Lleisiau Newydd:
gan Mari Roberts, Blwyddyn 11, Ysgol Dyffryn Ogwen
Fi a clefyd siwgr
Felly beth yn union ydi clefyd siwgr?
Wel, y rheswm dros hynny yw bod yna ymosodiad wedi digwydd ar y pancreas sy’n achosi iddo stopio cynhyrchu inswlin. Ond mae’r corff angen inswlin ar gyfer treulio carbohydradau, ac os nad ydi hyn yn cael ei drin, mae’n gallu arwain at salwch difrifol, er enghraifft clefyd y galon, clefyd yr arennau, gallwch fynd yn ddall, ond yn waeth fyth, gall hyn achosi marwolaeth!
Mae ’na ddau fath o glefyd siwgr – math1 a math 2. Mae yna dros 8.4 miliwn o bobl yn y byd gyda math 1, a dros 415 miliwn gyda math 2. Felly o gyfanswm pawb sy’n byw gyda’r clefyd yma, mae 90% ohonyn nhw gyda math 2.
Ond be ydi’r gwahaniaeth rhyngddynt?
I ddechrau, mae math 2 yn cael ei achosi gan ordewdra, diffyg addysg gorfforol, bod dros bwysau, a dewisiadau yn eich ffordd o fyw. Mae hyn yn golygu ei fod o’n gallu cael ei drin. Yn wahanol i math 1, sef cyflwr sy’n effeithio ar bobl ifanc yn bennaf, ac mae’r doctoriaid yn ‘meddwl’ mai firws sy’n achosi i’r corff ymosod arno’i hun ydyw. Mae mathau 1 a 2 yn ddau glefyd hollol wahanol.
Cafodd y term ei ddefnyddio gyntaf tua 250 cc gan Apollonius o Memphis, ond mae’r cofnod meddygol cyntaf yn 1425 efo’r term ‘diabetes mellitus’. Yn ddiddorol, ystyr diabetes ydi ‘pasio trwodd’ sef distyllu, yna ystyr mellitus yw melys. Ac mae yna gyfeiriad at hyn yn llenyddiaeth gynnar y Groegiaid, Chineaid, Eifftiaid, Indiaid a Persiaid.
Y driniaeth gyntaf oedd un ai ymarfer corff, yfed gwin neu gor-fwydo. Ond yn 1776, darganfyddodd Mathew Dobson mai rhyw gysylltiad rhwng y glwcos yn y gwaed oedd y broblem. A’r ffordd gynnar i roi diagnosis oedd gweld os oedd morgrug yn cael eu denu at wrin person, neu lwgu person. Yna, yn 1889, wnaeth Oskar Minkowski ddarganfod mai rhyw gysylltiad gyda’r pancreas oedd yn achosi’r salwch yma.
Yn 1922 penderfynodd Banting a Best roi inswlin o gŵn iach i rai sâl, ac wrth gwrs, bu iddyn nhw wella. Felly trosglwyddodd y wybodaeth yma ac yna purwyd inswlin o wartheg a’i roi i bobl. Enillodd Banting a Best wobr Nobel am eu gwaith – ac roedden nhw’n llwyr haeddu’r wobr!
Mae’n rhyfeddol mai dim ond 100 mlynedd yn ôl oedd hynny, a does dim llawer wedi newid ers hynny. Rydym dal yn gorfod rhoi inswlin yn y corff. Ond, beth sydd wedi newid yw’r ffordd rydym yn rhoi’r inswlin yn y corff.
Opsiwn un yw chwistrellu, ac yna defnyddio prawf pigo bys i fesur lefel siwgr y gwaed. Opsiwn dau yw cael pwmp, sy’n pwmpio’r inswlin i’r corff, (fel pancreas ffug). Ac yna defnyddio synhwyrydd i weld lefel glwcos y gwaed ar eich ffôn symudol.
Mae datblygiadau yn nhriniaeth math 2 yn golygu ei bod yn gallu cymryd tabledi dyddiol sy’n gallu treulio’r carbohydradau maent yn eu bwyta. Dydyn ni, pobl math 1 heb ryw dablet hud i’n helpu ni. A dw i’n teimlo fod hyn oherwydd bod mwy o bobl gyda math 2, maent yn fwy pwysig, ac mae mwy o sylw yn cael ei roi i’w triniaeth gan fod y cyflwr yn mynnu dros 10% o wariant gwasanaethau iechyd y byd.
Yn bersonol, mae gen i synhwyrydd gan y cwmni Dexcom, ble gallai weld lefelau siwgr fy ngwaed oddi ar fy ffôn symudol, yna mae’r synhwyrydd yn parhau am 10 diwrnod tan rydych angen ei newid o am un newydd. Yn ogystal, mae gen i bwmp newydd gan y cwmni Omnipod, sydd yn parhau 3 diwrnod. Mae’r pwmp newydd yn gadael i mi gael mwy o ryddid, oherwydd roedd y modelau cynnar yn gallu disgyn ac yn brifo, roedd angen ei dynnu ar gyfer addysg gorfforol, a doedd o ddim yn dal dŵr. Yn wahanol, mae’r pwmp newydd yn llai mewn maint, ac yn llai heriol. Rwy’n teimlo fel bod o’n well i mi fel rhywun ifanc sydd eisiau ychydig bach mwy o ryddid. Mwy o annibyniaeth.
Hefyd, dwi’n teimlo’n hynod o lwcus gan fy mod i wedi gallu perswadio’r doctoriaid i ddangos fy mod yn ddigon addas a chyfrifol ar gyfer cael y dechnoleg newydd. Ar y llaw arall, diwedd y gân yw’r geiniog, ac felly nid yw pawb mor ffodus.
Dw i’n gweld o’n ofnadwy o annheg fod pobl ifanc yn gorfod cystadlu am y dechnoleg ddrud yma. Yn achos y bobl sy’n byw gyda math 1, swni’n dadlau eu bod nhw’n haeddu cael eu blaenoriaethu ar gyfer bob offer newydd i helpu eu cyflwr. Teimlaf fy mod wedi cael y gefnogaeth orau posib gan y tîm anhygoel yn Ysbyty Gwynedd sy’n edrych ar ôl fy nghyflwr. Mae pawb yn haeddu’r un gofal.
Dw i’n sylweddoli bod 90% o bobl sy’n byw gyda chlefyd siwgr efo math 2, ond yn bersonol dwi wir yn meddwl bod angen sianelu mwy o’r dechnoleg i gyfeiriad pobl ifanc sy’n gorfod dysgu byw gyda’r cyflwr cymhleth a rhwystredig hwn.
Un peth dw i’n teimlo sydd wedi bod yn fantais i mi ers cael diagnosis ddwy flynedd yn ôl, ydi’r cyswllt sydd gen i gyda chymaint o bobl a mudiadau ar wefannau cymdeithasol.
Ni feddyliais erioed fod y cyflwr ar Adele, Nick Jonas, Nikita sydd ar Strictly Come Dancing, a hyd yn oed Muhammad Ali! Ers cael diagnosis mae pawb yn dweud eu bod yn adnabod rhywun sy’n byw gyda chlefyd siwgr. Hefyd dw i’n teimlo fel ei fod yn rhyw fath o ddyletswydd arna i fod yn codi ychydig o ymwybyddiaeth am y cyflwr yma. Mae fy nheulu a ffrindiau gyda chymaint o ddiddordeb ynddo. Ac mae’n fy synnu i nad oedd dim ohonon ni’n gwybod dim byd am y cyflwr cyn y diagnosis. Cyflwr.
A dyna ydi o, cyflwr. Nid salwch, dim ond darn bach ohono i sydd ddim yn gweithio’n iawn. Ond mae’r gweddill yn champion! Ond i fod yn hollol onest, efo’r newid a’r datblygiadau mewn technoleg ers imi gael diagnosis, mae’n gwneud i mi fod yn optimistig tuag at y dyfodol. Diolch byth bod dyfodol clefyd siwgr yn golygu bod ansawdd bywyd pobl am fod gymaint gwell.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Da iawn ti, Mari!