Lleisiau Newydd:
gan Ffion Thomas, Blwyddyn 12, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Symud o le i le? – neu a ddylem ddewis sawl lleoliad penodol. Beth yw’r dadleuon felly?
‘Y gwir yn erbyn y byd’ ‘A oes Heddwch?’ Mae’r geiriau yma yn hynod o gyfarwydd i’r rhan helaeth ohonom.
Cofiwn eistedd mewn pabell orlawn yn gwylio enillwyr yn cael eu hanrhydeddu ar y llwyfan ar ôl diwrnod hir o ragbrofion a glaw. Yn flynyddol daw miloedd o bobl o bob cwr a chornel o Gymru i un o ddathliadau diwylliannol mwyaf Ewrop.
Ni ellir gwadu bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn gadael ei marc yn yr ardaloedd y mae’n mynd i gan annog mwy bob blwyddyn i ddysgu Cymraeg ac i ymfalchïo yn eu diwylliant. Ond mae’n rhaid gofyn: Ydy hi werth y gost?
Yn dilyn Eisteddfod Caerdydd yn 2018 gwariwyd miloedd i adfywio caeau Pontcanna yn dilyn croesawu Maes B. Ymhellach cafwyd colled o bron i £300,000 pan fu’r Eisteddfod yng Nghaerdydd.
Ar yr ochr arall mae’r Eisteddfod wedi bod yn llwyddiant aruthrol mewn ardaloedd eraill megis pan oedd yn Ynys Môn y 2017, cynhyrchwyd £93,000 o elw. Gall yr amrywiaeth yma fod o achos gwahanol niferoedd o ymwelwyr. Ond gwraidd y broblem yw’r costau rhedeg cyferbyniol sy’n dibynnu yn fawr ar yr ardal.
Yn achos yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd roedd angen gwario llawer o arian ychwanegol ar ddiogelwch ynghyd â mynediad am ddim i’r maes. Yn ogystal, wrth i’r Eisteddfod dyfu a thyfu mae’n anoddach i ddod o hyd i ardal sydd yn gallu cynnal y maes anferth a’r holl ymwelwyr.
Y datrysiad posib i hyn yw cynnal yr Eisteddfod mewn pedwar lleoliad sy’n cylchdroi yn flynyddol. Trwy wneud hyn bydd llai o arian yn cael ei golli, mwy o bobl yn gallu cyrraedd y maes a bydd yn haws i’r trefnwyr ganolbwyntio ar elfennau eraill pwysig o’r ŵyl.
Fodd bynnag – yn fy marn i – mae’n amhosib anwybyddu pwysigrwydd Eisteddfod sy’n symud o gwmpas. Ers i’r Eisteddfod Genedlaethol ‘fodern’ gyntaf gael ei chynnal yn 1861 yn Aberdâr mae wedi symud o amgylch Cymru gan annog pobl i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant.
Yn ddiweddar gwelir nifer cynyddol ddi-gymraeg yr ardal yn ymweld â’r Eisteddfod a chael eu hysbrydoli i ddysgu’r iaith. Yn syml, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn uno cymunedau lleol boed yno siaradwyr Cymraeg ai peidio. Disgwylir hyn ar ei orau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Rhondda Cynon Taf gan fod y siaradwyr iaith gyntaf o ran y Gymraeg yn y lleiafrif.
Serch hyn, rhaid cofio bod yr ardal hon yn gartref i ddwy o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg cyntaf De Cymru, sef Rhydfelen (Garth Olwg bellach) ac Ysgol Llanhari. Yn addas iawn, mae’r ddwy ysgol yn noddi prif seremonïau yn yr Eisteddfod yn 2024. Ysgol Llanhari fydd yn noddi’r gadair yn y flwyddyn pan fydd yr Eisteddfod yn croesawu’r Archdderwydd newydd, Mererid Hopwood – sef un o ddisgyblion cynharaf yr ysgol.
Dywed y pennaeth Mrs Meinir Thomas: “Braf fydd y cyfle nawr i ddisgyblion presennol fod yn rhan o’r bwrlwm eisteddfodol a dathlu eu hunaniaeth.”
Dengys hyn arwyddocâd symudiad yr Eisteddfod o le i le – mae’n cadw ein diwylliant yn fyw gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ymfalchïo yn ein traddodiadau holl bwysig. Gwelir hyn yn glir trwy’r datblygiad o Faes B, maes i bobl ifanc Cymru ddod at ei gilydd i fwynhau cerddoriaeth a bandiau Cymreig ar ei gorau.
Dywed rhai o ddisgyblion chweched Llanhari: ‘…rydyn ni’n gyffrous i fynd i Faes B ym mis Awst. Aethon ni ddim pan oedd yn y Gogledd, ond gan fod yr Eisteddfod yn ein hardal ni, rydym yn edrych ymlaen at y profiad newydd’
Crisiala hyn bwysigrwydd yr Eisteddfod ar gyfer dyfodol ein hiaith. Gan symud o amgylch y wlad mae ei neges a’i effaith yn cyrraedd mannau ni allai gyrraedd petai’n aros yn yr un pedwar lleoliad.
Yn syml, wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol dyfu a datblygu mae angen ystyried yr effaith ar economi a byd natur leol yr ardaloedd mae’n ymweld â nhw. Er hynny mae’n hanfodol i ni gynnal traddodiad ac ysbryd yr Eisteddfod gan adael iddi deithio o fan i fan ac ysbrydoli pobl ddi-gymraeg a phobl ifanc i werthfawrogi ein diwylliant ac iaith unigryw.
Felly yn lle cyfyngu’r ŵyl eiconig hon i bedwar lleoliad, rhaid dyfeisio ffyrdd i wneud yr Eisteddfod yn fwy cynaliadwy, hygyrch a fforddiadwy er mwyn ehangu’r neges i bob rhan o Gymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.