Cyfnod i’w gofio gyda’r Academi Amaeth

Barn

Lleisiau Newydd:

gan Llio Davies, Blwyddyn 13,  Ysgol Glan Clwyd

Llio Davies ydw i, yn ferch fferm o Lannefydd, ger Dinbych. Yn ffodus llynedd, cefais fy newis i fod yn rhan o Raglen yr Ifanc ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-19 oed yn yr Academi Amaeth. Rwyf am rannu hefo chi ychydig o gynnwys y rhaglen a’r profiadau gwerthfawr rydym wedi eu derbyn hyd yma.

Trip 1 – Nant Gwrtheyrn

O fewn ein rhaglen ni, cawsom y cyfle i fod yn Nant Gwrtheyrn am dair noson gan ymweld â Llaethdy Mona, fferm Cefn Amwlch, i siarad â busnes o fewn ‘microdairy’, milfeddyg, dysgu am y gadwyn fwyd a llawer mwy.

Trip 2 – Yr Iseldiroedd

Mis Awst diwethaf, cawsom y cyfle anhygoel o ymweld â’r Iseldiroedd am bedair noson. Hedfan  allan o faes awyr Manceinion a glanio yn Amsterdam cyn teithio i dde y wlad i Rotterdam.

Yr ymweliad cyntaf oedd ‘Floating Farm’ a oedd yn ffarm hunangynhaliol yn arnofio yng nghanol y ddinas. Sied gyda thri llawr ar gyfer 32 o wartheg a oedd yn cynhyrchu llaeth gyda robotiaid yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith. Ar yr ail lawr, roedd lle ar gyfer prosesu carthion a llaethdy ar y trydydd llawr ar gyfer dal dŵr gyda phaneli solar o amgylch y lle. Roedd gwastraff y fuwch yn cael ei wahanu ac yn cael ei werthu yn lleol, yn ogystal â rhedeg siop!

Dyma yn sicr wlad oedd yn codi ymwybyddiaeth o ail ddefnyddio pob defnydd ac addysgu pobl am amaethyddiaeth.

I’r fferm deuluol arloesol nesaf a oedd yn 7 hectar gyda 60 o wartheg a 30 o wartheg ifanc. O achos cyfyngiad tir, roeddent yn tyfu maize ym mhob man am ei fod yn gnwd mwy egnïol ac felly roedd gwartheg dan do drwy’r flwyddyn. Roedd y sied yn dechnegol iawn hefo robotiaid, yn gwahanu carthion er mwyn gwerthu wrin i gwmni chwistrellu ac roedd planhigion yn tyfu i roi aer ffres.

Ymlaen i fferm cig llo Eric Verschuure oedd yn cadw dros fil o dda byw – ble roeddent yn eu prynu tua 2-4 wythnos ac yn eu lladd tua 16-18 wythnos. Roeddent yn gwneud hyn ddwywaith y flwyddyn.

Nesaf i fferm ‘Familie Peer’ oedd gyda 2,200 o foch a 120 o wartheg godro ar ddau robot. Sialc oedd yn cael ei roi ar wely’r gwartheg, gyda ffaniau yn taenu dŵr i oeri’r gwartheg. Yn ogystal â hyn, roeddent yn cynnal gofal dydd i bobl sy’n dioddef o ddementia ar y fferm.  Aethon i ymweld â ‘Kipster’ sydd yn fferm gyda 24,000 o ieir a oedd yn dodwy 7.1miliwn o wyau y flwyddyn. Ar ddiwedd ein taith amhrisiadwy, aethom i ‘Royal Flora’ sydd yn farchnad enfawr i’r byd blodau.

Trip 3 – Llangrannog

Yng ngwyliau hanner tymor yr Hydref, aros yn Llangrannog. Cychwyn drwy ymweld â busnes ‘Real Seeds’ a oedd yn gweithio ar 2.5 acer,  cyflogi 10 person ac yn gwneud trosiant o naw can mil o bunnau. Cwmni oedd yn prynu a chynhyrchu hadau llysiau a ffrwythau ac yn cyflenwi hyd at 40,000 o bacedi y flwyddyn ar draws y DU.

Ymlaen i’r fferm uchaf yn Sir Benfro gyda 5000 o ddefaid ar fynyddoedd y Preseli, ble roeddent yn cofnodi perfformiad gwella’r ddiadel. Roedd ei ddefaid allan drwy’r flwyddyn. Yna, aethon i ‘Moody Cow’ sydd yn fusnes sydd wedi arallgyfeirio i wneud caffi, lleoliad cynnal digwyddiadau, yn dai gwyliau, yn fan chwarae plant a pharc carafanau.

O achos eu busnes llwyddiannus, mae ganddynt y bwriad y flwyddyn nesaf i ehangu i wneud canolfan hamdden.  Ymlaen i’r safle nesa – a fu yn agoriad llygad i mi – sef lladd-dy Dunbia. Roeddent yn prosesu 3.5miliwn o ŵyn y flwyddyn ac 1.5miliwn o wartheg a oedd yn cyfrannu hyd at 2.2biliwn yn flynyddol i economïau gwledig. Yna symud  i lawr y gadwyn, i Gastell Howell ble cawsom  gipolwg ar y busnes enfawr sydd yn gefnogol tu hwnt i fusnesau eraill.

Roedd ganddynt dros 14,000 o gynhyrchion gwahanol a hynny ar gyfer dros 4,000 o gwsmeriaid. Bob dydd, roeddent yn dosbarthu tua mil o baledi ar 170 o gerbydau. Cawsom siaradwyr gwadd yn ein dysgu sut mae ffermio cyfran yn gweithio, cyn gorffen gyda her ysgrifennu sgript i ddatblygu ein sgiliau cyfathrebu a delio gyda’r cyfryngau.

Yn sicr, rwyf wedi cael cyfleoedd anhygoel, ac rwy’n ddiolchgar iawn am hyn.

Rwyf wedi cael y cyfle i wneud ffrindiau newydd, i gael cysylltiadau gwahanol, ehangu ar fy ngwybodaeth a rhwydweithio gyda rhai o bobl fwyaf blaenllaw yn y diwydiant bwyd a ffermio. Yn sicr, buaswn yn annog unrhyw un sydd gyda diddordeb i fanteisio ar y cyfle yma. Diolch i Gyswllt Ffermio ac yn arbennig i Sam a’r tîm am waith trefnu penigamp!

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau