Y llwybr sydd o flaen Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd
gan Llion Higham
Gêm 2: Cymru v Portiwgal – Dydd Sadwrn, Medi 16, 16:45 (amser y DU)
Ar ôl curo Fiji, Portiwgal fydd nesaf, a dyma fydd yr ail waith iddynt gystadlu mewn Cwpan y Byd. Gyda’r llysenw ‘Os Lobos’ (Y Bleiddiaid) maen nhw’n dîm anodd ei guro, yn angerddol a phenderfynol.
Gwnaethant lwyddo i gadarnhau eu lle yng Nghwpan y Byd â chic gosb munud olaf yn erbyn UDA.
Roedd y dathlu’n dangos arwyddocâd a phwysigrwydd y cyflawniad i’r garfan, a gyda rhai chwaraewyr megis Anthony Alves a Samuel Marques yn brofiadol bellach yn y ProD2 yn Ffrainc, ewn nhw y tu hwnt i’w gallu i wneud bywyd yn anodd i weddill y grŵp.
Gêm 3: Cymru v Awstralia – Dydd Sul, Medi 24, 20:00 (amser y DU)
Heb os, Awstralia yw’r enw mwyaf yn y grŵp.
Nhw yw’r tîm gorau yn hanesyddol ac yn ôl safleoedd y byd (Awstralia 7fed, Cymru 8fed), ond a oes angen eu hofni gymaint ag o’r blaen?
Mae Eddie Jones, cyn-hyfforddwr Lloegr, yn ôl wrth y llyw ac nid yw wedi cael y dechreuad gorau yn y Bencampwriaeth Rygbi.
Er holl sêr tîm Awstralia, Quade Cooper, Samu Kerevi a’r gwibiwr Mark Nawaqanitawase, y diffyg disgyblaeth oedd eu gwendid. Ar un pwynt, taflodd Eddie Jones ei glustffonau ar y bwrdd mewn rhwystredigaeth. Ydy hyn yn arwydd o’r hyn sydd i ddod? Gyda dwy gêm yn erbyn y crysau duon ac un yn erbyn Ffrainc ar y gweill, dyw’r gwrthwynebwyr ddim yn mynd yn haws.
Felly, eto gall hyn newid ond mae siawns y bydd Awstralia’n cyrraedd Cwpan y Byd heb ennill o dan Eddie Jones. Ond, naill ffordd neu’r llall, disgyblaeth fydd y gair pwysig ar wefusau’r Cymry yn Lyon.
Gêm 4: Cymru v Georgia – Dydd Sadwrn, Hydref 7, 14:00 (amser y DU)
Georgia fydd ein gêm olaf yn y grŵp. Tîm arall sydd wedi gwneud i ni golli cwsg, ac yn fwy diweddar na hoffem ei gyfaddef. Curodd Georgia ni 13-12 llai na blwyddyn yn ôl, dan ofal Wayne Pivac. Os caiff Gymru ychydig o fomentwm ni ddylai hynny ddigwydd eto.
Efallai byddai’n ddoeth gorffwys rhai chwaraewyr ond bydd rhaid bod yn ofalus. Ni wnaeth Georgia golli yr un gêm yn eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth Rygbi Ewrop (cafwyd un gêm gyfartal yn erbyn Portiwgal a churwyd Rwsia’n awtomatig gan fod holl gemau Rwsia wedi eu canslo ers mis Mawrth 2022).
Hefyd, gyda’r gystadleuaeth newydd ar y gweill, a drefnwyd gan fyrddau rheoli SANZAAR a’r Chwe Gwlad, a son am ddyrchafu a disgyn, bydd Georgia’n benderfynol o brofi pwynt. Nid oes ffordd well o ddangos eich bod yn haeddu lle ar y prif lwyfan na churo tîm mawr am yr ail waith yng Nghwpan y Byd.
Er efallai bydd tynged tîm Cymru yn hysbys erbyn y gêm hon, mae momentwm yn holl bwysig.
Gêm 5? – Rownd yr Wyth olaf
Enillydd Grŵp C v Ail safle Grŵp D – Dydd Sadwrn, Hydref 14, 16:00 (amser y DU)
Enillydd Grŵp D v Ail Safle Grŵp C – Dydd Sul, Hydref 15, 16:00 (amser y DU)
Pe bawn ni’n llwyddo i adael y grŵp, byddwn yn wynebu’r tîm sydd wedi ennill, neu ddod yn ail, yn Grŵp D (Grŵp D = Lloegr, yr Ariannin, Japan, Samoa a Chile).
Y ffefrynnau i adael y grŵp yw Lloegr a’r Ariannin, ond gall Japan roi pen tost iddynt yn sicr. Mae ganddyn nhw hanes o wneud yn dda yng Nghwpan y Byd ac yn 2015 llwyddon nhw i gyflawni un o’r buddugoliaethau enwocaf yn hanes y gystadleuaeth wrth iddynt guro De Affrica 34-32.
Ers hynny, maen nhw wedi gwella ar raddfa gyflym. Goleuwyd y gystadleuaeth ganddynt unwaith eto wrth iddynt sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf yng Nghwpan y Byd 2019. Daethant ar frig grŵp A ar ôl curo Rwsia, Samoa, Iwerddon a’r Alban!
Felly, peidiwch â synnu os mai Japan fydd yn aros amdanon ni yn rownd yr wyth olaf am ornest hynod o gyffrous (bydd well gen i eu hwynebu nhw na’r hen elyn).
Gêm 6? – Y rownd gynderfynol – Dydd Gwener, Hydref 20, 20:00 (amser y DU) neu ddydd Sadwrn, Hydref 21, 20:00 (amser y DU)
Dyma fydd y tro cyntaf i fwrlwm ac anrhefn ochr arall y gystadleuaeth groesi ein llwybr ni – gobeithio byddwn ni’n barod. Mae’r ochr arall yn cynnwys y pum tîm gorau yn y byd (yn ôl safleoedd y byd) ond mae’n anodd rhagweld pwy fydd yn ei gwneud hi mor bell. Bydd Iwerddon, Ffrainc, Seland Newydd a De Affrica i gyd yn disgwyl cyrraedd y man hwnnw, ond wrth gwrs, does dim lle i bawb.
Gêm 7? – Y Rownd Derfynol – Dydd Sadwrn, Hydref 28, 20:00 (amser y DU)
O ystyried sefyllfa bresennol rygbi Cymru, y flwyddyn ddiwethaf, a’r holl straen fu ar y chwaraewyr, byddai cyrraedd y rownd derfynol yn gamp nad oedd unrhyw un wedi rhagweld. Oes diweddglo annisgwyl, bythgofiadwy ac ysbrydoledig i’r stori? Am nawr, un gêm ar y tro mae mynd ymhell.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.