Lleisiau Newydd:
gan Osian Rowlands – Blwyddyn 13 Ysgol Dyffryn Ogwen
Prin bo angen adolygiad ar lyfr fel hwn.
Gwynt y Dwyrain – Alun Ffred
Dyma lyfr sydd newydd ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ac fel pe bai hynny ddim yn ddigon ynddo’i hun, ysgrifennwyd y llyfr hwn gan awdur sydd mor adnabyddus, mewn sawl maes, yng Nghymru, neb llai nag Alun Ffred Jones wrth gwrs. Y gwleidydd, cynhyrchydd teledu, llenor, cyfarwyddwr ag athro.
Beth sy’n anhygoel yn y fan hyn yw mai hon yw nofel gyntaf Alun Ffred, er ei fod yn adnabyddus am ysgrifennu sgriptiau ers blynyddoedd, a phwy all anghofio iddo greu’r rhaglen deledu Cymraeg orau erioed, ym marn amryw, ac yn fy marn innau hefyd. Y rhaglen gomedi ar S4C, C’Mon Midffild wrth gwrs.
Gyda chefndir fel yna y tu ôl iddi hi, mae nofel fel Gwynt y Dwyrain yn siŵr o ddod yn glasur ym myd llenyddiaeth Cymru. Felly beth am droi ein golygon tuag at y nofel ei hun. Nofel dditectif yw Gwynt y Dwyrain, yn y genre ‘Noir’, ac mae hi’n hynod o ddarllenadwy.
Mae’r cymeriadau a’r lleoliadau y mae’r awdur yn eu darlunio yn dod yn fyw ym meddwl y darllenydd. Cefn gwlad Sir Feirionydd ar droad y mileniwm yw’r lleoliad, a’r prif gymeriad yw Idwal Davies, Sarjant lleol sy’n cael ei dynnu i mewn i achos cymhleth o lofruddiaeth merch ifanc leol. Tybiaf mai dylanwad gyrfa flaenorol yr awdur, ym myd teledu, sy’n gyfrifol am y darluniadau cyfoethog o gymeriadau a golygfeydd, mewn brawddegau cynnil, sy’n ymddangos drwy gydol y nofel.
Thema amlwg sy’n llifo drwy’r nofel yw Cymreigrwydd, ac yn benodol felly, dirywiad y ffordd draddodiadol Gymreig o fyw, yn enwedig yng nghefn gwlad. Mae’r nofel yn llawn o iaith naturiol a thafodiaith gyfoethog. Mae’r pwyslais ar ddeialog rhwng y cymeriadau yn amlwg, a darlunnir trawstoriad eang o wahanol aelodau o gymdeithas, o gefndiroedd gwahanol iawn, yn y nofel.
Daw cariad anferth y Sarjant at fro ei febyd i’r amlwg . Mae’r prif gymeriad hwn yn heddwas diwylliedig a galluog, sydd yn hoff o ddyfynnu barddoniaeth T.H.Parry-Williams, ac yn gallu enwi pob un o fynyddoedd Eryri.
Wyneba’r prif gymeriad, Idwal Davies, sawl rhwystr a phrofiad anodd drwy gydol y nofel, a daw hanes gorffennol y cymeriad hwnnw i’r amlwg. Mae’r dycnwch sydd i’w weld yn natur y cymeriad yn ei gynnal drwy’r nofel, tuag at y diwedd dirdynnol.
Dyma nofel arbennig, sy’n diddanu, wrth ofyn cwestiynau dwys am fywyd ac am ddirywiad y gymdeithas Gymraeg ar yr un pryd. Pe bai gen i unrhyw gŵyn a hi, yna hynny fyddai fod y ddeialog yn dipyn cryfach na’r llinyn storïol. Os yn wir y gellir gweld hynny fel gwenid, oherwydd yn fy marn i, byddai’r nofel hon yn gwneud drama ditectif perffaith i S4C.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.