Bu Deian ap Rhisiart yn sgwrsio gydag Aled Phillips o Gymdeithas Eisteddfodau Cymru wrth i’r Gymdeithas ddathlu carreg filltir bwysig eleni gyda’i phen-blwydd yn 25 oed.
Mae eleni yn bwysig mewn mwy nag un ffordd, wrth i’r Gymdeithas ac eisteddfodau ledled Cymru ailddechrau o ddifrif ar ôl y pandemig.
Eglurodd Aled – sydd yn ei swydd bellach ers tair blynedd: “Mae pethau’n dda iawn a dweud y gwir. Yr ydym i gyd yn sôn am y dair blynedd ddiwethaf. Mae bron iawn yn anhygoel dod trwy’r profiadau yna lle ydan ni wedi methu cymdeithasu. Ond llynedd roeddwn i’n dechrau teimlo bod pobl isio dechrau dod ‘nôl at ei gilydd. Wrth edrych ar yr eisteddfodau sydd eisoes wedi eu cadarnhau ar gyfer eleni, baswn ni’n deud fod 90% wedi ailgychwyn.”
A dyma gyfnod pwysig i lawer o eisteddfodau: “Mae’r cyfnod hwn yn ystod gwyliau’r Pasg yn gyfnod prysur i sawl un. Yn edrych ar Ddinas Mawddwy, Llandderfel, Mynytho, Llangadog ac yn y blaen – mae’r rhain i gyd yn digwydd yn ystod y pythefnos yma ac os edrychwn yn bellach na hynny, mae bron bob un steddfod yn ôl wrthi a dwi’n dal i gael cadarnhad gan eisteddfodau o hyn i ddiwedd y flwyddyn – sy’n ffantastig. Mae’r ymateb ar y cyfan yn hynod gadarnhaol.”
Mae rhai heriau cyffredinol ymhlith trefnwyr hefyd. Fel yr eglurodd Aled: “Mae yna ofidiau – oes yna ddigon o bres i gynnal rhywbeth? Lle i gael noddwyr? Oes yna ddigon o bobl i gystadlu? Sut mae denu gwaed newydd i bwyllgorau?”
Ond serch hynny mae yna arwyddion sy’n codi calon. Meddai Aled: “Mae sawl un hefyd wedi dangos lot o egni a dyfalbarhad ac yn awyddus iawn i ddangos …hei mi ydan ni yn ôl ac mae hwnna’n codi calon rywun ar ôl y cyfnod ydan ni wedi bod drwyddi. Baswn i’n deud fod sefyllfa’r eisteddfodau yn iach iawn ar hyd a lled Cymru beth bynnag yw eu maint.”
Wrth i eisteddfodau sydd eisoes yn bodoli ail-gydio ynddi, mae yna ambell un newydd hefyd.
Meddai Aled: “Dyma ti Steddfod Y Rhondda oedd wedi cynnal ambell un yn rhithiol. Gaethon nhw rywfaint o lwyddiant yn cynnig testunau gwaith cartref a defnyddio Facebook i gyhoeddi. Ond wnaethon nhw gynnal ei steddfod gyntaf go iawn wyneb yn wyneb ychydig cyn y Nadolig. A dyma’r tro cyntaf i Steddfod gael ei chynnal yn y Rhondda ers y 1960au.”
“Mi oedd yn dipyn o ddathliad mewn gwirionedd. Roedd y criw yma – Aelwyd y Rhondda wedi dod at ei gilydd, wedi’i deall hi o ran beth oedd angen o ran trefnu. Mi oedd y capel dan ei sang. Roedd hi’n braf i weld y Gymraeg yn fyw yn Nhreorci, mewn capel traddodiadol, y lle wedi brandio gyda’u logo nhw, mi oedd yna deimlad o ddigwyddiad ac fe wnaethon nhw fentro gyda gorsaf radio lleol i ddarlledu’r peth yn lleol yn hynod lwyddiannus.”
Eisteddfod arall yw Eisteddfod Caerdydd ac fe ddaeth cynulleidfa dda i fwynhau’r cystadlu.
Meddai Aled: “Mi oeddwn i ar bwyllgor steddfod Caerdydd. Dyma’r ail i gael ei chynnal achos gaeth ei chanslo oherwydd y pandemig. Mi oeddwn i yn eithaf hapus o fod wedi arbrofi eleni a dwi’n weddol hyderus y bydd hon yn digwydd eto flwyddyn nesa.”
Ac mi aeth yr eisteddfod ati i gydweithio gyda phobl ifanc i gynnal y digwyddiad – ynghyd â defnyddio technoleg i gyrraedd cynulleidfa ehangach. “Wnaethon ni weithio efo platfform Cymru FM, Marc Griffiths sy’n llais cyfarwydd iawn ar Radio Cymru a chynnig cyfle i ryw ddwsin a mwy o fyfyrwyr chweched dosbarth Caerdydd i fod yn gyfrifol am ddarlledu’r gwasanaeth am ddiwrnod cyfan – sef wyth awr o ddarlledu sy’n dipyn o farathon i rywun sydd erioed wedi gwneud o’r blaen.”
“Eich rhaglen chi yw hon”- oedd neges Aled i’r myfyrwyr. “Peilot oedd hwn – roedd 600 yn gwrando. Clywed cynnyrch y llwyfan, a ffordd o gyrraedd cynulleidfa tu allan i bedair wal. Arbrawf llwyddiannus a wnaethon ni gyd ddysgu gwersi.”
Felly, wrth iddynt edrych ymlaen mae’r dyfodol i’r eisteddfodau yn edrych yn addawol. Ond wrth wneud hynny, mae’n bwysig edrych yn ôl hefyd ac mae gan y Gymdeithas eleni gynlluniau i ddathlu’r 25 mlynedd.
Meddai Aled: “Yn ôl ym 1998, Aled Lloyd Davies oedd un o’r rhai a sefydlodd y Gymdeithas, ynghyd â Gron Ellis a Ellis Wyn Roberts. Dyma oedd y drindod gychwynnol. Mi oedd Aled Lloyd Davies bob amser yn dweud mai eisteddfodau lleol oedden nhw nid rhai bach a’i bod yn ddigwyddiadau mawr o bwys lleol.”
“Fe fyddwn yn ystod y flwyddyn yn cynnal ambell i ddigwyddiad. Mae yna gystadleuaeth ar y cyd gyda Bro360 ar hyn o bryd i drio cael pobl i rannu a hel atgofion eisteddfodol a falle fe fyddwn yn cnocio ar ambell i ddrws yn gofyn i ambell berson am atgofion.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.