Gobeithiwn oll am bencampwriaeth a fydd yn ail-danio’r fflam

Barn

Lleisiau Newydd:

Rhagolwg ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad 

BARN: gan Steffan Alun Leonard

Erbyn hyn mae rheolwr Cymru, Warren Gatland wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad – a daw hynny wedi i Louis Rees-Zammit gyhoeddi ei fwriad i ymuno â’r Gynghrair Pêl-droed Genedlaethol (NFL) yn yr Unol Dalethau. 

Ymysg newidiadau di-ri yn edrychiad y garfan, hwyrach mai ymdeimlad cyffredinol cefnogwyr Cymru yw un o ansicrwydd ynghylch y chwaraewyr ifanc sydd wedi’u dewis i gynrychioli’r wlad yn y bencampwriaeth eleni. 

Y Garfan

Blaenwyr: Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Gareth Thomas, Elliot Dee, Ryan Elias, Evan Lloyd, Keiron Assiratti, Leon Brown, Archie Griffin, Adam Beard, Dafydd Jenkins, Will Rowlands, Teddy Williams, Taine Basham, James Botham, Alex Mann, Mackenzie Martin, Tommy Reffell, Aaron Wainwright. 

Olwyr: Gareth Davies, Kieran Hardy, Tomos Williams, Sam Costelow, Cai Evans, Ioan Lloyd, Mason Grady, George North, Joe Roberts, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Rio Dyer, Tom Rogers, Cameron Winnett. 

Mae pump o’r chwaraewr heb gap eto; Alex Mann, Mackenzie Martin, Evan Lloyd, Cameron Winnett ac Archie Griffin – gydag wyth chwaraewr arall yn edrych i wneud eu hymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.  

Mae Owen Watkin a James Botham wedi cael eu hail-alw i’r tîm, a gyda phrofiad cyfyngedig ymysg y garfan, fe ddaw ar ffurf chwaraewyr fel George North, Gareth Davies, Josh Adams, Aaron Wainwright ac Adam Beard. 

Arweinydd newydd yn ymddangos 

Gyda Dewi Lake a Jac Morgan yn colli eu lle yn y garfan trwy anafiadau, y gŵr ifanc o Ben-y-Bont, Dafydd Jenkins, yw dewis Warren Gatland i arwain Cymru.  

Daw’r penderfyniad wedi i Jenkins chwarae rôl flaengar yn adfywiad yr Exeter Chiefs yn Uwch Gynghrair Gallagher a safle yn rownd yr 16 olaf yng Nghwpan Pencampwyr Investec. 

Mae’n amlwg ar ôl clywed geiriau Prif Hyfforddwr Cymru yr wythnos hon ei fod yn gweld ei ddewisiadau ar gyfer y garfan fel rhai sydd yn cadw’r dyfodol a Chwpan y Byd nesaf o dan ystyriaeth. 

“Mae’n rhaid ailosod o ran nodau a’r hyn yr ydym am ei gyflawni. Rydym wedi colli llawer o brofiad, ond mae’n gylch newydd. Mae angen ychydig o amynedd gan y cyhoedd yng Nghymru.  

“Rwy’n gobeithio y gallent weld o gael amser gyda’n gilydd y gallwn ddatblygu carfan dros y blynyddoedd nesaf.” 

Wedi perfformiadau siomedig y garfan yn y gystadleuaeth llynedd a chwestiynnau ynghylch y dynion mewn coch eleni, mae gan yr ifanc  rhywbeth i’w brofi. Gyda rhai o gewri presennol y byd rygbi yn eu hwynebu eto eleni fe fydd sialens o’u blaenau yn sicr; ond gyda thair gêm gartref, mi fydd cefnogwyr Cymru yn gobeithio am berfformiadau cadarnhaol gan y chwaraewyr. 

Wrth i garfan tîm Cenedlaethol Rygbi Cymru barhau i ddatblygu, mi fydd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle gwirioneddol i’r rheini sy’n gwisgo coch i sefydlu eu henwau fel rhai ar gyfer y dyfodol. O dan gysgod drama Louis Rees-Zammit, a’r cwestiynau parhaus ynghylch rheolaeth Undeb Rygbi Cymru; gobeithiwn oll am bencampwriaeth a fydd yn ail-danio’r fflam. 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau