BARN – gan Deian ap Rhisiart
Fis diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn sgrapio cynlluniau i adeiladu ffyrdd yn cynnwys adeiladu trydedd bont dros y Fenai.
Fe roedd hyn yn rhan o’u hadolygiad tymor hir i: “leihau’r nifer o geir ar ein ffyrdd, gan sicrhau fod rhagor o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”
Rwy’n llwyr gytuno gyda’r angen am ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus ac mae gweledigaeth fel hon yn un i’w chroesawu. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru – Llwybr Newydd yn cydnabod fod: “angen hefyd y seilwaith trafnidiaeth i ategu’r gwasanaethau hynny.”
Yn anffodus, nid yw’r seilwaith trafnidiaeth yn bodoli o gwbl ar hyn o bryd i bobl mewn ardaloedd cymharol wledig ddewis trafnidiaeth gyhoeddus.
Yn ddiweddar, roedd gen i gyfarfod yng Nghaerdydd, ond rwy’n byw tu allan i Gaernarfon – ac fe fu’n rhaid pwyso a mesur.Sut oeddwn am gyrraedd Caerdydd, pa ddewis oedd yn haws? Y trên neu yrru lawr yr A470?
Deuthum i’r canlyniad mai gyrru lawr oedd y dewis mwyaf cyfleus a’r cyflymaf. Ni fyddai wedi bod yn ymarferol i ddal bws i Fangor o’m cartref a byddai’n hynny’n golygu fy mod yn methu’r trên. Ar y gorau, does yna ddim ffordd gwell o deithio nag ar drên, ond pan fo pethau yn mynd o’i le mae taith trên yn gallu bod yn artaith hir. Ac ar y cyfan mae trenau yn annibynadwy iawn a llawer yn cael eu canslo – neu mae oedi hir yn Amwythig.
Ystyriwn gyflwr trafnidiaeth gyhoeddus – yn anffodus yn y byd sydd ohoni, toriadau sydd ar y ffordd e.e. Gwasanaeth Bws T19 rhwng Gwynedd a Chonwy yn cael ei ddileu ym mis Chwefror oherwydd ei fod ‘yn gynyddol anhyfyw yn ariannol’. Lle mae’r cyhoeddiad hwn yn y darlun ehangach? Os nad oes gwasanaethau bws rhwng ein cymunedau, sut mae disgwyl i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Fe welir enghreifftiau eraill o hyn ledled Cymru. Os nad yw’r gwasanaeth yn gyfleus, yn gyson ac ar amser, yna, nid yw’n denu neb at drafnidiaeth gyhoeddus.
Beth yw’r ateb? Credaf fod angen gwario er mwyn gwella, gan ddilyn athroniaeth yr economegydd John Keynes, i’r wladwriaeth wario mwy mewn cyfnod o galedi, er mwyn gwella’r economi a gwella bywydau pobl.
Mae hynny’n golygu cynyddu gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus yn anferthol, gan sicrhau fod gwasanaethau bws a thrên yn rhedeg yn gyson, yn amlach, ar amser ac yn integredig. Rhywbeth amlwg iawn ond mae angen y ‘basics’ yn iawn gyntaf.
Yn ail, yr angen i wella’r isadeiledd. Mae gwir angen lein newydd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth a lein arall rhwng Afon Wen a Bangor. Byddai hyn yn clymu’r system drafnidiaeth at ei gilydd ac yn ei gwneud hi’n haws i deithio rhwng gwahanol ardaloedd o Gymru. Pam mynd ati i wella cysylltiadau rhwng y De a rhannau o Loegr? Dechreuwch yn y mannau lle mae gwir angen. Yn drydedd, mae angen gostwng prisiau tocynnau ar fws a thrên.
Rwy’n dadlau y dylai pob gwasanaeth bws fod am ddim. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd orfodi fod gwasanaethau bws yn parhau mewn ardaloedd gwledig, beth bynnag fo’r pwysau ariannol.
O ran y trenau, dylai pob tocyn trên sy’n cael ei brynu yng Nghymru gael ei sybsideiddio gan Lywodraeth Cymru gan sicrhau fod mynd ar drên yn ddewis cost effeithiol. Dyweder rhoi uchafswm o £50 i docyn dychwelyd, i unrhyw le yng Nghymru. Rwy’n siŵr wedyn byddai llawer mwy o ddefnydd ar ein rheilffyrdd.
Unwaith eto, mae angen buddsoddi ar fwy o wasanaethau a buddsoddi llawer mwy mewn stoc fodern o drenau. Felly, mae angen gwario er mwyn sicrhau fod trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis apelgar i deithwyr ymhob rhan o’r wlad, yn y dre ac yn yr ardaloedd gwledig. Amser i Lywodraeth Cymru godi treth!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.