Lleisiau Newydd:
gan Hannah Ellis – Blwyddyn 12 Ysgol Dyffryn Ogwen
#FelMerch
Am ganrifoedd lawer, mae merched wedi cael eu hystyried yn ddi-bwer mewn cymdeithas.
Dros amser, oes, mae ychydig o ddatblygiad wedi bod, ond a oes digon o ymdrech wedi’i roi i sicrhau diogelwch a chydraddoldeb i ferched?
Dyna’r union gwestiwn dwi am drafod yma…
Fel merch yn yr unfed ganrif ar hugain, rwy’n credu’n gryf y dylai pawb gael eu trin yn gyfartal ac ni ddylid gwahaniaethau o ran rhyw.
Ond oherwydd fy mod yn cydnabod bod ymddygiad gwahaniaethol ar sail rhyw YN rhywbeth sydd yn dal i fodoli, ac oherwydd fy mod yn ddigon dewr i leisio barn ar hynny, rwy’n cael fy ystyried yn ffeminist. Yn fy marn i – term anffodus, sy’n cael ei ystyried gyda meddylfryd negyddol yn rhy aml o lawer.
Ond beth yn union yw ffeministiaeth?
Mae llawer o bobl yn ofni wrth glywed y term ‘ffeministiaeth’, yn meddwl ei fod rhywsut yn golygu goruchafiaeth merched, sef y gred bod merched yn well.
Ond, nid dyna yw ffeministiaeth o gwbl. Yn ôl geiriadur Caergrawnt, ffeministiaeth yw: “Y gred y dylid caniatáu’r un hawliau, pŵer, a chyfleoedd i ferched â dynion ac y dylen nhw gael eu trin yn yr un modd.” Felly, ffeministiaeth yw’r gred mewn cydraddoldeb cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol llawn i ferched.

Felly ydy amser wedi gwella triniaeth merched?
Mae prif drobwyntiau hawliau merched wedi cael eu rhannu’n dair neu’n bedair ton o ffeministiaeth.
Yn gryno, rhoddodd y don gyntaf yr hawl i rai merched gwyn, o oedran a chefndir economaidd penodol, bleidleisio yn yr UDA a’r DU.
Yna, cyflawnwyd trobwyntiau deddfwriaethol o ran hawliau atgenhedlu, cyflogau cyfartal ac addysg gyfartal yn yr ail don. Brwydrwyd i ferched gael cyfrifon banc eu hunain heb ganiatâd gŵr, ac fe amlygwyd trais domestig ac aflonyddu rhywiol yn ystod y don hon hefyd.
Wedyn, daeth y drydedd don gydag ymwybyddiaeth i agweddau ar hunaniaeth. Croesawyd unigoliaeth a gwrthryfel a thalwyd mwy o sylw at wahaniaethau hiliol o fewn rhyw. Dyfeisiodd Kimberle Crenshaw y term ‘croestoriad’ yn 1989, a oedd yn cyfeirio at sut mae gwahanol fathau o wahaniaethu, fel hil a rhyw, yn cydblethu.
Does dim gymaint o bwyslais wedi bod i’r bedwaredd don, felly mae dadl am ei bodolaeth. Ond, os ydych chi’n credu ynddi, mae’n cynnwys pwyslais ar gynwysoldeb, gyda hawliau traws yn ffocws gan fod ffeministiaeth wedi arfer bod yn lle digroeso i bobl traws.
Felly, wrth edrych dros ddatblygiad hawliau merched dros y 200 mlynedd diwethaf, mae’n amlwg bod yna welliant wedi bod yn y modd y mae cymdeithas yn ein trin, sy’n arwain at y pwynt nesaf.
Ydy’r gwelliant yn ddigonol neu a oes angen llawer mwy?
Yn anffodus, rydyn ni’n dal i brofi amrywiaeth o broblemau heddiw, er bod rhai pethau wedi gwella. Er enghraifft, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Ar gyfartaledd, mae merched yn y DU yn cael eu talu 90c am bob £1 sy’n cael ei ennill gan ddynion. Darganfyddodd y Sefydliad Siartredig o Bersonél a Datblygu fod y bwlch cyflog mwyaf yn y maes adeiladu, lle mae merched yn derbyn 76c am bob £1 a dderbynnir gan ddynion.
Problem ddifrifol arall i ferched yw aflonyddu rhywiol.
Darganfyddodd Cenhedloedd Unedig Merched y Deyrnas Unedig fod 97% o ferched 18-24 oed wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn y DU, gydag un o bob dwy ferch wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith, a thair o bob pum merch yn yr ysgol neu’r coleg.
Sut mae hynny’n dderbyniol?
I ychwanegu, mae yna drafferth fforddio cynhyrchion hylendid. Darganfyddais o arolwg WaterAid bod tua un o bob pedair merch yn y DU wedi cael trafferth fforddio cynhyrchion mislif yn 2021-2022. Credaf yn gryf bod angen mwy o weithredu er mwyn parhau i ennill hawliau, cael triniaeth economaidd deg a’n galluogi i gael cynhyrchion hylendid yn fwy fforddiadwy.
Er bod yna welliant wedi bod, dydw i ddim yn credu bod hynny’n ddatrysiad nac yn ddigonol.
Rydw i wedi blino hefo’r ffaith bod gymaint o ferched yn gorfod delio â gwahaniaethu. Pam ddylen ni ddioddef oherwydd ein rhyw? Dylen ni ddim.
Felly, rwy’n erfyn arnoch i geisio ein helpu. Gallai’r ferch sy’n profi anghydraddoldeb nesaf fod yn rhywun o bwys i chi; yn fam, yn chwaer, yn ferch. Dychmygwch pe bai’n perthyn i chi, peidiwch claddu eich pen yn y tywod, peidiwch anwybyddu’r mater hwn.
I atal gwahaniaethu pellach tuag at ferched, mae’n rhaid i bawb ein cefnogi, mae’n rhaid i bawb weithredu.
Nid ‘braint’ yw hawl merch, mae’n angenrheidiol.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.