Profodd Cymru bwynt gyda’r perfformiad cyflawn hwn
gan Llion Higham
Llun: WRU
Cymru yw’r tîm cyntaf yng Nghwpan y Byd 2023 i gadarnhau lle yn rownd yr wyth olaf gydag un o’r perfformiadau gorau dan arweiniad Warren Gatland.
Roedd yn berfformiad cyflawn o’r munud cyntaf hyd at y chwiban olaf gyda sgrymiau cryf, cicio pwrpasol, taclo ffyrnig a cheisiau difyr.
Sgoriodd Gareth Davies o fewn munudau gan sbarduno bloedd rownd stadiwm OL yn Lyon. Nick Tompkins a Jac Morgan gafodd y ddau gais arall.
Ar ôl i Dan Biggar gael anaf daeth Gareth Anscombe ymlaen a chicio 23 o bwyntiau gan ennill seren y gêm.
Er bod hynny’n haeddiannol gall sawl un fod wedi cael eu henwi; roedd Gareth Davies yn wych, arweiniodd Jac Morgan fel capten arwrol, rheolodd Tompkins yr amddiffyn, a serennodd Elias, Beard a Faletau yn y pac.
Mae wir yn anodd meddwl am berfformiad gwell gan Gymru yn y degawd diwethaf – o ystyried y gwrthwynebwyr a’r achlysur.
Mae’r sgrym a’r llinell wedi’u trawsnewid. Maen nhw bellach yn cynnig opsiynau i ni’n ymosodol ac yn gweithredu hefyd fel arf i ennill ciciau cosb.
Ar ben hynny, roedd amddiffyn Cymru’n anhygoel. Ar ôl hanner awr roedd Cymru wedi cyflawni 76 o daclau o gymharu â 23 gan Awstralia. Doedden nhw ddim yn panicio, ac yn amlwg yn ymddiried yn system Forshaw a brofodd i fod yn effeithiol.
Rheolodd Anscombe y gêm yn wych. Ciciodd yn ddoeth a chymerodd y pwyntiau oedd ar gael gan gnocio hoelen ar ôl hoelen yng ngobeithion y Wallabies.
Yn aml, 10 munud cyntaf yr ail hanner yw’r cyfnod pwysicaf mewn gêm rygbi (gan mai gêm o fomentwm yw hi).
Ar hanner amser y sgôr oedd 16-6 i Gymru ac erbyn y 52” roedd hi’n 29-6.
Aeth hi o ddrwg i waeth wedyn i Awstralia. Roedden nhw ar chwâl, yn gwneud camgymeriadau esgeulus ac yn edrych fel anifeiliaid cloff yn ysu am gael deffro o’r hunllef.
Yn arwain at y gêm hon doedd dim amheuaeth gan Eddie Jones eu bod am ennill, ond wrth i’r camera ei ddangos gyda’i ben yn ei ddwylo, sylweddolodd na ddylech chi byth diystyru’r Cymry (na Gatland).
Profodd Cymru bwynt gyda’r perfformiad cyflawn hwn. Nid i Eddie Jones yn unig, ond i weddill y gystadleuaeth.
Drwy guro Georgia, byddwn ni’n sicrhau’r safle ar frig grŵp C ac felly’n debygol o wynebu naill ai’r Ariannin, Japan neu Samoa yn rownd yr wyth olaf.
Mae’r timau gorau ar ochr arall y gystadleuaeth, ond gyda system amddiffynnol ac ymosodol Cymru yn cael eu perffeithio, y tîm yn closio, a’r hyder yn blaguro, all Cymru godi ofn ar ffefrynnau Cwpan y Byd?
Llun: WRU
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.