‘Mae cymunedau cyfan yn dod o Loegr – dydyn nhw ddim yn gorfod poeni am siarad Cymraeg’
Gwyneth Glyn a Twm Morys fu’n sgwrsio efo’r Cymro am eu halbwm diweddar, y mewnfudo niweidiol… o, a sut byddai cael gwared ar far maes y Steddfod yn dda o beth!
Bu Deian ap Rhisiart yn holi Twm Morys a Gwyneth Glyn mewn galwad rithiol yn ddiweddar ac yn edrych yn ôl ar 2023 pan aethant ati i ryddhau eu halbwm gyntaf erioed fel deuawd gerddorol.
Symudodd y sgwrs ar wibdaith rhwng trafod yr albwm newydd i ymgyrch ‘amhoblogaidd’ Twm i gael gwared â’r bar ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, i fyw yn Eifionydd mewn cymuned sydd dan fygythiad parhaol.
Mewnfudo yn fwy nag erioed
Mae’r ddau yn byw yn ardal Cricieth yn Eifionydd ac mae’r dirywiad yn y cymunedau Cymraeg yn bryder mawr iddynt, gyda Twm yn gweld y mewnfudo yn cael effaith ar bob agwedd o’r gymuned.
“Mae’r mewnfudo bellach yn fwy nag erioed. Mae “chydig o fewnfudo fel lefain newydd drwy’r dorth, yn cyfoethogi diwylliant ond pan mae ’na domen o bobl ru’n fath yn dŵad, maen nhw’n creu eu gwlad nhw’u hunain o fewn gwlad arall a dyna sy’n digwydd yng Nghymru”.
Mae’n gweld fod cymunedau cyfan yn symud i Gymru heb orfod poeni am ddysgu’r Gymraeg. “Be’ sy’n digwydd rŵan ydi bod cymunedau cyfan yn dod o Loegr, cymunedau cyfan sydd efo’i gilydd, wedyn, dydyn nhw ddim yn gorfod poeni am siarad Cymraeg achos mae yna ddigonedd ohonyn nhw i beidio, a’u plant nhw, maen nhw’n mynd i’r ysgol, ond dydyn nhw’n cael dim cefnogaeth gen eu rhieni i fod yn Gymry.”
Mae Gwyneth yn gweld o bersbectif ei chenhedlaeth ei bod yn anodd tu hwnt i symud yn ôl i gymunedau gwledig bellach. “Ma’ cyplau a theuluoedd ifanc sydd eisiau symud yn ôl – ma’ nhw’n chael hi’n anodd i fyw yn eu cymunedau eu hunain.”
Ymgyrch amhoblogaidd iawn
Aeth y drafodaeth ymlaen i bwyso a mesur yr Eisteddfod Genedlaethol fel chwistrelliad o Gymreictod, ond mae Twm yn amau ei gwerth bellach o ran hybu Cymreictod mewn cymunedau.
A gwraidd y broblem, meddai, yw’r bar ar faes yr Eisteddfod. “Ti’n sôn am y Steddfod ’wan yn dod â chwistrelliad iachus i ni bob blwyddyn, dwi’n dechrau amau bod hynny’n wir. Dwi wedi cychwyn yr ymgyrch fwya’ amhoblogaidd erioed yn hanes Cymru. Pan ddoth y bar ar y maes, y fi oedd y cyntaf yn y wisg wen i fynd iddo fo, fi a Mei Mac a Robin Llywelyn o bosib Myrddin ap Dafydd, ddaru ni ddengid o’r orymdaith o’r Orsedd y tu ôl i goeden o fanno wedyn i’r bar a phrynu peint o Guinness.”
Mae’n cydnabod fod ei farn tuag at far wedi newid yn llwyr: “Oddan ni wrth ein bodda, peth gora o’dd wedi digwydd yn oes yr Eisteddfod erioed. Ond o dipyn i beth dwi wedi sylweddoli i’r gwrthwyneb ei fod yn un o’r pethe gwaetha sydd wedi digwydd yn hanes yr Eisteddfod achos dwi ar fai fel pawb arall.”
“Rheini ohona’ ni sy’n aros yn y maes carafanau, mynd i’r maes, gwneud ein gwaith, mynd i’r bar, canu, ’dan ni ddim yn mynd ddim mwy i’r tai tafarn lleol sydd wedi paratoi ers misoedd i brynu llwyth o gwrw, byntings yn bob man, wedi cyflogi staff ychwanegol, wedi dysgu mwy o Gymraeg ac ati.”
Mae Twm yn grediniol fod yr Eisteddfod: “…wedi colli ei hamcanion pennaf hi sef yn lefain trwy’r cwbl. Cenhadu – yn enwedig gan ei bod yn y Cymoedd flwyddyn nesaf; dydan ni byth yn mynd i weld y bobl bellach!” Ychwanegodd: “Festival ydi o bellach, nid gŵyl, nid gŵyl i’r Cymry.”
Yr albwm ‘Tocyn Unffordd i Lawenydd’
Mae Tocyn Unffordd i Lawenydd yn gasgliad o ganeuon gwerinol sydd wedi dod at ei gilydd dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd yr albwm ei lansio yn answyddogol ar ddechrau’r Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd tra bod y ddau ohonynt yn brysur mewn amryfal brosiectau yn cynnwys cyngerdd Curiad.
Yn ôl Twm: “Fuodd yna ddim lansiad yn iawn. Mae hynny’n biti garw. Doedden ni ddim yn hollol barod i chware’r albwm ar ei hyd.”
Wrth ystyried hyd a lled yr albwm, dywedodd Gwyneth: “Wrth sbïo ‘nol yn gweld mae yna ryw linyn thematig yn rhedeg drwyddi ond ar y pryd mynd ati i recordio’r caneuon dani ’di bod yn ganu ers rhai blynyddoedd ddaru ni. A hithau’n ’Steddfod Boduan a bod ni wedi aros cyhyd amdani. Odd hynny am wn i yn gosod nod i ni gael hi allan cyn ’Steddfod. Mi oedd Twm wedi cael ei gomisiynu i sgwennu Cymru’n Un.”
“Mi oedd ’Steddfod yn Eifionydd a Llŷn yn thema ynddo’i hun”, meddai Gwyneth, “ac fel arall, caneuon gwerin a rhyw ganeuon gwerin ydan ni wedi trefnu’n hunain.”
Ychwanegodd Twm: “Mae yna ambell i gân wreiddiol sydd i ni yn plethu i’r traddodiad hwnnw – y caneuon gwerin hynny ydan ni wedi bod yn ganu ers blynyddoedd. Mae gen ti hawl i fynd a chân i le fynni di.”
Ymhlith y caneuon ar y rhestr y mae’r baledi cyfarwydd, Ffarwel i blwy Llangywer a’r Gog lwydlas, lle maent wedi eu siapio gan ychwanegu penillion newydd at yr hen ffefrynnau.
Dyna sut mae Twm yn gweld y broses gyfansoddi, fel eglurodd: “Mi ydym yn defnyddio’n traddodiad ni, yn mynd yn ôl i niwloedd amser. Mae’n beth byw, nid i fod mewn amgueddfa. Mae’r traddodiad yn ail-greu ei hun, yr ystyr yn dod yn ei ôl yn wahanol.”
Credai Gwyneth: “….fod llawer o’r caneuon yn bruddglwyfus a ddim at ddant pawb”, ond mae angen rhywbeth llawen gobeithiol “ac
erbyn y diwrnod wedyn mi oedd Twm wedi cyfansoddi Tocyn Unffordd i Lawenydd. Mae yna thema o deithio a cholled.”
Mae Gwyneth Glyn hefyd wedi bod yn rhan o’r band aml-dalentog, Pedair, gyda Meinir Gwilym, Sian James a Gwenan Gibbard.
Bu llynedd yn brysur i bedair Pedair, fel yr eglurodd: “Wedi cael blwyddyn eithriadol, haf diwethaf ddaeth yr albwm allan. Wedyn ’da ni wedi bod yn teithio’n gyson dros y flwyddyn. Yn goron ar y cwbl, cael gwobr albwm y flwyddyn yn Steddfod oedd yn hyfryd. A hefyd gweithio’n galed tuag at gyngerdd Curiad.”
Beth nesaf i’r ddau?
Mae Gwyneth yn perfformio un cyngerdd arall o Curiad yn Pontio, Bangor tra bod Twm mewn cyfyng gyngor o ran pwy y bydd yn rhannu ei ganeuon nesaf.
“Os dwi’n gwneud cân newydd rŵan, be ydw i am neud efo hi wedyn? – canu efo Gwyneth?, neu ganu gyda Bob Delyn a’r Ebillion? Dwi’n gobeithio y gallwn ni recordio albwm arall! (efo Gwyneth)”
Gan eirio un o ganeuon Bob Delyn a’r Ebillion, Ymlaen â’r trên ’sgwarnogod yn 2024!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.