gan Gruffydd Meredith
(O’r archif: o bapur Y Cymro, Awst 2022)
Rhaid gwneud yn siŵr bod Cymru yn hunan gynhaliol mewn bwyd, tanwydd ac egni. Paratowch a gwarchodwch eich hun a’ch teulu rhag prinder yn y pethau yma cyn gynted â phosib – yn barod at heriau’r dyfodol.
Dwi ddim yn cael ryw fwynhad mawr o greu ofn ac amheuaeth heb fod angen ond dwi’n teimlo dyletswydd i drio rhybuddio cymaint o fy nghydwladwyr a phawb arall o’r peryglon go iawn sy’n debygol o fod yn ein hwynebu yn y misoedd a blynyddoedd i ddod wrth i’r byd fynd yn lle mwy cythryblus eto, ac i fwyd, tanwydd ac egni brinhau.
Nid yw’n cymryd person anhygoel o beniog i allu gweld fod nifer o beryglon a bygythiadau newydd yn ein hwynebu ac yn debygol o gynyddu dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
Oes, mae peryglon go iawn o ryfel neu ryfeloedd byd i dorri allan. Ond mae’n debygol hefyd y bydd bygythiadau sylweddol cynyddol i’r cyflenwad bwyd ac i’r cyflenwad o danwydd ac egni. Bygythiadau bydd yn effeithio hefyd ar y defnydd o dechnoleg.
Heb danwydd, nid oes trydan, heb drydan nid oes technoleg. Hefyd, dros y byd rhwng Mawrth 2021 a Mawrth 2022, cododd prisiau bwyd 29.8% (ffigyrau FAO Food Price Index). Hyn tra mae cyflenwadau gwrtaith hefyd yn prinhau.
‘…mae angen i ni ddechrau arni i sicrhau annibyniaeth a sofraniaeth bwyd ac ynni i Gymru fel unigolion, fel teuluoedd, fel cymunedau ac fel gwlad’
Ac ar yr un pryd mae’n ffasiynol gan rai elfennau o’n llywodraethau i wthio polisïau gwallgof sydd yn trio torri lawr a diddymu ffermydd tyfu bwyd a rhai sy’n cynhyrchu cig, ac, yn lle cynyddu’r stoc a’r cynnyrch yma fel y dylent, maent yn annog i eraill brynu’r tir fferm yma er mwyn tyfu coed fel rhan o raglen selotaidd a globaleiddiol net zero.
Daw’r rhybuddion am y prinder bwyd yma hefyd gan nifer o ffigyrau a chyrff amlwg yn y byd. Ym Mai 2022 cyhoeddodd The Economist – cyhoeddiad wythnosol o safon yn y maes economi a gwleidyddiaeth, y canlynol fel ei brif bennawd ar y dudalen flaen: ‘The coming food catastrophe’ – gyda llun o ddafnau o ŷd wedi eu gwneud o benglogau pobol yn lle hadau.
Hefyd ym mis Mai 2022, rhybuddiodd ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fod y byd yn wynebu ‘blynyddoedd o newyn’ – nid fy mod yn trystio’r Cenhedloedd Unedig anetholedig o gwbwl ond mae ganddyn nhw a chyrff ac unigolion tebyg dueddiad o sôn neu rybuddio o be all fod yn aros amdanom i lawr y ffordd – rhan o’u cred nhw o ddatgelu popeth y maent yn gwybod fel bod neb yn gallu eu beio nes ymlaen yn fy marn i – rhywbeth a hefyd elwir yn predictive programming.
Efallai mai dadl ddi-angen ar y pwynt yma ydi os ydi’r prinder yma mewn bwyd, tanwydd ac egni yn digwydd drwy gynllun bwriadol – fy nghred bersonol ydi mai ie, cynllun bwriadol gan y globaleiddwyr ydi hwn – pobol a chyrff sydd isio gweld y dinistr a’r anrhefn yma er mwyn defnyddio eu pŵer i gael rheolaeth ar yr holl adnoddau yma yn y pen draw – gan orfodi dibyniaeth pobol gyffredin ar nifer fach o gorfforaethau enfawr gyda monopoli rhyngwladol yn lle ar eu hunain ac ar gynhyrchwyr bwyd lleol.
Fel mae’r hen ystrydeb yn mynd: “Pwy bynnag sydd yn rheoli’r bwyd, sy’n rheoli’r bobol, pwy bynnag sydd yn rheoli’r egni all reoli cyfandiroedd, pwy bynnag sydd yn rheoli pres sydd yn rheoli’r byd”. Does dim byd newydd yn hyn – mae creu gwarchae bwyd yn hen dechneg o drio dod â’r gelyn i’w gliniau sydd yn mynd nôl i ddechrau amser.
Mae’n ymddangos i fi mai ni, ‘pobol gyffredin’ y byd yw’r ‘gelyn’ erbyn hyn, a bwyd ac egni yw rhai o’r arfau sydd yn cael eu defnyddio yn ein herbyn fel defnyddiwyd yn erbyn ein cyn-deidiau pell gynt.
Beth bynnag y gwir, mae angen i ni ddechrau arni I sicrhau annibyniaeth a sofraniaeth bwyd ac ynni i Gymru fel unigolion, fel teuluoedd, fel cymunedau ac fel gwlad. Os ydi Llywodraeth Cymru am helpu, grêt, ond ni allwn ddibynnu ar unrhyw lywodraeth i’n hachub – ein dyletswydd ni yw gwneud hyn dros ein hunain.
Felly beth allwn ni wneud i ddiogelu ein hunain yn barod at heriau’r dyfodol? Dyma ambell awgrym syml gennyf ar sut y gallwn fynd ati i warchod ein hunain i gadw’r blaidd o’r drws os bydd angen – gan ymddiheuro os ydw i’n pregethu i’r cadwedig:
Bwyd – Tyfwch gymaint o fwyd eich hunain a phosib – gwnewch ffrindiau gydag eraill sydd yn tyfu bwyd a sdociwch fyny gyda chymaint o fwydydd tymor hir a phosib. Gwnewch yn siŵr fod ganddoch ddigon o hadau naturiol a ddim rhai sydd wedi eu haddasu yn enetegol (GMO) os yn bosib.
Dŵr – Gwnewch yn siŵr fod ganddoch ffynonellau dŵr iach a ffordd o buro dŵr a all fod yn fudur.
Pŵer/egni – Ystyriwch ffyrdd alternatif o greu a storio egni eich hunain – gan beidio dibynnu ar y grid.
Cyfathrebu – Gweithiwch allan ffyrdd alternatif o gyfathrebu os oes angen, gan drio peidio dibynnu ar dechnoleg, trydan, y we a thyrau ffonau symudol o anghenraid.
Meddyginiaethau – Stociwch fyny ar y rhain yn ogystal ag offer meddygol, fitaminau a llyfrau ar iechyd a gofal ayyb. Gwnewch yn sir eich bod yn gyfarwydd gyda hen feddyginiaethau naturiol/organig sydd wedi eu profi i weithio drwy hanes.
Pres/arian – Trïwch gadw pres go iawn yn ogystal â chardiau banc ayyb. Ystyriwch fuddsoddi mewn ychydig o aur ac arian ‘dal yn eich llaw’ go iawn. Ystyriwch pa mor gwbl ddiwerth fydd ‘bancio ar-lein’ os nad oes ganddoch bŵer neu drydan, a’r banciau heb y rhain hefyd.
Technoleg ac offer – Cofiwch gael tŵls defnyddiol a hefyd offer analog yn hytrach na digidol ble’n bosib.
Ysbrydol – Ystyriwch mai brwydr ysbrydol ydi hon yn y bôn – a bod edrych ar yr ochor yma o bethe cyn bwysiced â’r pethau mwy corfforol.
Yn olaf, cadwch y ffydd – rydym yn byw mewn amserau diddorol iawn a hefyd gwirion iawn – ond mae’n bwysig cadw eich ffydd, cadw eich dynoliaeth a gwneud y pethau bychain.
(Prif lun – clawr yr Economist, mis Mai 2022).
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.