Mewn canrif mae tua phedwar cant o ieithoedd wedi diflannu

Barn

Lleisiau Newydd:

gan Bethan Thomas – Blwyddyn 13  Ysgol Glan Clwyd

Sut fedrwn warchod ieithoedd lleiafrifol?

Y bygythiad

Yn y ganrif ddiwethaf, mae tua phedwar cant o ieithoedd wedi mynd yn ddiflanedig.

Mae o’n frawychus meddwl y bydd cannoedd mwy o ieithoedd wedi marw erbyn 2100.

Un o’r prif resymau am hyn yw’r dylanwad sydd gan brif ieithoedd y byd dros y ffordd rydyn ni’n byw; yn hawlio dros hanner poblogaeth y byd, sydd yn golygu bod plant yn colli eu hanes personol a’u hetifeddiaeth.

Yn ogystal â hyn, gall ieithoedd gael eu defnyddio i droi pobl yn erbyn ei gilydd ac mewn rhai gwledydd, mae pobl yn cael eu hatal rhag siarad eu hiaith frodorol. Mae’r arferiad yma yn hynafol ac yn hen ffasiwn. Mae’r ffaith bod yna dechnegau fel y ‘Welsh Not’ yn dal i fodoli hyd heddiw yn hollol anfoesol.

Caiff y Gymraeg ei adnabod fel iaith leiafrifol, ond yn ôl rhai arbenigwyr, gall bron i 74% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg erbyn 2300. Cymraeg yw’r iaith Geltaidd gryfaf  ac yn un o’r ieithoedd sy’n tyfu gyflymaf mewn poblogrwydd yn ddiweddar ar Duolingo. Un o’r rhesymau dros hyn efallai yw’r cyhoeddusrwydd daeth o Gwpan y Byd yn Qatar. Dyma oedd y tro cyntaf i lawer o bobl clywed Cymraeg neu hyd yn oed clywed am Gymru fel gwlad ar wahân i Loegr, ac mae’n mor wych bod chwaraeon yn gallu uno cymaint o bobl ar draws y byd.

Yn ogystal â hyn, mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi creu llawer o gyhoeddusrwydd i Gymru ar ôl i ni gael ein rhoi ar y map oherwydd eu rhaglen Welcome to Wrexham.  Mae Ryan hefyd wedi gwneud yn siŵr fod yna is-deitlau Cymraeg ar ei ffilm Red Notice ac wedi dechrau ‘Welsh Wednesdays’ ar ei sianel deledu, lle fydd rhaglenni S4C yn cael eu dangos am chwe awr y dydd yn America.

Cymraeg fel iaith leiafrifol

Credaf fod y ddau ffactor yma wedi cael effaith enfawr ar dyfiant yn ymwybyddiaeth o’r iaith yn ddiweddar, ac mae’n anhygoel gweld faint o ddylanwad y gall un person ei gael.

A beth fyddai Cymru heb ein harwyr?  Owain Glyndŵr,  Llywelyn ein Llyw olaf, Saunders Lewis – maen nhw i gyd yn ffigyrau hynod bwysig yn ein hanes ac mae cael  arwyr fel hyn yn hanfodol os ydyn ni am weld ein hiaith yn parhau a thyfu.

Sut felly?

Mae ysgolion sy’n cynnig addysg ddwyieithog yn llwyddiannus iawn o ran canran siaradwyr yr iaith.

Mae plant yn dysgu’n well mewn ieithoedd gwahanol a dwedir ei fod yn haws i lawer o bobl hefo dyslecsia sillafu yn Gymraeg na Saesneg gan fod yr iaith yn seinegol. Honnir hefyd bod plant sy’n derbyn addysg ddwyieithog yn gallu datblygu rhywfaint o ymwrthedd i ddementia.

Neu, os nad ydych chi wedi cael addysg ddwyieithog, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn berffaith. Gall gwersi, fideos, caneuon, cyrsiau, a phob math o bethau gael eu defnyddio i ddysgu mewn ffordd effeithiol a phleserus.

Mae cerddoriaeth yn gyfle gwych i ledaenu iaith; Eurovision, er enghraifft. Bob blwyddyn mae cymaint o artistiaid bach yn cael y cyfle i ganu yn eu mamiaith ar lwyfan rhyngwladol. Meddyliwch faint o ieithoedd fyddai’n gallu cael eu harbed trwy gerddoriaeth.

Sbardunodd y gân Yma o Hyd deimlad anferth o undod yn ystod Cwpan y Byd a dyna beth sy’n mynd i gadarnhau bod hanes Cymru yn byw am byth. Gwelwn yr un angerdd wrth i bobl ganu eu hanthem genedlaethol yn eu hiaith eu hun. Dyna sy’n bwysig. Dyna sydd angen i ni ei amddiffyn. Angerdd a chariad at iaith a gwlad.

Weithiau gall gadw iaith fod mor hawdd â mynnu ei siarad a pheidio defnyddio slang cymaint. Rhaid rhoi’r ymdrech i mewn i warchod a chryfhau. Felly siaradwch am unrhyw beth a phopeth!

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau