A fyddech chi’n gallu cwblhau’r sialens hon?

Barn

Lleisiau newydd – Crwydro copaon Cymru

gan Beca Fflur Edwards, Blwyddyn 10 – Ysgol Glan Clwyd

Dyma sialens sydd yn denu sylw i’n gwlad fach ni.

Mae’r her hon yn her go anodd ac o’r cychwyn cyntaf mae’n eich gwthio i orffen y sialens. Gyda’r tri mynydd mwyaf yng Nghymru a dim ond 15 awr i gyrraedd y copa rydych am fod yn ysu i roi’r ffidil yn y to. A fyddech chi’n gallu cwblhau’r sialens hon drwy ddringo’r Wyddfa , Cader Idris a Phen y Fan?

 Yr Wyddfa

Dyma’r mynydd uchaf yng Nghymru sydd yn dringo hyd at 1085 metr i’r copa a gyda chwe llwybr i’w ddewis sef llwybr Llanberis , llwybr Pyg a’r Glowyr, llwybr y Ceidwad , Rhyd Ddu a llwybr Watkin yn dechrau o wahanol lefydd ar waelod y mynydd hwn. Mae’n bosib cael trên i’r copa i weld y golygfeydd anghredadwy.

 

 

 

 

 

 

 

 

Cader Idris

893 metr uwch lefel y môr mae’r mynydd yma gydag ardaloedd digon heriol ar hyd y daith i’r copa. Mae Cader Idris wedi ei leoli ger y dref Dolgellau ac mae tri llwybr i’w ddewis sef Minffordd, llwybr Tŷ Nant a llwybr Llanfihangel y Pennant. Mae chwedl yn awgrymu mai cawr oedd Idris ac roedd y mynydd fel gorsedd i’r cawr hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pen y Fan

Yn debyg i Cader Idris mae Pen y Fan yn ymestyn hyd at 886 metr uwch lefel y môr, gyda phrydferthwch Bannau Brycheiniog yn ei amgylchynu. Byddwch yn wen o glust i glust ar ôl cyrraedd y copa a bydd werth pob cam.

Dylanwad iechyd.

Mae cerdded wedi cael ei brofi i fod yn ffordd o ryddhau straen a helpu iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol.

Mae mor dda cael bod tu allan yn yr awyr agored a’r llonyddwch i ffwrdd o’r holl sgriniau sydd yn rhan fawr o’n bywydau prysur erbyn hyn. Gallai cael saib oddi wrthynt wneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd meddwl. Yn lle gyrru tecst i ffrind mae’n llawer gwell mynd am dro a mwynhau’r ardaloedd cudd anhygoel yma sydd o’n cwmpas.

Mae hefyd yn dda iawn i’n hiechyd corfforol – mae mynd am dro yn ein galluogi i gadw yn heini wrth gwrs. Mae gymaint o bethau da yn dod o fod y tu allan felly mae her fel hyn yn annog llawer iawn o bobl i ddod i ymuno gyda’i gilydd i weithio fel tîm ac i gyfathrebu wyneb i wyneb i gasglu arian i elusennau Cymru a thu hwnt. Mae’r mynyddoedd yn hybu gymaint o bobl i gael hwyl, herio eu hunain fel unigolion ac fel tîm i helpu plant a phobl sydd efallai’n llai ffodus neu i helpu elusennau fel Ambiwlans Awyr i achub bywydau pobl eraill.

Profiad bythgofiadwy

Mae mynyddoedd Cymru yn llawn golygfeydd anhygoel ac anghredadwy. Yn ymestyn o’r Gogledd i’r De. Mae ein gwlad yn llawn atyniadau prydferth syn agored i bawb i fwynhau. Nid oes rhaid mynd yn bell i gael y cyfleoedd hyn – efallai eich bod mor lwcus bod atyniadau dim ond tafliad carreg i ffwrdd och cartref chi.  Felly ewch am dro i gefn gwlad neu ewch i godi arian drwy wneud her tri chopa Cymru – ond cofiwch,  peidiwch rhoi’r gorau iddi hanner ffordd!

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau