gan Jason Philips
Ers fy niweddariad diwethaf gyda ‘Y Cymro’, rwyf wedi cerdded i fyny i Gaergybi a chylchu Ynys Môn yn y glaw.
O Fôn, cerddais i ochrau breuddwydiol Pwllheli, a dwi rŵan yn mynd tua’r de. Dwi wedi bod yn cyfri fy mod wedi cerdded 500 milltir ers i mi adael fy fflat ar y diwrnod glawog hwnnw ar Ddydd Gŵyl Dewi…. ac yng ngeiriau enwog Y Proclaimers: ‘Wnâi cerdded 500 mwy’!
Bydd llwybr yr arfordir yn ôl i Gaerdydd o ble rydw i’n gorffwys rŵan yn 500 arall; rhywle rhwng Ynys a Harlech dwi di nodi fel hanner ffordd fy nghylch 1000 milltir o gwmpas Cymru.
Mae’n cymryd amser hir i mi, i gymharu â rhai cerddwyr a rhedwyr sy’n medru dilyn Llwybr Arfordir Cymru, yn hanner yr amser.
Fodd bynnag, i mi, efallai y byswn wedi gorfod rhoi’r gore i fy sialens oni bai am garedigrwydd pobl. A dyma sydd wedi fy nghadw i fynd, ac wedi gwneud fy nhaith hyd yn hyn, mor hudolus. Mae dysgu am yr hanes a gweld y tirweddau hyfryd wedi bod yn neis, ond caredigrwydd dieithriaid sydd wedi fy nghyffwrdd a fy ysgogi i ddal ati.
Wrth ddod i fyny trwy Glawdd Offa, fe’m hachubwyd o’r rhew gan Sue. Dyma Sue yn cynnig lloches, gwres a bwyd i mi, gan ganiatáu imi ddianc o’r mynyddoedd cyn y storm eira. Does gen i ddim syniad beth fyddwn i wedi’i wneud pe bawn i heb siarad ar hap gyda gŵr Sue wrth drio croesi pont droed yn yr eira trwm.
Ar ôl Gelli Gandryll bu ffrind yn fy nghysgodi o storm eira trwm y gwanwyn am wythnos, gan fy ngalluogi i orffwys a gwylio’r eira o’r silff ffenestr wrth imi guddio dan blanced glyd.
Yng nghastell y Waun fe wnaeth ffrind fy nghodi a rhoi ei fwthyn gwyliau i mi am benwythnos. Ar Ynys Môn, cefais fy mwydo a chysgodi o’r glaw yn nhŷ Beryl (Mam ffrind) …cefais lonydd hefyd i gysgu tan y prynhawn. Ac yna, yn y Felinheli, rhedodd ffrind bath lyfli i mi ac yna fy mwydo gyda gwledd cigysydd addas i frenin.
Roedd gwesty Neuadd y Coetir ger Nefyn wedi darllen fy erthygl yn Y Cymro ac wedi cynnig lloches i mi rhag storm wallgof arall, rhag ofn bod y gwyntoedd cryf yn bygwth fy sgubo oddi ar ochr y clogwyn.
Bu dynes o’r enw Amy roeddwn yn sgwrsio â hi mewn tafarn yn Aberdaron y noson honno, yn hapus i agor ei chartref i ddyn diarth blinedig ym Mhorth Ceiriad, gyda chyrri, cawod boeth a gwely.
Ac yna, y diwrnod o’r blaen, dyma ffrind da, yn poeni amdana’i a’m diffyg sgiliau awyr agored, yn teithio o Abertawe i gwrdd â fi ym Mhorthmadog gyda phabell newydd, sgidiau heicio a sach deithio, a threulio’r noson yn y goedwig gyda fi yn dysgu i mi sut i oroesi hefo sgiliau bysa Bear Grylls yn falch o!
Gyda’r holl wersylla gwyllt a chysgu allan mewn ysguboriau a mynwentydd mae’r bobl hyfryd hyn wedi gwneud fy nhaith nid yn unig yn bosibl, ond yn hudolus.
A wyddoch chi be? Mae’r daith yma wedi adfer fy ffydd mewn dynol ryw! Wrth i mi ddechrau mynd tua’r de, dros draethau Harlech, a gadael y Eryri yn y gorwel y tu ôl i mi, rwy’n teimlo’n drist i ffarwelio â’r amser arbennig a gefais a phobl arbennig y Gogledd.
Ymlaen!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
pob lwc jason a braf oedd y sgwrs uwchben mynachdyr graig neithiwr wrth ir golau ddiflannu yn araf.
gobeithio ges ti frecwast da yn llanrhystud a pob lwc am wedill y daith lawr tuar de
hwyl
tegid