Dewch i fyd y beiciau digidol!

Barn

gan Deian ap Rhisiart

Bu Deian ap Rhisiart o raglen Cymunedau Digidol Cymru ac eraill yn cydweithio fel rhan o brosiect i adeiladu beiciau digidol mewn her undydd gyda myfyrwyr chweched dosbarth ar Ynys Môn.

Yma mae’n sôn am ei brofiad a’i argraffiadau yn cydlynu’r prosiect ar y daith i ddatblygu a chreu’r beiciau.

I roi’r cefndir yn llawn, mae’r beic digidol yn gysyniad sy’n wreiddiol o Sgandinafia. Yn syml, daw o feic ymarfer cyffredin iawn sydd wedi’i addasu a’i weirio i liniadur trwy gyswllt USB. Wrth agor Google Streetview o flaen sgrin fawr neu daflunydd, mae posib wedyn pedlo a mynd i le bynnag yn y byd sydd ar Google Streetview. Mae’n fuddiol nid yn unig i ymarfer y corff ond ysgogi’r meddwl trwy ‘hel atgofion ar hyd llwybrau’r cof’. Fe gynigiodd Cymunedau Digidol Cymru ar y cyd gyda physio-therapydd o Ysbyty Gwynedd y syniad mewn cystadleuaeth sbarduno syniadau ym Mharc Gwyddoniaeth Msparc cyn i COVID daro, ac fe ddaethom i’r brig gan ennill gwobr ariannol i ddatblygu’r syniad ymhellach.

Dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe ddaeth Daron Harris, athro technoleg gwybodaeth o Ysgol David Hughes ar draws y syniad wrth ddarllen y papur bro lleol. Fel yr eglurodd: “Dwi’n enedigol o fro Llangernyw ac wedi cael golwg ar Y Gadlas sydd allan yn fisol. Mi oedd yna erthygl yn trafod y prosiect yma ac mi oeddwn i’n meddwl i’n hun – mae hwn yn swnio’n ddiddorol ac mi gysyllta i efo Deian. Chwe mis wedyn, mae’r beic ei hun yn cael ei adeiladu yn yr ysgol yma!”

Nod y myfyrwyr yn yr her beic undydd oedd addasu 4 o feiciau o fod yn feiciau ymarfer cyffredin i fod yn feiciau digidol trwy ychwanegu cyfrifiadur syml.

Y mae fersiynau cynnar o’r beic eisoes wedi cael ei ddefnyddio wrth ymweld â chartrefi gofal ers rhai blynyddoedd bellach – gyda saib yn ystod y pandemig. Yn wreiddiol, gwelwyd cyfle i gyfuno’r elfen hel atgofion o bedlo heibio mannau cyfarwydd gydag ymarfer corff. Mae pob ymweliad yn gallu bod yn unigryw ac yn agor drws ar rywbeth cwbl annisgwyl wrth ddatgloi atgofion difyr o blith y preswylwyr. Mae ymchwil academaidd a chlinigol yn parhau ar hyn o bryd gan Ganolfan CADR (Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia) i fesur buddion y beic ar gyfer pobl yn byw gyda Dementia.

Ysbrydoli’r defnydd o dechnoleg

Fel arfer, mae’r ymweliadau â chartrefi gofal yn cyfuno sawl agwedd o dechnoleg – o realiti rhithiol i ddangos archif ffilm ar wefan y British Film Institute. Mae’r beic digidol yn ffefryn cynyddol ymhlith preswylwyr.

Y nod yw cyflwyno technoleg sydd er lles iechyd gan wella ansawdd bywyd y preswylwyr a thrwy hynny ysbrydoli gweithgareddau digidol i staff y cartrefi gofal.  Ychydig wythnosau yn ôl, fe ymwelwyd â chartref gofal yn Llandudno ac i ddechrau, ychydig a wyddom o broffil y bobl yn y cartref. Ond fe newidiodd hynny yn gymharol fuan. Yr oedd un ddynes yn egluro wrthym, ei bod wedi cael ei geni yn Lerpwl ond wedi symud i Gymru yn dair blwydd oed fel ‘efaciwi’ i bentref Corris.  Ac yn amlwg, yr oedd eisiau dychwelyd i Gorris a phedlo ar hyd ffyrdd bach Corris isaf trwy gymorth Google StreetView. Wrth seiclo, fe lifodd yr hanesion am yr hen fecws ac am nofio yn yr afon Dulas. Gymaint oedd ei brwdfrydedd yn mynd trwy’r atgofion fe ofynnodd i fynd ar y beic eilwaith.

Wrth i’r sgwrs barhau rhwng Cymunedau Digidol Cymru ac Ysgol David Hughes dros y misoedd diwethaf, ymunodd Cyngor Môn yn y prosiect ac fe gytunodd swyddog gwasanaethau oedolion hŷn, Seiriol Edwards, fod y Cyngor yn ariannu’r offer i adeiladu’r beiciau.

Yn ystod yr her undydd, fe gafodd y myfyrwyr yn Ysgol David Hughes gyfle i ymarfer eu sgiliau technoleg ac electronig, eu sgiliau cydweithio, a datrys problemau yr un pryd. Yr oedd y diwrnod yn ras yn erbyn amser ac yn her yng ngwir ystyr y gair.

A wnaeth y myfyrwyr ateb yr her? Yn ôl Daron Harris: “Drwy’r dydd mi oeddwn i wedi bod yn cnoi dipyn ar fy ngwinedd yn poeni ein bod ddim am orffen mewn pryd ond mi wedi ydan ni wedi cwblhau mewn amser braf. Mae bob dim yn gweithio ac mae’n barod i’w gael ei ddefnyddio gan bwy bynnag.”

Profi’r beiciau

Mae’r Fagloriaeth Gymreig a’r Cwricwlwm Newydd yn hybu’r angen i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned, gwirfoddoli a phontio cenedlaethau, ac nid dyma ddiwedd y daith i’r beiciau. Y cam nesaf fydd y darn mwyaf ystyrlon a gwerthfawr i fywydau pobl, wrth i’r beiciau – diolch i Gyngor Môn – gael eu treialu mewn cartrefi gofal lleol. Meddai Daron:  “Dwi’n meddwl beth fydd yn digwydd nesaf ar y cyd efo Cyngor Môn yw y bydd safleoedd yn cael eu dewis i dreialu’r beic yma a gyda thipyn bach o lwc fyddan ni fel ysgol a rhai o’r myfyrwyr sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect yn medru mynd a’r beics a’u gosod yn y cartrefi a chael profiad o weld pa effaith y mae’r beics yn ei gael ar y bobl sy’n defnyddio nhw.”

Yr hyn sy’n bwysig dros ben am y prosiect hwn, yw ei fod yn tynnu pobl a sefydliadau at ei gilydd i gydweithio – Ysgol David Hughes, Cyngor Môn, cwmni ailgylchu cyfrifiadurol North Wales Recycle I.T. a roddodd y gliniaduron am ddim. A hefyd parodrwydd myfyrwyr yr ysgol i adeiladu a datrys problemau ac yn y pen draw greu rhywbeth gwirioneddol i wella ansawdd bywyd pobl fregus.

Y mae yna sgôp enfawr i ddatblygu prosiectau eraill yn deillio o gofnodi hanesion byw pobl . Yn sicr mae yna ffyrdd gwahanol i’r prosiect ddatblygu a ffynnu.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld canlyniadau ail ran y prosiect, i weld y bobl ifanc yn ymweld â’r cartrefi gofal, a chlywed hanesion difyr pobl, gan barhau â’r daith ar hyd llwybrau’r cof.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau