mae’r rhwydweithiau cymhleth o gylchredau a signalau yn yr ymennydd yn cryfhau ac yn dod yn fwy soffistigedig.
Heblaw am roi mynediad i fyd o lyfrau, mae llyfrgelloedd hefyd yn ganolfannau diwylliannol. Maen nhw’n hyrwyddo cyfranogiad mewn amrywiaeth o glybiau, a gwerthfawrogiad o amrywiaeth o gelfyddydau, nid yn unig llenyddiaeth, gyda rhai yn arddangos gwaith celf artistiaid lleol, a llawer yn rhoi cyfle i fenthyg DVDs a CDs.
Hefyd mae modd iddynt helpu i ehangu ein safbwyntiau a’n barn am y byd o’n cwmpas, gyda gwasanaethau fel darlithoedd, arddangosfeydd a seminarau, ac amrywiaeth o lyfrau ar bob testun gallwch ddychmygu. Mae hyn yn hyrwyddo dealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol, ac yn helpu cadw diwylliant yr ardal.
Ffordd arall mae llyfrgelloedd yn amddiffyn diwylliannau yw trwy gynnal a chadw archifau o hen ddogfennau prin, sydd felly yn amddiffyn y dreftadaeth lenyddol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn achub ac amddiffyn ieithoedd lleiafrifol rhag diflannu.
Yn achos yr iaith Gymraeg, wrth roi mynediad i lyfrau ac adnoddau Cymraeg, mae’n cadw dogfen o’r iaith tra hefyd yn codi ymwybyddiaeth a rhoi’r cyfle i ddysgu’r iaith. Trwy amlygu’r iaith i’r cyhoedd, mae’n hyrwyddo defnydd llafar.
Ond eto, mae dal dadl ynglŷn ag os oes angen llyfrgelloedd yn ein cymunedau, oherwydd digideiddiad. Gyda chynnydd mewn llyfrau digidol, erthyglau, ac adnoddau eraill, mae’n well gan lawer o bobl gael mynediad at wybodaeth ar-lein yn hytrach nac ymweld â llyfrgelloedd.
Hefyd, gyda chynnydd mewn defnydd o ffonau symudol clyfar a dyfeisiau electronig, mae arferion darllen pobl yn newid, gyda llai yn treulio amser yn darllen llyfrau a mynd i lyfrgelloedd.
Y peth yw, nid pawb sydd â mynediad i ddyfeisiau electronig fel hyn, ac felly’n methu cael mynediad i’r holl adnoddau digidol sydd ar gael. Mae llyfrgelloedd yn adnodd hanfodol i lawer, gan roi mynediad i’r rhyngrwyd ac i wi-fi am ddim a’r holl adnoddau mae llyfrgelloedd yn eu darparu, ni all rai eu defnyddio fel arall.
Yn ogystal, mae wi-fi am ddim, ardaloedd distaw, diogel ar gyfer gweithio ac astudio ac amrywiaeth defnyddiol o gyfleusterau sy’n agored i bawb. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn i bobl ifanc yn ystod tymor arholiadau, yn enwedig rhai sydd hwyrach â thrafferthion adref neu sydd heb gyfleusterau, neu i bobl ddigartref.
Efallai eich bod chi rŵan yn cwestiynu pam bod y cynghorau lleol yn bwriadu gwneud y fath doriadau. Mae’r ateb yn syml – arian!
I fod yn deg, mae’r Llywodraeth, fel mae pawb, wedi bod yn teimlo straen oherwydd chwyddiant ac wrth gwrs y pandemig dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl y Cyngor, trwy leihau oriau agor, bydd arbedion disgwyliedig o £360k yn cael eu gwneud. Ond yn fy marn ni, nid llyfrgelloedd dylai dderbyn ergyd y pwysau ariannol. O fod yn adnodd gwybodaeth amhrisiadwy i fod yn lle diogel a chroesawgar, mae llyfrgelloedd yn llefydd sy’n cael eu trysori yn ein cymunedau.
I gloi, tra bod llawer o resymau pam gall llyfrgelloedd fod yn lleihau mewn poblogrwydd a pham mae’r Llywodraeth yn meddwl lleihau eu horiau agor, mewn gwirionedd, ni fydd llyfrgelloedd yn diflannu unrhyw bryd yn y dyfodol agos. Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag yw eich oedran, mewn llyfrgell mae rhywbeth i bawb. Dangoswch eich cefnogaeth, ewch i ymweld â’ch llyfrgell leol. Ewch amdani, mae byd o ddychymyg yn aros amdanoch!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.