Mae trafnidiaeth gyhoeddus mor bwysig yn nyfodol Cymru

Barn

Llesiau Newydd:

gan Osian England – Blwyddyn 12, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ie trafnidiaeth gyhoeddus  …a pheidiwch sôn am deithio o’r gogledd i’r de!

Erbyn heddiw, mae’n anodd i hyd yn oed enwi pob pryder sydd gan fy nghenhedlaeth i wrth wynebu byw yn oedolion mewn byd sydd wedi troi yn anodd ei adnabod yn aruthrol o gyflym.

Ymysg pobl ifanc  mae yna ddealltwriaeth sicr  ein bod yn symud i mewn i fyd o argyfwng o gostau byw uchel, a hwyrach gellir dadlau bod ffocysu ar bwnc fel trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiwerth wrth drafod dyfodol mor ansicr. Ond, mae’n hawdd hefyd meddwl dim digon am ffactor sydd efallai ddim yn rhy  amlwg ond sydd yn holl bwysig fel rhan o’n gwasanaethau cyhoeddus.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae costau perchen a chynnal ceir wedi codi yn sylweddol – a gan ystyried y problemau economaidd sy’n wynebu pobl ifanc, nid yw’r rhain yn gostau mae llawer eisiau eu wynebu. A hyn heb grybwyll yr effeithiau amgylcheddol enfawr mae priffyrdd mawr newydd hefyd yn ei achosi.

Does dim dwyffordd amdani, mae angen newid, newid yn ein cysyniad o drafnidiaeth yn gyffredinol.

Yng Nghymru ar hyn o bryd, er bod cysylltiadau trafnidiaeth gweddol yn y de, mae  diffygion hollol amlwg wrth geisio teithio rhwng dau begwn y wlad.

Mae’n ffaith nad oes llwybr syml rhwng de a gogledd Cymru fel y dylai fod. Wrth deithio rhwng Bangor a Gaerdydd ar drên, yr unig fodd i wneud yw newid trenau yng  orsaf Amwythig – yn Lloegr! Oherwydd y broses gymhleth yma, nid yw’n syndod bod well gan bobl deithio ar ein ffyrdd sy’n gwneud mwy o ddifrod i’r amgylchedd.

Wrth gwrs, mae’r blynyddoedd diwethaf yng Nghymru wedi gweld rhywfaint o gynnydd tuag at newid, yn bennaf ym mhrosiect Metro De Cymru. Mae’n dda i weld Cymru’n datblygu system tram trefol  ac yn ymestyn cysylltiadau trafnidiaeth yn y de. Ond dylai hyn fod yn ddechreuad – nid jyst un ymdrech unigol!

Wrth weld Llywodraeth Cymru yn ffocysu fwy ar drafnidiaeth gyhoeddus dros rwydweithiau ffyrdd newydd, mae angen pwysleisio natur genedlaethol y sefyllfa.

Er ei fod yn amlwg yn ddeniadol i ffocysu datblygiadau yng nghalon economaidd Cymru, mae creu llinellau trafnidiaeth newydd dros y wlad yn hollbwysig yng nghyd-estyn yr anawsterau o deithio i’r gogledd ar y trên. Mae hefyd angen pwysleisio dylunio seilwaith a diwydiant o gwmpas y llinellau newydd hyn. 
 
Os yw Cymru am ddatblygu mewn ffordd wyrdd fel mae ein llywodraeth yn cynllunio i wneud, mae gwir angen i drafnidiaeth gyhoeddus i fynd llaw yn llaw efo’r datblygiadau hyn.

Mae gwaith y llywodraeth wedi bod yn rhywfaint o ddechreuad, ydy, ond nid yw’r ffocws hwn yn edrych fel cynllun hir dymor i ailffurfio ein systemau trafnidiaeth. Newid o’r fath yma sydd angen. 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    1 Comment
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau
    Charles Witts

    Sylwadau arbennig, llawn wybodaeth a phersbectif perthnasol am y defnydd o geir mewn Cymru’r 21ain canrif!