Angen gwleidyddion mwy dewr sy’n llai tymor byr…

Barn

Ceri Cunnington fu’n sgwrsio efo’r Cymro am ochrau niweidiol a chadarnhaol twristiaeth yng Nghymru a’i weledigaeth i weld mwy o berchnogaeth leol ohono.

Mae Ceri Cunnington yn gyfarwydd i ni i gyd fel canwr Anweledig ac actor ond mae o hefyd yn weithiwr datblygu gyda Chwmni Bro Ffestiniog, ac yn angerddol dros ei fro.

Aeth Deian ap Rhisiart i siarad gyda Ceri am Flaenau Ffestiniog, am or-dwristiaeth a mentrau cymunedol.

Mae gan Ceri weledigaeth i greu cymuned sy’n elwa o dwristiaeth er budd ei hunain. Ym Mlaenau Ffestiniog, mae yna ryfeddodau yn digwydd wrth i nifer o fentrau weithio er budd eu hardal. Ond yn y maes twristiaeth, y mae’n credu mae’r galw mwyaf i gymryd perchnogaeth leol.

Mae Ceri’n cydnabod fod yna ochr negyddol a chadarnhaol i dwristiaeth, fel sydd dros y byd: “’Does yna ddim byd gwell na rhannu a dangos dy gymuned neu dy wlad neu dy ardal, bro neu dy gynefin efo pobl. Er hynny, O Ynys Skye i Morroco ti’n gweld yr ochr negyddol mae twristiaeth wedi’i gael i ryw raddau.”

Ond mae’n bosib i gymunedau elwa o dwristiaeth fel yr eglurodd: “Be’ ydan ni wedi drio yn Blaena’, ydi datblygu ryw fath o dwristiaeth gynaliadwy –  ‘dydi’r arian sy’n cael ei  gynhyrchu, ddim yn cael ei dynnu oddi yma, bod o’n cael ei gylchdroi ac yn aros yn y gymuned. Be’ ydan ni wedi gwneud efo’r pres o’r llwybr beics Antur ‘Stiniog ydi prynu siop bob dim gymunedol. Mae’r elw ydan ni wedi’i gynhyrchu o’r ganolfan beics yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y gymuned – mae ein balans sheet yn dangos bod gynnon ni £2.5 miliwn o asedau ynghanol Blaena’. Mi ydan ni ar ein traed ein hunain a thwristiaeth sydd wedi gwneud hynny.”

Ar y llaw arall, mae Ceri’n feirniadol o feddylfryd tymor byr gwleidyddion sy’n rhoi nawdd i fentrau sy’n gwneud arian mawr wrth sôn am ‘responsible tourism’.

“Nid bai y cwmnïau ydio o achos ma’ nhw yn gweld eu cyfle ac yn cymryd eu cyfle ac yn defnyddio a manteisio ar grantiau sydd ar gael. Beth ydan ni angen ydi gwleidyddion mwy dewr sydd yn llai tymor byr ac yn edrych mwy hir dymor.”

Ychwanegodd, “Mi ydan ni’n trio creu ryw fusnes lle nad oes yna ddim cyfranddalwyr  yn gallu diflannu yn eu cwch hwylio o gwmpas môr y canoldir a cherdded i ffwrdd efo £11 miliwn!”  Mae’n defnyddio enghreifftiau eraill ble mae mentrau masnachol wedi derbyn arian cyhoeddus sylweddol ond wedi mynd yn fethdal.

300 o Air BnBs yn ’Stiniog …boncyrs! 

Yn ei fro, mae’n gweld problem ddybryd mewn tai Air BnB, fel sawl ardal arall o Gymru: “Mae problem Air B&B yn’Stiniog yn boncyrs, mae yna tua 300 o AirBnBs yma. Pan ti’n mynd i bentref Tanygrisiau, mae’n hurt.”

Mae’n grediniol fod yna or-dwristiaeth yng Nghymru, “Fyswn i ddim yn dweud bod angen mwy o dwristiaid, be’ ydan ni angen ydi bod arian y twristiaid yn cael ei fuddsoddi a’i reoli a bod yr arian yn aros a sicrhau bod y cymunedau’n elwa. Yr unig ffordd fod hynny am ddigwydd ydi ei fod mewn perchnogaeth leol.”

Mae Ceri o’r farn fod newid ar ei ffordd gyda chymunedau yn mynnu newid: “Mae gan Cyngor Gwynedd strategaeth twristiaeth gynaliadwy newydd ac mae o i’w groesawu, paid a nghael i’n rong ond mae angen mynd at fol y peth.  Mi ydan ni’n gwneud ymchwil ac am y tro cyntaf, y gymuned fydd yn gwneud yr ymchwil ar dwristiaeth, be ma’ nhw’n feddwl o dwristiaeth, faint o bobl sy’n aros, faint ydi ei werth o, does yna neb wedi dilyn lle mae’r arian yn mynd.”

Twf mentrau cymunedol 

Yn ehangach, mae’n croesawu’r twf mewn mentrau cymunedol ledled Cymru, gyda mudiad Cymunedoli ar flaen y gad yng Ngwynedd yn tynnu’r mentrau hen a newydd at ei gilydd.

“Mae yna linyn yn ein cymunedau ac mi ydan ni ar y blaen mewn lot o ffyrdd oherwydd ein natur ni – ma ’na empathi, o’r cymoedd i Flaenau Ffestiniog, mae’r ysbryd dal yno a fedrwn ni dapio fewn i’r cawl yna, yn gymuned o gymunedau fel ddywedodd Gwynfor Evans, cydweithio a chefnogi’n gilydd.”

Mae’r model economaidd presennol wedi methu, yn ôl Ceri, “Mi ydan ni gyd yn gwybod fod datblygiad economaidd wedi ac yn dal i fethu ein cymunedau, ond mae yna lygedyn o gyfleon ac o obaith yn Cymunedoli, di o’m yn ateb i bob dim, ond mae o’n wahanol ag mae’n fwy teg ac mae yna dal falans.

“Mae Cymunedoli yn dangos hyder yn fwy na dim.” meddai Ceri, “Mae asedau’r mentrau cymunedol yng Ngwynedd  fel Partneriaeth Ogwen, Galeri Caernarfon, Gisda ayyb yn werth £45 miliwn.  “Dyma’r ffordd ymlaen, maen nhw’n cadw pres yn lleol, yn gwario pres yn lleol ac yn cyflogi pobl leol ond hefyd ma’ nhw’n gwneud gwaith cymdeithasol arbennig.”

Hwyluso nid rheoli 

Ond mae’n cydnabod fod yna heriau yn wynebu mentrau cymunedol, “Ma’ hi’n mynd i fod yn anodd achos mae pawb mor brysur yn rhedeg y mentrau yma a’r busnesau yma, mae’n frwydr, y gwirfoddoli a gwneud y gwaith yma i gyd a weithiau ar draul y Llywodraeth neu awdurdod lleol, ac er gwaetha nhw, – ma nhw i fod yma i hwyluso gweithgaredd cymunedol ddim i reoli, dyna ydi rôl llywodraeth leol i mi.”

Mae Cwmni Bro Ffestiniog newydd brynu hen aelwyd yr Urdd yn y dref, gyda chynlluniau cyffrous i bobl ifanc y dref, fel yr eglurodd, “Y syniad ydi ein bod yn datblygu ac adnewyddu’r adeilad efo pobl ifanc a bod hwnnw yn dod yn ganolfan i bobl ifanc a chysylltu pobl gyda’u cymuned – gofod clyd a lle i neud bwyd a lle i ymlacio.”

Yr olygfa yn adrodd ein hanes 

Rhwng cadwyn y Moelwyn a’r Manod, mae ardal Blaenau Ffestiniog yn unigryw yng nghôl pedol o fynyddoedd serth.

Wedi’i chreu gan y diwydiant llechi, ac hunaniaeth y bobl wedi’i wreiddio’n ei thirwedd, mae Ceri yn gwneud pwynt o arwain pobl ifanc i ben y llwybr beics i ryfeddu ar yr olygfa.

Meddai: “’Dani’n gweithio efo pobl ifanc yn mynd a nhw i dop y llwybr beics  a be’ ti’n gweld o’r top ydi Atomfa Traws, Hydro Tanygrisiau, Ffatri Blaenau Plastics, y tomenni llechi a ti’n gweld ein hanes ni ac mae’r olygfa yn adrodd ein hanes ni. A wedyn ma’r bobl ifanc yn troi rownd a deutha ni, i le mor gyfoethog, pam ydan ni’n dlawd?  Gan adael iddyn nhw wneud eu meddyliau. ‘Da ni angen cenhedlaeth hyderus, creu’r sefyllfa lle mae pobl isio aros.”

Dysgu o’r gorffennol er mwyn arfogi cymunedau Cymru fydd, dyna yw cenhadaeth Ceri Cunnington ac mae’r ymgyrch i’w gweld yn codi stêm.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau