Lleisiau Newydd: Ydi hi’n werth aros weithiau? ….stori cadair taid o’r eisteddfod ym Mhatagonia
gan Mabon Roberts Blwyddyn 10 – Ysgol Glan Clwyd
Yn y byd sydd ohoni, mae pobol ifanc fel fi yn cael ein sbwylio gan nad oes rhaid i ni aros yn hir iawn i gael unrhyw beth rydyn ni eisiau.
Does dim ond angen gwthio ychydig o fotymau ar y ffon a’r diwrnod canlynol mae rhywun wrth y drws gyda pharsel bach o’r fan lwyd, a dyna ni.
Os dw i eisiau gwybod ffaith neu wybod gair mewn iaith arall dim ond gofyn, “Alexa, beth yw xxxx yn Ffrangeg?” ac fe ddaw ateb y funud honno. Hyd yn oed os dw i eisiau pryd o fwyd o wlad wahanol, mae’n cael ei ddanfon ar gefn beic bellach. A beth sy’n bod ar hyn? Mae cysur o gael ffeithiau o fewn eiliad yn golygu fy mod yn gallu dysgu’n gyflymach ac nad ydw i’n dinistrio coedwig hefo tomen o lyfrau. Ond oes ’na anfantais i gael ffeithiau a nwyddau o fewn munudau?
Yn Hydref 2012, aeth fy Nhaid a Nain ar bererindod i Batagonia i ddilyn llwybr yr hen Gymry aeth yno yn 1865 i gael bywyd gwell. Gwelsant lawer o bethau yn ystod eu taith, yn cynnwys gweld cymuned Gymraeg y Gaiman a mwynhau mawredd y wlad. Gan fod eu taith yr un pryd ag Eisteddfod y Wladfa, aeth Taid a Nain a’r criw i gefnogi’r achlysur.
Pan ddaeth hi’n amser i gadeirio’r bardd buddugol fodd bynnag, cafodd pawb dipyn o sioc gan mai Taid, Gwynedd Jones, a safodd ar alwad y corn. Pan eisteddodd yn ei gadair, roedd teulu a ffrindiau yn gwylio dim llai na 7000 o filltiroedd i ffwrdd ar ffrwd fyw. Doeddwn i ond yn bedair oed ar y pryd, heb unrhyw syniad beth oedd yn digwydd, ond mae Mam yn dweud bod pawb wedi crio mewn balchder dros Taid.
I feddwl bod y gadair wedi ei hennill dros ddegawd yn ôl, dwi’n dychmygu bod rhai yn gofyn pam na chyrhaeddodd ei chartref newydd yn y Bala tan Nadolig 2022. Gofynnais hyn i Taid a dyma oedd ei ymateb; “Dydi o ddim fy mod heb drio, ac ar y cychwyn mi wnaeth llawer o bobl â phrofiad mewnforio ac allforio geisio fy helpu, a methu. Roedd perthynas Prydain a’r Ariannin yn dal yn fregus ar ôl y rhyfel, a hynny gyda ffactorau eraill yn ddim help i’w hebrwng tuag adre.”
Ond, wedi deng mlynedd, penderfynodd roi un cynnig arall arni. Dyma roi un alwad arall i’r Gaiman a, gyda llawer o lwc a charedigrwydd pobl y Wladfa, cyrhaeddodd y gadair Gatwick rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Ar ôl teithio drwy draffig trwm y gwyliau, llwythodd Taid y gadair wedi ei thorri yn ddarnau mewn ces mawr lledr, i gefn y car. Dywedodd Taid, “Roedd y daith adre yn fwy pleserus gan wybod bod y gadair yn saff yn y ‘bwt’.”
Buan iawn ar ôl derbyn y gadair, daeth y gymuned at ei gilydd yn neuadd y pentre’ i ddathlu fod y gadair wedi dod adre a’i gosod yn ôl at ei gilydd gyda help ychydig o lud cryf. Cafodd y dathliad ei drefnu fel sypreis gan ffrindiau a chymdogion Taid gyda sgetsiau doniol, yn ogystal â pherfformiadau cerddorol. Roedd hyd yn oed dawns y blodau. Daeth y gymuned at ei gilydd gan eu bod yn gwybod y stori, gwybod pa mor hir roedd Taid wedi aros a gwybod cymaint oedd yn ei olygu iddo fod y gadair wedi cyrraedd yn saff wedi teithio dros 700 milltir.
Mae Taid wedi aros 10 mlynedd am y gadair, ac mae gweld y wên ar ei wyneb, a’r gymuned i gyd yn dathlu, wedi gwneud i mi feddwl, hwyrach, o bryd i’w gilydd, bod aros am rywbeth, ac edrych ‘mlaen iddo gyrraedd yn ei wneud yn fwy melys. Llongyfarchiadau Taid, ac edrychaf ymlaen at dy weld di yn hedd dy gadair.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.