Dylanwad y Ffermwyr Ifanc arnom ni!

Barn

gan Mari Grug Edwards, Blwyddyn 10 – Ysgol Glan Clwyd

Ymunais â Chlwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn y llynedd er mwyn cael profiadau newydd ac i fod yn rhan o gymuned llawn brwdfrydedd a hwyl.

Ers i mi ymuno blwyddyn yn ôl bellach rydw i wedi cael llawer o gyfleoedd cyffrous iawn fel mynd lawr i Abergwaun i gystadlu hefo’r meim a’r Côr Sir oedd yn gyfle bythgofiadwy.

Yng Nghlwb Nantglyn rydym yn gwneud llawer o weithgareddau fin nos fel clwb i gymdeithasu a chael llawer o hwyl gyda’n gilydd.

Rydym yn mynd ar dripiau i leoliadau gwahanol, fel mynd i golffio, sglefrio iâ ac ymweld â ffermydd lleol i ddysgu sut mae’r ffermwyr yn cynnal a chadw eu ffermydd. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus o gael siaradwyr difyr yn dod atom ni i Nantglyn i siarad am eu profiadau amrywiol nhw.

Heb os, mae’r paneidiau a’r bisgedi wrth i ni gael gêm gyffrous o Bingo wastad yn uchafbwynt

Mae hi’n anodd iawn diflasu trwy fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc wrth ystyried yr holl weithgareddau a’r digwyddiadau amrywiol sy’n digwydd gydol y flwyddyn.

Adeg prysur iawn yw paratoi ar gyfer Eisteddfod Ffermwyr Ifanc. Rydym ni fel Clwb Nantglyn yn awyddus iawn i ennill ar bob achlysur. Yn sicr, mae’r rali yn adeg cyffrous hefo ystod o gystadlaethau doniol a direidus i gasglu pwyntiau i’n Clwb a’r Sir gyda’r nod o ennill y tlws terfynol.

 

Does dim amheuaeth ein bod yn datblygu amryw o sgiliau amhrisiadwy gyda’r clwb. Cyfathrebu, cydweithio, creadigrwydd, cymdeithasu – mae’n ddiddiwedd.

Un o’r cystadlaethau sy’n sicr yn datblygu sgiliau hynod o ddefnyddiol i ni ydy’r gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus. Dyma gyfle gwych i ni ehangu ein sgiliau darllen, trafod, crynhoi a siarad â chynulleidfa – sgiliau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.

Mae holl glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn rhan o un gymuned fawr, gyda nifer o glybiau bach mewn siroedd a’r rhain yn ymgynnull weithiau fel un i gymdeithasu ac i gael hwyl yng nghwmni plant a phobl ifanc eraill.

Mae bod yn rhan o’r Ffermwyr Ifanc yn fuddiol iawn, yn enwedig i’ch iechyd meddwl, oherwydd mae’n caniatáu i chi gael seibiant o’ch bywydau prysur i gael hwyl a dod â phawb at ei gilydd.

Rydw i wedi cwrdd â llawer o ffrindiau newydd o glybiau eraill ers ymuno â’r Ffermwyr Ifanc, mae hyn yn gyfle gwych i ddod i adnabod rhai sydd yn dod o gefndiroedd gwledig tebyg i ni. Mae’n gyfle gwych i gael sgwrs hefo ffrind yn eich clwb nad ydych wedi eu gweld ers talwm.

Mae Eisteddfodau’r Ffermwyr Ifanc hefyd yn galluogi i ni weithio fel timau o ffrindiau drwy gystadlu mewn cystadleuaeth meim ayyb. Byddaf yn mwynhau cystadlu gyda ffrindiau oherwydd maen nhw yn fy nghefnogi i barhau ar y llwyfan ac rydym ni i gyd yn barod i roi help llaw i unrhyw berson yn y clwb.

Drwy fod yn rhan o’r mudiad mae’n agor llawer iawn o ddrysau i gwrdd â ffrindiau newydd o weddill Cymru, yn cynnig profiadau a chyfleoedd heb eu hail ond yn fwy na dim mae’n gyfle i fod yn rhan o rywbeth positif, yn rhan o gymuned. Felly, da chi, ymunwch â’ch Clwb Ffermwyr Ifanc lleol am brofiadau bythgofiadwy.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau