Ers y 1af o Fis Mawrth, mae’r cynhyrchydd miwsig o Gaerdydd, Jason Phillips, wedi bod ar siwrne reit arbennig.
Mae Jason wedi rhannu ychydig o’r siwrne yma fel cyfnodolyn arbennig gan Y Cymro. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am ei siwrne fythgofiadwy:
“Pam?” Gofynnwyd y cwestiwn yma i mi sawl gwaith.
Dwi hyd yn oed ‘di bod yn gofyn i fi’n hun! Wel, ddoth popeth reit sydyn, gyda bron ddim trefnu mewn unrhyw ffordd.
Roeddwn wedi cael llond bol o’r ddinas. Doeddwn i ddim wedi teimlo’n iawn ers y cyfnod clo. Roeddwn i ddwy stôn dros bwysau ag yn teimlo fel bod rhywbeth ar goll. Ag yna, un bore – nes i bacio fy mag a phenderfynu gadael Caerdydd.
Ymhen dim, roeddwn yn brwydro yn erbyn stormydd eira, yn cysgu mewn cestyll canoloesol ag yn croesi cymoedd a mynyddoedd syfrdanol. Ar ôl llochesu o’r eira mewn gwely a brecwast yn y canolbarth mi es ymlaen… yn cysgu wrth ymyl beddrodau hynafol mewn eglwysi ac yna, gwersylla mewn mynwentydd tywyll.
Roeddwn yn benderfynol o ddal ati! Sawl gwaith, buaswn yn dringo bryniau a sgrechian i mewn i’r gwynt gyda phoen. Syrthiais i lawr sawl llethr mwdlyd ac yna brifo fy arddwrn. Ar ôl sawl dydd, roedd fy nhraed yn dioddef mewn poen – sgil effaith fy mhererindod sydyn siŵr braidd. Gyda’r nos buaswn yn gorwedd yn effro ac yn crynu wrth gwestiynu be ddiawl oeddwn yn trio ei gyflawni.
Cymerodd sbel i mi gan fy mod allan o siâp ag roedd fy mag yn pwyso tunnell… ta waeth, ychydig o wythnosau yn ddiweddarach cyrhaeddais arfordir gogleddol fy mamwlad annwyl ar lwybr Clawdd Offa ym Mhrestatyn, a throchi fy nhraed dolurus i mewn i’r môr. Ahhhh.
Erbyn rŵan, roeddwn wedi dal y byg a methu stopio cerdded, felly ymunais â llwybr yr arfordir a siglo fy ffordd trwy drefi gwyliau gwyntog ochra Rhyl. Ar ôl llochesu ym Mae Colwyn mi wnes i barhau ar hyd arfordir y gogledd o amgylch y Gogarth Fawr (Llandudno) wrth wylio morloi’n nofio a geifr yn chwarae. Ar ôl noson yn cysgu dan y sêr ar gyrion Bangor, mi wnes i gyrraedd Ynys Môn lle rydw i’n gorffwys am rai dyddiau ar hyn o bryd yn nhŷ mam un o fy ffrindiau da.
Prif lun gan Alison Lovatt
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.