Dim o’i le mewn gofyn i fy nghyd chwaraewyr – ‘pawb yn iawn?’

Barn

Lleisiau Newydd:

gan Alaw Jones – Blwyddyn 13, Ysgol Glan Clwyd

Dylanwad chwaraeon ar ein iechyd meddwl

Fel merch sydd yn frwdfrydig am chwaraeon rwyf wedi sylweddoli effaith sylweddol ar fy iechyd meddwl dros y blynyddoedd diwethaf.
Rwyf wedi bod yn chwarae pêl-droed ers i mi fod yn 10 oed a rŵan gan fy mod yn troi yn 18 oed mae chwaraeon yn fy helpu cymaint yn enwedig dros gyfnod yr arholiadau!
Mae chwaraeon tîm neu unigol yn cael dylanwad mawr ar iechyd meddwl gan ei fod yn tynnu eich sylw o fywyd pob dydd wrth gael y siawns i gyfarfod unigolion eraill ac i dderbyn y cyfle i ddysgu sgiliau newydd.
Mae digon o dystiolaeth bod cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar les meddyliol unigolion. Mae tîm pêl-droed Casnewydd wedi profi bod chwaraeon yn cynyddu creadigrwydd, datblygiad gwybyddol, a hunanreolaeth. Gall gweithrediadau corfforol wella hwyliau unigolion, lleihau’r siawns o iselder a phryder ac arwain at ffordd o fyw gwell a mwy cytbwys.
Yn ôl y BBC mae arbrofion wedi profi bod gwneud rhwng 75 a 100 o funudau o chwaraeon e.e. cerdded, rhedeg, beicio yn gallu cynnal agwedd gadarnhaol gan gynnwys gwellhad o waith tîm a chyfrifoldeb cymdeithasol.
Yn fy marn i mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn amser i ymlacio ac i ddianc o realiti bywyd yn enwedig wrth nesáu at dymor arholiadau lle mae pryder yn gallu cynyddu’n helaeth.
Mae sgiliau gemau tîm yn caniatáu i mi drosglwyddo sgiliau yma i sefyllfaoedd bob dydd sydd yn caniatáu i mi fel unigolyn fod yn fwy hyderus wrth ddelio â sefyllfaoedd gwahanol. Dwi o’r farn bod siarad gydag eraill yn hanfodol mewn chwaraeon a chan fod chwaraeon tîm yn hyrwyddo agosatrwydd mae’n chwarae rhan fawr mewn iechyd meddyliol unigolion.
Mae byw bywyd erbyn hyn yn gallu bod yn galed ond mae bod yn agored yn hollbwysig gan ei fod yn caniatáu i unigolion wneud ffrindiau ac i fod yn agored gydag eraill sy’n gallu cynnal cymorth mewn ffyrdd gwahanol a chadarnhaol.
Drwy fod yn rhan o dîm chwaraeon sydd yn caniatáu i mi anghofio fy mhryderon o fywyd pob dydd – a gan fy mod yn chwarae mewn tîm sy’n hynod gymwynasgar – mae’n caniatáu i mi allu teimlo’n gyfforddus ac yn ddiofal ynglŷn â beth sy’n digwydd o fy nghwmpas megis yn yr ysgol, yn y cartref neu yn y gymuned ehangach.
Mae chwaraeon yn galluogi i mi fod yn rhan o gymuned sydd yn groesawgar, a hefyd cymuned sydd yn sicrhau fod neb yn ynysig neu yn teimlo’n bryderus gan fod pawb yno i gynorthwyo ei gilydd.
Rwyf wedi dysgu hyn gan fy mod yn chwarae i ddim lleol yn Ninbych, rydym yn ymarfer ar gaeau’r ysgol pob Nos Iau. Pob dydd Sul rydym yn cymryd rhan mewn un ai gemau’r gynghrair neu gemau cwpan sydd yn cynnwys timau o gwmpas Cymru gyfan.
Does dim o’i le mewn gofyn i fy nghyd chwaraewyr: “ydi pawb yn iawn?”, “ti’n lawn?”, “ti’n oce?”
Mae gofyn y cwestiynau yma yn dangos bod rhywun yn barod i wrando. Yn aml iawn, dim ond gwrando sydd rhaid, mae’r unigolyn sydd â phroblem yn gweld yr ateb dros ei hun. Mewn undeb mae nerth.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau