Yn chwe blwydd oed… fe welais y brenin

Barn Chwaraeon

gan Marc Roberts

‘Roedd e’n byw mewn zone amser gwahanol i bawb arall ar y cae. Pan gai’r bêl, roedd pawb o’i gwmpas fel petai’n sefyll yn stond’

Bu farw Barry John, eicon rygbi Cymru, maswr gorau ei genhedlaeth, prin mis ar ôl ei benblwydd yn 79 mlwydd oed.

Un o feibion pentre bach Cefneithin oedd Barry ac yn awr yn fwy nag erioed mae’n destun sgwrs mewn clybiau rygbi ar hyd a lled Cymoedd Gwendraeth a thu hwnt i Gymru, synnwn i ddim. Yn ystod ei yrfa fer daeth ei enw i sylw dilynwyr y gamp o bedwar ban byd. Ym 1971, tra’n chwarae i dîm Llewod Carwyn James, hefyd o Gefneithin, ar feysydd Seland Newydd, lle mae rygbi fel crefydd, gafodd ei goroni’n ‘frenin’ gan wasg y wlad honno.

Barnon nhw mai Barry yn fwy na neb oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth yr ymwelwyr yn y gyfres.

Unwaith yn unig y gwelais i Barry’n chwarae ‘yn y cnawd’, a honno yn ei gêm olaf – y gêm fawr i ddathlu jiwbili aur Urdd Gobaith Cymru ym 1972. 

Dim ond chwe blwydd oed oeddwn i ond yn cofio’n glir y teimlad o gyffro, yn cael sefyll gyda’m brodyr mawr wrth y reilyns bach haearn oedd yn ein gwahanu oddi wrth laswellt sanctaidd y maes cenedlaethol a nid yn unig fy holl arwyr rygbi Cymru, ond mawrion y Llewod hefyd.

Sibrydai ’nhad eu henwau’n uchel yn ein clustiau wrth i bob un gyffwrdd â’r bêl yn ei dro gan adleisio’r cynnwrf yn llais Cliff Morgan a ddaeth o’n radio ni lai na blwyddyn ynghynt yn sylwebu yn oriau mân y bore ar gampau’r un chwaraewyr yn erbyn y Crysau Duon.
Ond nid crysau coch y Llewod na Chymru oedd yma – ond crysau gwyrdd yr Urdd.

Os taw Barry John XV yn erbyn Carwyn James XV oedd yma, pa dîm oedd Cymru te?
A phwy un oedd Carwyn James? Roedd hi’n ddigon i ddrysu crwt chwe blwydd oed.
Ond doedd dim dowt o gwbl gen i pan sgoriodd Barry’r cais i ennill y gêm i’w dîm, a bonllefau gwyllt y dorf yn tystio i orfoledd y foment honno.

Blynyddoedd yn ddiweddarach byddai technoleg yr oes yn bodloni fy obsesiwn gyda rygbi Cymru’r saithdege. Nawr, does dim rhaid dibynnu ar hen atgofion a’r hen beiriant fideo. Mae popeth yno wrth bori ar-lein a gallu athrylithgar Barry ar gael i bawb ei weld.
Byddai neb yn gwadu ei dalentau fel chwaraewr, ac er nad oedd e’n gyfforddus gyda’r teitl ‘brenin’ doedd dim amheuaeth bod Barry’n Time Lord.
Roedd e’n byw mewn zone amser gwahanol i bawb arall ar y cae. Pan gai’r bêl, roedd pawb o’i gwmpas fel petai’n sefyll yn stond. Roedd e’n rhoi’r argraff bod ganddo hen ddigon o amser cyn penderfynu beth i’w wneud nesa’ a digon o amser i newid ei feddwl os oedd e’n mo’yn gwneud ’ny.

Pan fyddai’n dewis rhedeg, fe ymddangosai mor ddi-ymdrech iddo fel na feddyliech ei fod yn symudiad sbeshal, nag o unrhyw arwyddocâd nes i chi sylwi’n sydyn ei fod wedi curo dau neu dri amddiffynnwr heb unrhyw ffwdan.
Yn amlach na pheidio roedd e’n amhosib gweld shwd oedd e’n llwyddo i fylchu lle nad oedd bwlch yn bod, a byddai taclwyr yn synnu i ddarganfod ei fod wedi mynd heibio heb iddynt gyffwrdd blaen bys arno.
Yn ôl Max Boyce, byddai Vimy, mam Barry’n arfer dweud amdano: “Os o’dd e’n rhedeg trw’ gae o ŷd – dim ond yr ŷd o’dd yn gwbod pwy ffordd o’dd Barry wedi mynd.”

Ym 1969, sgoriodd e gais yn erbyn Lloegr ac wrth iddo redeg at y lein mae’n ymddangos nad yw’r Saeson yn gwneud unrhyw ymdrech i’w rwystro. Mae Barry’n sgorio’n rhwydd. Ond y gwir amdano, sy’n amlwg o weld y replay o du ôl y pyst, yw y curodd Barry bedwar dyn yn ddeheuig gyda gwyriad ac ochr-gamu cynnil ar ei ffordd i sgorio.
Roedd chwech tymor yng nghrys coch Cymru yn gyfnod rhy fyr ond wedi gadael oes o atgofion.

Diolch Barry.

Cysga’n dawel.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau