Llesiau Newydd:
gan Y Ddysgwraig
Dydi mynd â’r biniau allan gyda’r nos erioed wedi teimlo mor gyffrous!
Ydach chi erioed wedi gweld cath fawr? – mae’n agoriad sgwrs bysech yn defnyddio dim ond hefo ffrindiau da, oherwydd bod hi’n anodd siarad am bynciau felly gyda phobol ddiarth.
I fod yn glir, dwi’n sôn am gathod mawr yng nghefn gwlad y DU, nid am y rhai yn y sw. Dwi’n siŵr fod llawer yn rhoi’r syniad o gathod mawr yn byw yng nghefn gwlad yn yr un lle a phethau eraill anodd iawn i’w credu – ie, fel llongau gofod a Yetis – ond rhaid dweud fy mod reit agored i’r posibilrwydd.
Dwi’n ddigon hen i gofio’r ‘Beast of Bodmin’ felly dwi wastad wedi bod yn ymwybodol o’r pwnc difyr yma.
Yn ddiweddar, wrth chwilio am bodlediad i feddiannu fy meddwl wrth beintio’r stafell sbâr, gwnes i ffeindio podlediad am gathod mawr ym Mhrydain.
Dwi ddim yn siŵr sut daeth hwn i fyny fel argymhelliad. Fel arfer dwi’n gwrando ar raglenni safonol ar gyfer pobl canol oed fel Woman’s Hour, Ramblings gyda Clare Balding a’r Archers wrth gwrs.
Mae yna bobl o bob rhan o’r DU yn cyfrannu i’r podlediad, gyda straeon hynod ddiddorol a chredadwy.
Efallai eu bod yn ymddangos yn ddoniol i rai, ond mae lleisiau’r cyfranwyr yn swnio llawn emosiwn ac mae y rhan fwyaf ohonynt yn teimlo’n reit gredadwy.
Wrth wrando ar y podlediadau – ac mae yna dros gant – dwi wedi dysgu am gathod mawr a pham eu bod nhw’n rhan o’n tirwedd yn y lle cyntaf. Dwedi’r bod dau brif gyfnod rhyddhau wedi bod yn ein hanes diweddar. Yn gyntaf, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan roedd yn anodd cael cyflenwad digonol o gig ffres – rhywbeth y byddech ei angen ar gyfer cath fawr wrth gwrs.
Yn ail, ar ôl Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 bysa angen trwydded arnoch i gadw anifail gwyllt fel anifail anwes. Yn ogystal â chost y drwydded, roedd rheolau llym i’w dilyn. Wrth wynebu’r gost o’r drwydded i gadw anifeiliaid gwyllt dwi’n siŵr bysa llawer wedi ildio i’r temtasiwn a rhyddhau eu hanifail rhywsut.
Pe bawn i’n ffermwr, mae’n debyg y byddwn yn cadw’n ddistaw, pe bai cath fawr yn ymweld â mi.
Byswn i ddim am greu hysteria o unrhyw fath – na denu helwyr i fy nhir chwaith! Bysa dim pwynt reportio y broblem chwaith oherwydd bod cryn ddim cefnogaeth gan gyrff swyddogol ar bethau felly.
“Roedd y carcas wedi ei rwygo yn ddarnau… roedd yn edrych fel clychau’r gwynt” – geiriau un ffermwr wrth iddo ddisgrifio’r hyn oedd ar ôl o un o’i ddefaid brid prin.
Ond mae pobl yn ddiystyriol o’r fath bethau yn dydynt. “Mae’n rhaid mai llwynog, ci, neu fochyn daear oedd o. Pam na wnaeth y person welodd yr anifail dynnu llun?!”
Dwi ddim yn meddwl mai tynnu llun bysa’r peth cyntaf yn fy meddwl i os byswn yn dod wyneb i wyneb a chath fawr chwaith!
Ond dwi erioed wedi cwrdd ag un…. eto.
Y peth ydi – ers i mi ddechrau gwrando ar y podlediadau – dwi’n teimlo’n genfigennus o’r rhai sydd wedi cael ‘encownter’.
A… wyddoch chi be?
Dydi mynd â’r biniau allan gyda’r nos erioed wedi teimlo mor gyffrous!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.