Llesiau Newydd:
gan Y Ddysgwraig
Pa mor llawn yw eich bwced stress?
Mae’n gwestiwn nad oeddwn i wedi meddwl o gwbl amdano nes gofynnwyd i mi wagio fy mwced yr wythnos diwethaf.
Digwyddodd hyn ar gwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl tra roeddwn yn y gwaith.
Mi wnes i ddysgu ein bod i gyd yn medru cario gwahanol feintiau o bwysau ag hefo gwahanol ‘stress signatures’.
Y llofnodion straen hyn yw’r symptomau rydyn ni’n eu profi a’r ymddygiadau rydyn ni’n eu dangos pan rydyn ni dan straen, ac mae gennym ni i gyd strategaethau ymdopi gwahanol – rhai sy’n ddefnyddiol ac eraill sydd ddim.
Yn bersonol, pan dwi dan straen dwi’n dioddef o gur pen ac yn mynd yn flin. Mae’n debyg mae’r pethau yma yw fy ‘llofnodion’ straen.
Mae gen i ffrind sy’n colli ei lais pan mae o dan straen. Fy strategaethau ymdopi i yw cymryd bath hir, mynd am dro hir, neu dreulio amser yn yr ardd. Y strategaeth sydd ddim rili yn ddefnyddiol yw treulio chwarter awr ar ‘Candy Crush’ oherwydd mae hyn fel arfer yn fy ngwneud yn waeth!
Mae’n amser anodd o’r flwyddyn, a dwi’n teimlo fel does gennyf i ddim llawer o wmff.
Mae’r tywydd wedi bod yn gyfres o stormydd (wedi’u henwi) ers y Nadolig sydd wedi ei gwneud hi’n amhosib bod yn yr ardd, ac mae’r ardd yn lloches ymdopi mawr i mi – dyma lle mae fy nhraed bob amser yn mynd â fi pan mae lot ar fy meddwl.
Mae’r gwyntoedd cryf yn ddiweddar wedi codi nid jyst y trampolîn o’r ardd ond hefyd fy lefelau pryder. Bob tro mae yna wyntoedd cryfion, dwi’n poeni ac ar bigau’r drain. Gallaf deimlo fy hun yn drysu a dwi lawer mwy trwsgl pan dwi allan yn yr elfennau cryfion, yn fwy tebygol o droedio ar bethau nad oeddwn i’n bwriadu sathru arnynt (yr wythnos diwethaf mi wnes i faglu ar weiren bigog ag yna sathru ar hen hoelen).
Dwi’n meddwl mai’r sŵn y gwynt sy’n fy nychryn, gan ei fod yn dwyn fy synnwyr o glywed popeth arall. Mae’n codi ofn cyntefig ynof a dwi’n ofni y gallai’r annisgwyl ddigwydd pan mae hi’n chwythu fel y diawl.
Mae’n gythryblus ar ryw lefel ddwfn. Yn ogystal â hynny mae’n boen pan fydd fy mwced o chwyn yn chwythu drosodd – a pheidiwch â sôn am y bins! Tair gwaith dwi di bod allan yn ddiweddar oherwydd bod yr ailgylchu ar draws y lle. Dwi ddim isio treulio sawl bore yn casglu fy sbwriel fy hun! Wrth imi sgwennu’r golofn ‘ma dwi’n rhamantu a hiraethu am y misoedd sychach o Ebrill ymlaen.
Felly, yn dymhorol, daeth y cwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl ar amser da. Fe wnes i fwynhau, ond roeddaf yn ei chael hi’n anodd hefyd.
Cawsom astudiaethau manwl i weithio drwyddynt mewn grwpiau bach ac er fy mod yn sylwi ar bryder cyffredinol, methais â sylwi ar syndrom imposter, dicter, diffyg hyder ac anhwylder bwyta posibl yn y gwahanol senarios.
Yn ffodus i mi, roedd y bobol yn yr un grŵp a fi yn dallt eu pethe. I fod yn onest, mae gennyf i lot mwy i ddysgu am iechyd meddwl. Dwi’n cael trafferth gyda sylwi ar giwiau ac arwyddion. Mae’n rhaid i bethau fod yn glir iawn, ac nid ydynt yn amlwg i mi o hyd.
Ond, cyn belled ac mae fy iechyd meddwl i dan y chwydd wydr, dwi’n gwybod un peth – dwi’n berson sydd yn hoffi cael trefn ar bethe. A cyn belled fod y bwced chwyn ar bins yn aros yn llonydd – mi fydd yna lonyddwch yn fy meddwl i.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.