Llesiau Newydd:
gan Megan Williams – Blwyddyn 12, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Ydyn ni fel pobl ifanc yn cael ein hanwybyddu?
Mae hyn yn gwestiwn sy’n aml yn cael ei ddadlau ymysg yr ifanc sy’n cwestiynu a yw’r llywodraeth yn meddwl am eu pobl ifanc ym Mhrydain, neu hyd yn oed yn ystyried ein syniadau, ein blaenoriaethau a’n pryderon.
A ydyn weithiau yn cael ein gwahardd o sgyrsiau pwysig oherwydd bod gennym ddiddordebau a gwerthoedd gwahanol iddyn nhw?
Mae’n wir yn gallu teimlo weithiau fel nad ydym yn rhan bwysig o’r gymdeithas.
Hwyrach bod hyn oherwydd bod y llywodraeth wedi ei lenwi gan genedlaethau hŷn o ddynion sydd fel eu bod weithiau yn poeni ond am y cenedlaethau hŷn o ddynion.
Yn fy marn i mae dal i fod tangynrychiolaeth sylweddol o oedolion ifanc o fewn y llywodraeth sy’n gallu golygu nad ydym yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau er bod y penderfyniadau mawr hyn yn effeithio arnom ni – oherwydd ni yw’r dyfodol. Oherwydd hyn mae pobl ifanc dal yn llai tebygol o bleidleisio na’r genhedlaeth hŷn.
Y ffordd yr wyf yn ei weld, mae llywodraeth y DU fel ei fod weithiau wedi ei ddatgysylltu oddi wrth y cymunedau iau ym Mhrydain sy’n rhan hanfodol o’n gwareiddiad Prydeinig. Mae hynny’n gamgymeriad enfawr gan ein bod ni – yr ifanc – fel arfer yn angerddol am wneud i bawb deimlo bod croeso iddynt a hefyd o beidio â chau pobl i lawr oherwydd eu bod yn wahanol.
Rydym ni fel cenhedlaeth iau a meddwl agored wrth drafod gwahanol ddulliau i helpu’r cyhoedd ym Mhrydain gyda chyfiawnder cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl wrth i ni gael ein haddysgu yn adrannau hyn yr ysgol.
Wrth edrych i mewn o’r tu allan, gall ymddangos fel pe bai’r genhedlaeth iau allan o gysylltiad â’r newyddion a materion cyfoes.
Ond nid felly yw hi – oherwydd bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhan fawr o’n bywydau, rydym wedi’n hamgylchynu a phob math o newyddion. Ac yn yr argyfwng economaidd presennol yr ydym i gyd yn mynd drwyddo gallwn gydymdeimlo â’n gilydd drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Arnynt mae pawb cysylltu â rhywun ac mi ydym yn ymwybodol iawn o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ar hyn o bryd. Yn wir mae’n gallu teimlo fel ein bod ni’r ifanc i gyd yn gysylltiedig y dyddiau hyn – ac mae ein llywodraeth yw’r rhai sydd allan o gyswllt yma!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.