Llesiau Newydd:
Yn sicr mae’r pwysau ariannol yn cynyddu
gan Seren Williams, Blwyddyn 12, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
I fyfyrwyr, mae’r gobeithion o gael tŷ cynnes a bwyd cynnes ar y bwrdd yn cael eu chwalu’n gyflym gan yr argyfwng costau byw presennol.
Mae arolwg a gafodd ei greu gan Undebau Myfyrwyr Prifysgol Grŵp Russell am yr argyfwng yn dangos yn glir yr hyn y mae’r cenedlaethau iau yn stryglo gyda – ac mae’n frawychus.
Mae’r arolwg yn dangos bod niferoedd uchel o fyfyrwyr Prifysgol yn hynod bryderus gan fod traean yn byw ar ddim ond £50 y mis ar ôl talu rhent a biliau.
Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod o leiaf un o bob pum myfyriwr wedi gorfod cynyddu eu horiau gwaith drwy weithio dwy swydd. O ganlyniad mae hyn yn rhoi llawer llai o amser i’r myfyrwyr hynny ganolbwyntio ar eu haddysg.
Dywedodd 68% o fyfyrwyr nad ydynt yn gallu talu am eu deunydd cwrs a hwn mewn cyfnod hefyd pan mae’r DU yn wynebu cynnydd mewn cyfraddau chwyddiant – a gododd uwchlaw 10% ym mis Mawrth eleni. Ym mis Ionawr cyhoeddodd y Llywodraeth gynnydd o 2.8% mewn benthyciadau i fyfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24 er bod yr Adran Addysg wedi nodi y byddai angen cynnydd o 14% o leiaf er mwyn cadw i fyny â’r argyfwng costau byw.
Er bod y mwyafrif helaeth o fyfyrwyr yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, y rhai yr effeithir arnynt fwyaf yw’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol anodd, myfyrwyr rhyngwladol, a’r rhai ohonom sydd â dibynyddion – i gyd yn cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd.
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod pwysau ariannol mawr yn effeithio ar astudiaethau myfyrwyr, gyda dros hanner (54%) yn dweud bod eu perfformiad academaidd wedi dioddef yn ddramatig oherwydd yr argyfwng ac 18% yn ystyried rhoi’r gorau iddi oherwydd rhesymau ariannol.
Mewn ymateb i gostau byw cynyddol, mae Prifysgolion Grŵp Russell yn cynyddu eu cymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys buddsoddi degau o filiynau mewn cyllid caledi ychwanegol a chymorth ariannol arall, yn ogystal ag ystod o fesurau eraill megis darparu bwyd â chymhorthdal ac ehangu mynediad i gyfleusterau campws.
Fodd bynnag, mae angen cymorth ychwanegol gan y Llywodraeth ar frys i fynd i’r afael â’r pwysau ariannol cynyddol ar fyfyrwyr.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.