Y ffermwr Cymraeg sydd â miliwn a hanner o ddilynwyr ar YouTube a chwarter miliwn arall ar Facebook
gan Deian ap Rhisiart
Mewn cyfweliad arbennig gyda’r Cymro, mae’r ffermwr adnabyddus o Lanfairfechan, Gareth Wyn Jones yn trafod y cyfryngau cymdeithasol, cynhyrchu bwyd a chytundebau masnach ar ôl Brexit.
Bu’n sgwrsio gyda Deian ap Rhisiart ar daith trên ar ei ffordd yn ôl o Lundain.
Yn ddiweddar, llwyddodd Gareth i gyrraedd dros filiwn o danysgrifiadau ar blatfform YouTube, a biliwn yn gwylio’i fideos.
“Dwi wedi bod yn cael dipyn o gyfleoedd yn y gorffennol efo S4C a’r BBC, ond ers hynny, dwi heb gael cymaint o waith, ac felly mi roedd yn rhaid i mi newid a chwilio am ffordd arall o neud pethau, a chreu llwyfan gwahanol.
“Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i fi. Yn ôl y sôn, y fi ydi’r ffarmwr sydd hefo’r mwyaf o ddilynwyr yn yr holl fyd ar YouTube.”
Mae’n credu fod y platfform yn ffordd effeithiol o ddangos ei ffordd o fyw: “Mae’r cyfrwng yn ffordd o ddangos be mae’n costio i gynhyrchu bwyd. Mae’n bwysig bod gynnon ni lais.
“Mae yna lawer o bobl yn rhoi bai ar amaeth am broblemau’r hinsawdd, a phobl sy’n cynhyrchu cig coch. Dwi’n trio rhoi’r safbwynt o’n hochr ni fel diwydiant – bod yn onest.”
O ran ei rôl fel ffigwr cyhoeddus, dywedodd: “Wrth gwrs, mae yna lawer yn cefnogi ac eraill yn gryf yn erbyn. Dwi fel Marmite.”
Ond beth bynnag y mae pobl yn credu amdano fel person, mynnodd: “Mae’r cyfrwng yn gallu bod yn gleddyf ddau fin.
“Ti’n rhoi dy hun allan yno a bod yn barod am y pethau negyddol – mae gan bawb yr hawl i’w farn.
“Ond dwi’n teimlo’n gryf dros beidio camarwain pobl ac mae’n bwysig peidio rhoi pwysau ar bobl yn gyhoeddus, a chamarwain. Misguided propaganda – mae yna lawer yn gwneud hynny”
Mae’r busnes o gynhyrchu bwyd yn rhywbeth y mae Gareth yn teimlo’n gryf drosto.
“Mae bwyd rhad yn dod ar gost, i’r anifail, i’r amgylchedd, i’r ffarmwr. Ond mae’n rhaid i ni sbïo ar bobl sy’n methu fforddio’r bwyd ydan ni’n cynhyrchu a ma’ raid iddyn nhw fynd am fwyd rhad. Mae bwyd wedi bod yn rhy rhad, ond sut ydan ni’n newid hynny? Mae hynny’n mynd i fod yn ddiawl o beth anodd ei newid.”
“Dwi ddim yn ffan o’r ffermydd sy’n gor-gynhyrchu – mae yna gyfran yn mynd i landfill, mae gwir angen newid hynny hefyd.”
O ran brandio’n cynnyrch o Gymru, “Dyle bod ni’n cefnogi ac yn prynu cynnyrch ni’n hunain.”
Dyletswydd yr archfarchnadoedd
Mae’n credu hefyd fod angen i’r archfarchnadoedd wneud gwahaniaeth trwy hybu cynnyrch lleol.
“Y peth sy’n bwysig yw o le mae eu bwyd yn dod, be ma’ nhw’n prynu a sut mae o wedi cael ei gynhyrchu.
“Mae’n gyfle i bob un archfarchnad i ddeud bod nhw’n neud y gwahaniaeth, yn prynu cig yn lleol, yn prynu cig cynaliadwy, ac maen nhw’n ei werthu yn lleol.
“Mae nhw’n gallu gwneud y gwahaniaeth, ond mae rhaid bod nhw isio neud hynny, a gweld bod yna werth iddyn nhw i wario bach yn ychwanegol.
“Mae angen hybu’r Ddraig Goch ar gynnyrch unwaith eto” meddai, “Mae gynnon ni frand sy’n rhywbeth cryf iawn, rywbeth tebyg i’r hyn sy’n Seland Newydd, ac mae’n bwysig edrych ar ei ôl. Mae’n creu mwy o bres i’r diwydiant gan ein gwneud yn llai dibynnol ar drethdalwyr.”
A hithau’n saith mlynedd ers refferendwm Brexit, mae’n gweld colled fawr heb farchnad rydd Ewropeaidd. Ac mae o’r farn fod cytundebau masnachol gyda gwledydd eraill yn tanseilio’r diwydiant.
“Pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd nes i. Dwi’n pryderu yn uffernol i golli’r farchnad rydd. Un peth dwi’n poeni amdano ar hyn o bryd ydi’r cytundeb gydag Awstralia. Mae Llywodraeth Prydain yn ein gwerthu ni allan.”
Ac mae’n ddamniol o Brexit fel syniad, “Con mwyaf oedd Brexit. Boncyrs yn doedd. Mi oedd Ewrop yn farchnad agored i’n cig oen a’n cig eidion. Heb yr Undeb Ewropeaidd, fase llawer o ffermwyr Cymru mewn uffar o dwll heddiw.”
Daeth y sgwrs i ben wrth iddo gyrraedd gorsaf Cyffordd Llandudno ond mae’r daith gyffrous ym mywyd Gareth Wyn Jones yn parhau.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.