Sut gallwn ni wella ein cynghreiriau pêl-droed domestig yng Nghymru? – wel cefnogwch!
gan Wiliam Jones – Blwyddyn 10 Ysgol Glan Clwyd
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cael y fraint o weld cyfnod aur o chwaraewyr yn gwisgo’r ddraig goch enwog ar y cae pêl droed wrth gyrraedd Ewro 2016, Ewro 2020 a Chwpan y Byd 2022.
Ond beth am y gêm ddomestig yng Nghymru?
Beth yw’r elfen bwysicaf yn y byd pêl-droed yn eich barn chi? Ansawdd y chwarae a’r chwaraewyr? Y stadiwm lle gwelwn y gemau?
Rwy’n meddwl y gallwn ni i gyd gytuno mai’r cefnogwyr yw’r elfen bwysicaf yn y byd pêl-droed. Heb gefnogwyr nid yw pêl-droed yr un peth. Roedd tystiolaeth o hyn yn amlwg dros fisoedd COVID-19 lle’r oedd rhaid chwarae o flaen teras wag. Ond yn anffodus i dimau cynghrair Cymru mae Wrecsam, Abertawe a gweddill y pedwar mawr yn andros o ddeniadol i gefnogwyr pêl-droed.
Mae’r pyramid yn Lloegr yn cynnig llawer mwy na Chymru. Y siawns i chwarae timau mwyaf yr holl fyd, ansawdd llawer uwch o bêl droed, gallaf fwrw ymlaen am byth.
Ond beth sydd gan bêl droed lleol i’w gynnig?
Cefais gyfle i gyfweld â Mabon Roberts (15) am ei antur lle dilynodd glwb Pêl-droed Dinbych i lawr i Lanidloes yn ddiweddar i weld ei dim yn chwarae Pen y Bont yn y rownd gynderfynol. Meddai: “Fe ddechreuon ni i Lanidloes tua hanner awr wedi deg bore Sadwrn yn barod am y siwrne hir o’n blaen. Roedd y daith bws ei hun yn ddigon o antur! Ar ôl dwy awr cyrhaeddon ni glwb pêl-droed Llanidloes. Ond roedd yn o fuan, felly cyn mynd i’r maes cawson edrych o gwmpas y dref. Tref brydferth
“Ac wrth gerdded i lawr y stryd clywon rywun yn gweiddi o’r ochor arall. Hogiau bws 1 oeddynt, ar fws 2 oeddwn i. Hogiau roeddwn heb weld ers oes, a rhai roeddwn erioed wedi eu cyfarfod. Dyma beth dwi’n ei weld yn arbennig am ddilyn clwb pêl-droed, gweld wynebau cyfarwydd a chreu ffrindiau newydd.
Wrth wylio’r gêm roedd canu a llawenydd am ein bod wedi curo 8-1! Mae yno rywbeth arbennig iawn am deithio efo’ch clwb lleol – mae’n siawns i ddangos balchder am eich ardal a’i gynrychioli. Yn fy marn i dyma beth sydd yn wych am ddilyn clwb lleol – rhannu profiad o ddiwrnod gwych gyda grŵp o fois da.”
Pan dwi’n meddwl am glybiau mawr Cymreig mae Caernarfon, Bae Colwyn ac Y Barri yn dod i’r meddwl – maent yn denu 500+ i bron bob gem! Ond mae yno broblem. Dim ond un o’r clybiau yma sydd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, Caernarfon.
O fewn ein ail adran ddomestig bydd Bae Colwyn a Threffynnon yn wynebu ei gilydd mewn gem anferth. Rydym yn disgwyl denu 1,000 yn ôl Tomi Caws. Gwelwn batrwm amlwg yn ymddangos yma. Mae clybiau sydd yn denu niferoedd mawr o gefnogwyr – ond does ddim nifer fawr ohonynt yn chwarae yn ein Uwch Gynghrair. Sut mae datrys y broblem yma?
Yn fy marn i does dim ffordd glir o’i ddatrys. Ond mae yno reol aur sydd yn rhedeg trwy holl bêl-droed lleol, a hynny yw, mae torf fwy yn denu mwy o arian, mae mwy o arian yn arwain at ansawdd gwell o bêl droed a chyfleusterau gwell, ac yna, mae gwell ansawdd yn denu mwy o dorf.
Nawr beth yw’r ateb i’r cwestiwn mawr? Sut gallwn ni wella ein cynghreiriau Pêl-droed domestig yng Nghymru? Yr ateb yw – chi! Ewch i gefnogi eich clwb lleol gyda grŵp o ffrindiau a byddwch yn barod i greu atgofion bythgofiadwy. Byddwch yn rhan o adfywio ein gêm Gymreig!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.