gan Jason Philips
Wrth adael y Gogledd ar ôl, teimlais don o dywyllwch yn dod drosof wrth i’r wynebau cyfeillgar a’r mynyddoedd mawr bylu tu ôl i mi. Gyda fy nghluniau dolurus yn rhwbio yn ffyrnig, mi gerddais yn araf, i’r glaw heb wybod be’ oedd i ddod ar y 3ydd ran o fy antur fawr Gymraeg.
Symudodd y llwybr yn fuan i mewn i’r tir yn Aberdyfi, ar hyd yr Afon Dyfi a thrwy ddyffrynnoedd mynyddig gwyrdd. Wrth imi gyrraedd Machynlleth mi wnes i sylwi fod gŵyl arbennig yn digwydd. Roeddwn wedi cyrraedd mewn pryd ar gyfer Gŵyl Gomedi Machynlleth! Cyd-ddigwyddiad llwyr – felly fe wnes i gofrestru fel stiward a chael gwersylla a mwynhau penwythnos llawn chwerthin (yn rhad ag am ddim). Wrth wirfoddoli, cefais y cyfle i gyfarfod a nifer o bobol neis. Mae un peth yn siŵr – dwi wedi bod yn lwcus iawn ar y siwrne arbenig ‘ma!
Tra yn Mach, mi wnes i gyfarfod a Derwydd. Pan dwi’n dweud ‘Derwydd’, dydw i ddim yn golygu Derwydd Eisteddfodol. Be’ dwi’n ei olygu yw Nomad ysbrydol barfog gyda ‘dreads’ gwyn, sandalau a siorts bach coch.
Arweiniodd fi ar fws ar daith i fyny’r dyffryn i CAMLAN. Yno, roedd yn cofio, mewn bywyd blaenorol yn y 6ed ganrif … roedd yn ymladd ym mrwydr olaf y Brenin Arthur … cusanom garreg gysegredig a gorwedd yn y maes wrth iddo adrodd sut y digwyddodd y frwydr enwog. Yna dangosodd i mi lle cafodd Arthur ei gario ar ôl ei anaf a lle y cymerodd ei anadl olaf.
Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, datgelodd lle claddwyd y clefyd ‘Caledfwlch’ (Excalibur) a gwnaeth i mi addo peidio â datgelu ei leoliad.
“Pam na wnewch chi ei gloddio a’i ddefnyddio?” gofynnais iddo.“Oherwydd bod y dduwies yn dymuno iddo aros yno, a phe bawn i’n ei ddefnyddio – byddai’n fy ngwneud i’n analluog!” atebodd.
Cyn i mi adael fy ffrind, dymunodd yn dda imi ar fy mhererindod a’m cyfarwyddo i gysgu ar feddrod Taliesin – bardd y 6ed ganrif. Cynghorodd i fi hefyd i barhau i gysgu ar henebion sanctaidd a gwneud nodyn o fy mreuddwydion. Am ei amser a’i ddoethineb, fe roddais rodd o rolyn selsig fegan iddo fo.
Hyd yn hyn, rwyf wedi cysgu ar Garn Ingli yng Nghasnewydd, nifer o eglwysi hynafol, y tu mewn i siambrau claddu, ac yn ddiweddar – Capel y Santes Non (Mam Dewi Sant). Ar hyn o bryd, dwi’n gorffwys mewn tafarn yn nhafarn ‘St.david’ (The Bishops). Tra yn Nhyddewi, i gysgodi rhag storm, mynychais wasanaeth corawl yn yr eglwys gadeiriol. Roedd yn foment ingol. Roeddwn i wedi cychwyn ar fy nhaith ar ddydd Gŵyl Dewi a dyma fi – ar ei dir sanctaidd.
Mae clogwyni dramatig Sir Benfro bellach yn fy herio wrth imi gerdded y 300 milltir olaf o fy ‘Camino De Cymru’ – taith fythgofiadwy. Mae rhywbeth yn dweud wrthyf y gallai’r cymal olaf hwn fynd y naill ffordd neu’r llall.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.