Tybed oes angen rhyw fath o newid?

Barn

Lleisiau Newydd:

BARN: gan Cai Huws

Yr un stori yn Uwch Gynghrair Cymru hyd hyn.

Hanner ffordd drwy’r tymor, gyda’r gynghrair yn haneru’n ddwy ar gyfer yr ail, ac mae’r Seintiau Newydd ymhell, bell, ar y blaen eto fyth.

Ar ôl dwy ar hugain o gemau roedden nhw bymtheg pwynt ar y blaen yn barod, a hwythau chwaith heb golli’r un gêm.

Mae hi’n dymor llwyddiannus arall iddynt.

Ym mis Ionawr fe enillon nhw eu cwpan cyntaf eleni, Cwpan y Gynghrair, a hynny o bum gôl i un yn erbyn tîm dan 21 Abertawe.

Pan gyflwynwyd y strwythur o ddeuddeg tîm yn 2010, fe ddechreuwyd haneru’r gynghrair hanner ffordd drwy’r tymor, gyda’r gemau ail gyfle ar gyfer Ewrop wedyn yn uchafbwynt i’r cyfan ar y diwedd.

Mae’r chwech uchaf, ar ddiwedd rhan un, yn sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle gan adael y chwe gwaelod i frwydro am y seithfed safle yn ail ran y tymor.

Rhoddir cyfle i’r tîm sy’n gorffen yn seithfed wedyn chwarae yn y gemau ail gyfle hefyd. Gwendid hyn i gyd yw bod bob clwb yn chwarae’r un pum tîm o leiaf bedair gwaith mewn tymor.

Daeth rhan gyntaf y tymor i ben yn ddiweddar, gyda Chaernarfon yn sicrhau’r chweched safle ar draul Hwlffordd. Mae yna ryw naws ddiwedd tymor i’r gemau sy’n cloi’r rhan gyntaf. Gall, fe all fod yn gyffrous i’w wylio. Ond tybed a fyddai yna brotestio mawr yn erbyn unrhyw benderfyniad a fyddai’n golygu dod â’r math yma o beth i ben chwaith?

Does dim o’i le ar fynd yn ôl i hen arferion weithiau. Fe wyddwn mai’r tueddiad erbyn heddiw ydi i bawb fod yn agored i ddatblygu dulliau newydd a chyfoes, ond mae mynd yn ôl i hen ffyrdd o wneud pethau’n opsiwn gwerth ei gael yn fy marn i.

Cyn i’r gynghrair leihau i gynnwys deuddeg clwb, bu deunaw clwb yn rhan ohoni am flynyddoedd lawer. Fel y codir bob blwyddyn, mae yna sôn eto eleni fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n chwarae â’r syniad o gynyddu nifer y timau ar gyfer y dyfodol.

Byddai deunaw, neu hyd yn oed ugain clwb, yn  golygu y byddai yna’n sicr fwy o ddiddordeb yn y gynghrair. Fe fyddai mwy o gemau i ddechrau, a’r rheini’n gemau na fyddai’n digwydd fwy na dwywaith mewn un  tymor.  Ac ie, dwi’n deall mai’r un stori fyddai hi eto o ran y sawl fyddai ar y brig, ond mae’n bur annhebygol y bydd hynny’n newid ta waeth beth fydd strwythur y gynghrair. Yr hyn sydd ei angen yn yr Uwch Gynghrair yn fwy na dim ydi newydd-deb.

Wrth drafod Cwpan y Gynghrair yn ddiweddar fe ddywedodd rheolwr Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, ei hun: “Mi rydym ni i gyd yn gwybod yn yr Uwch Gynghrair ein bod ni’n mynd i chwarae Cei Connah o leiaf bum gwaith y tymor hwn. Mae’n ormod weithiau, felly mae hi wedi bod yn braf chwarae gwahanol dimau a mynd i wahanol leoedd nad ydych chi’n mynd iddynt bob wythnos”

Parhau i ennill gemau ac ennill mwy o gwpanau fydd nod Y Seintiau Newydd gwych yn y cyfamser wrth gwrs.

Boed hynny mewn cynghrair o ddeuddeg clwb neu beidio.

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau