Llesiau Newydd:
Y Ddysgwraig
Trip at y teulu… a’r hyn a drafodwyd!
Aethom i aros gyda’r teulu yn ddiweddar gyda’r syniad doeth o fynd â’r holl anrhegion Nadolig drosodd hefo ni (er mwyn safio gyrru’r anrhegion drwy’r post).
Dyma’r flwyddyn gyntaf imi lwyddo cael yr anrhegion draw cyn ‘Dolig. Felly, fydd yna wncl lwcus yn siŵr o dderbyn pâr o sanau ar ddiwrnod Nadolig.
Tra oeddem yno, trefnodd mam i fy Anti ag Wncl i ddod draw am de pnawn. Doeddwn i heb weld nhw ers tua 18 mlynedd, felly roedd yn neis dal fyny. Fe grwydrodd y sgwrs rhwng nifer o bynciau. Dechreuodd fy Anti wrth gyhoeddi: “Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn ddiawledig i ieir bach yr haf!”, cyn i ni symud ymlaen i chwain ar gathod, llau pen ar blant, yr angen i wneud ewyllys, prosiectau crefft anorffenedig (yr enghraifft hynaf yn dyddio’n ôl i 1972), diflastod gwaith tŷ, gofynion ymarfer Dalmations, dirywiad y ras rafft leol ar sail iechyd a diogelwch… a’r ochr bositif o ymuno â’r ‘Women’s Institute’.
Wrth glebran am y ‘Women’s Institute’, mi wnaethom lanio ar bwnc reit letchwith – ‘bras’.
Eglurodd fy Anti fod y ‘WI’ lleol, wedi cael sgwrs gan ymwelydd am y pwysigrwydd o ffitio bra yn gywir. Mae’n ymddangos bod 80% o fenywod yn cerdded o gwmpas mewn bras anaddas a gall hyn achosi problemau iechyd.
“Mae’n bwysig iawn rhoi eich bra ymlaen yn gywir yn y lle cyntaf!” pwysleisiodd wrth feimio’r symudiadau. Mae rhai pobl yn camu i mewn iddynt ac yn eu tynnu i fyny, mae rhai pobl yn eu gwneud i fyny ac yn eu tynnu dros eu penna fel siwmper… mae rhai pobl yn eu rhoi o gwmpas eu canol, yn eu gwneud i fyny ac yna’n eu swishio o gwmpas.”
Yn y dyddiau pan oeddwn i’n gwisgo bras, roeddwn i’n ‘swisher’. Mae’r rhain i gyd yn anghywir. Dylech bwyso ymlaen i mewn iddo a’i wneud gyda’ch breichiau y tu ôl i’ch cefn – neu hyd yn oed yn well, gofynnwch i rywun ei wneud ar eich rhan.
Ar ôl y ddarlith fer, fe wnaeth pawb nodyn i gofio mynd i M&S i gael ffitiad go iawn. Yn y diwedd, trodd y ffocws ataf fi a gofynnodd fy Anti Corinne yn uniongyrchol: “be’ amdanat ti? Ti ‘rioed ‘di cael ffitiad?” Ac yna, roedd yn rhaid i mi gyfaddef bod bras ymhlith y pethau diflas y gwnes i wahanu oddi wrthyn nhw pan roddais y gorau i weithio mewn swyddfa a dod yn greadur awyr agored. Mae’n gas gen i fras, ac yn gwneud yn iawn hefo camisole neu fest.
Fedra i ddim meddwl am ddim byd gwaeth na threulio diwrnod egnïol yn yr ardd yn tyllu, codi a phlygu gyda band elastig wedi’i socian â chwys yn glynu wrth eich asennau a strapiau yn rhwbio dros eich ysgwyddau. Credaf dylai ddillad isaf da fod yn anweledig o dan fy nillad wrth wneud i mi edrych yn siâp neis. Yn gyffredinol, mae adrannau dillad isaf yn llawn o fras ‘ffrili’, tew a talpiog – wedi’u gwneud allan o ddeunydd mor drwchus mae’r ffabrig yn teimlo fel da chi’n gwisgo soffa.
Fedra i ddim dychmygu unrhyw wisg yn eistedd yn hapus dros y fath yma o ddillad isaf. Mae’r ‘stafelloedd newid mewn siopau dillad yn tueddu i fod yn wirioneddol ddigalon hefyd. Da chi wedi’ch amgylchynu gan ddrychau fel y gallwch chi weld yn union pa mor ofnadwy da chi’n edrych (o bob ongl posib).
Mae’r golau wedi’i osod yn dywyllach (i wella ôl troed carbon y siop siŵr o fod) gan roi’r argraff y gallech fod wedi crwydro’n ddamweiniol gyda’ch siopa i mewn i gwpwrdd.
DIM DIOLCH! Gadawaf y profiad o ffitio bras i’r rhai sy’n fwy ymroddedig i’w siâp nag ydw i.
Yn syml – mae’r byd bras a fi wedi gwahanu, ag i fod yn onest – mae pethe’n llawer iawn mwy hawdd a chyfforddus.
Pwy a ŵyr – ‘falle mai fi fydd yr ateb Cymraeg i Charlie Dimmock?!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.