Llyfr wnaeth argraff arnaf
Lleisiau Newydd: Sbin Gymraeg ar bethau
gan Betsan Griffiths – Blwyddyn 13 Ysgol Dyffryn Ogwen
Twll Bach yn y Niwl – Llio Elain Maddocks
Cyfoes, perthnasol a chynnes, yw’r tri ansoddair byddwn i bendant yn eu defnyddio i ddisgrifio’r nofel ‘Twll Bach yn y Niwl’ gan Llio Elain Maddocks.
Yn sicr, gallaf feddwl am ddegau ar ddegau o nofelau Saesneg sy’n dwyn y thema ffeministiaeth a sut mae merched yn cael eu trin mewn cymdeithas yn yr 21ain ganrif. Ond, y tro hwn, ac yn hen bryd, roedd yn amser rhoi sbin Gymraeg ar bethau.
Yn fy marn i, llwydda’r nofel hon i dorri tir newydd o safbwynt ffeministiaeth yng Nghymru wrth i Lowri, y prif gymeriad, ddysgu dygymod a goroesi mewn byd yn llawn dynion. Yn bersonol, wrth ddarllen y nofel afaelgar hon roedd fy emosiynau yn newid o un bennod i’r llall, chwerthin ar ffraethineb a ffresni’r arddull ar y naill law a’r dagrau’n llifo ar y llaw arall, pan mae bywyd Lowri yn troi ben i waered.
Nofel yw hon o safbwynt merch sydd wedi dod yn ôl o astudio yn y brifysgol ym Manceinion, sy’n rhannu tŷ gyda’i ffrind gorau Manon, ac yn chwarae gemau fel ‘nyth’, wrth rannu storiâu cywilyddus. Cawn deimlad o gynhesrwydd a chwaergarwch wrth iddynt wthio’r syniad o ddynion a phwysau gwrywaidd o’r neilltu.
Yn ystod y nofel arbennig yma mae’n rhaid i Lowri ymdopi a salwch ei mam, tra’n treulio bob nos yn nhafarn, yr ‘Abbey’ gyda’i ffrindiau, Huw, Llŷr ac Aled. Ond, wrth fynd i grombil y nofel gyfoes hon, mae’n amlwg fod yna fwy i Lowri na nosweithiau gwyllt yn yr ‘Abbey’.
Deallwn fod teimladau a chywilydd dwys yn cuddio tu ôl i’w phersonoliaeth di flewyn ar dafod. Er bod hon yn nofel llawn hiwmor, mae hi hefyd yn nofel sy’n amlinellu sefyllfaoedd difrifol fel ymosodiad rhyw a thrais, a sut mae dynion yn dal i reoli merched mewn byd modern heb gael eu beirniadu na’u herlid.
Yr eironi mwyaf yw, bod Lowri ei hun yn ferch galed, hyderus, sydd yn barod i ddweud ei dweud. Ond gwelwn ymddygiad cymdeithas, a salwch ei mam yn cael effaith ddofn arni gan adael problemau iechyd meddwl yn eu sgil, er dim ond unwaith yn y nofel mae’n cyfeirio at hyn. Y gonestrwydd sy’n brifo’r darllenwr yn fwy na dim, yn fy nhyb i, gan fod pynciau dwys fel ymosodiadau rhyw a salwch fel cancer yn dabŵ trafod, yn enwedig mewn pentrefi traddodiadol Cymreig, ac oherwydd hyn cymeradwyaf ddewrder yr awdur i’w cynnwys mor gignoeth yn y nofel bwerus hon.
Un o’r themâu mwyaf diddorol a gawn yn y nofel hon, yw’r syniad fod anifeiliaid a phobl yn plethu ac yn rhannu’r un emosiynau a’r un ymddygiad. Cawn ddisgrifiad hynod o ddiniwed a dynol o anifail gwahanol ar ddechrau pob pennod, gan blethu’n gelfydd gydag ymddygiad neu sefyllfa Lowri yn y stori. Yn sicr, mae hwn yn hynod effeithiol ac yn syniad gwreiddiol iawn gan Llio Maddocks, y syniad fod anifeiliaid yn debyg iawn i bobl a bod pawb yn y pendraw yn agored i niwed, a’n greddf naturiol sydd gan bawb i blesio eraill.
Yn y bennod olaf, cawn gymhariaeth i berson dynol, sydd yn gwneud i’r darllenwyr sylweddoli fod pawb yn ymddwyn yr un peth, er weithiau rydych yn teimlo’n unig nid chi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn. Cawn y teimlad yma ar ddiwedd y nofel, pan mae Lowri yn nhe claddu ei mam, ble mai’n sylweddoli nad ydy hi ar ei phen ei hun, mae’i hen ffrindiau yna i’w gwarchod. Ar ddiwedd y dydd mae pawb yn teimlo’r un emosiynau, mae hwn yn deimlad rhyngwladol.
Credaf fod teitl y nofel, yn dweud y cyfan ‘Twll Bach yn y Niwl’. Y teimlad fod gobaith yno o hyd fel twll bach o oleuni, a’r teimlad gobeithiol bod y niwl am glirio rhywbryd, er nad oes neb yn gwybod yn iawn pa bryd na sut. Bendant, hon yw un o’r nofelau gorau rwyf wedi ei darllen, llyfr sydd yn eich cysylltu â’r byd go iawn, llyfr na fyddwch eisiau ei roi i lawr a llyfr fydd yn gwneud i chi werthfawrogi eich ffrindiau a’ch teulu. Llyfr fydd yn gwneud i chwerthin yn uchel un munud a cholli dagrau’r munud nesaf. Mwynhewch!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.