gan Y Ddysgwraig
Mae’r prawf siarad yn dod …ond does dim diwedd i’r busnes glanhau ‘ma!
Yn ddiweddar, gwahoddais ffrind i aros am rai dyddiau. Mae’n neis iawn i gael ffrindiau drosodd, ond mae hyn yn golygu fod yn ‘dduwies ddomestig’ y diwrnod cynt.
Does dim byd yn canolbwyntio’r meddwl fel rhywun sy’n mynd i aros dros nos a defnyddio’r gegin a’r ystafell ymolchi ayyb. Mae faint o lanhau dwi’n wneud yn dibynnu ar ba mor dda dwi’n nabod y person. Rwy’n gwneud llai o ymdrech i ffrindiau sydd hefyd yn caniatáu cathod yn y gegin, ac yn gwisgo wellingtons yn y tŷ.
Rwy’n trio i beidio sôn wrth westeion fy mod wedi treulio’r diwrnod cyn eu hymweliad yn glanhau, neu nad wyf yn hoffi glanhau llawer. Ar ôl i mi wneud yr ymdrech, dwi’n hoffi cael tŷ glân. A gyda’r gwanwyn rownd y cornel, mae’n grêt cael ffryntiau cwpwrdd sgleiniog, rygiau heb flew, a’r toiled yn arogli o ‘toilet duck’.Pan mae fy ffrind yn dod i aros, rydym yn hoffi mynd i gerdded. Rydw i’n falch dweud ei bod hi’n symud ar yr un cyflymder â fi.
Ambler, dim Rambler ynde. Rydym yn stopio i dynnu lluniau, edrych ar fanylion bach natur, a dydyn ni ddim bob amser yn cadw at y llwybr. Mae fy ffrind yn dysgu Cymraeg hefyd, ond trwy Duolingo ac mae hi’n gwneud yn dda iawn. Felly dros y flwyddyn yma, mi fydd hi’n neis i gael rhywun arall i ymarfer hefo. Oherwydd fy holl lanhau, ro’n i’n eistedd mewn tŷ trefnus a glân, ac, i ddweud y gwir, ro’n i’n teimlo’n smyg.
Gyda’r gwaith diflas wedi ei wneud, a’rbychan yn yr ysgol, cefais lonydd i wneud dipyn o wnïo, heb deimlo’n euog am ddim gwneud rhagor o gwmpas y tŷ. Mae gwnïo yn helpu imi ymlacio.
Mae sŵn y nodwydd yn mynd trwy’r defnydd yn therapiwtig.Wrth i’r peiriant hymian dwi’n trio jest ffeindio tawelwch yn fy meddwl. Ac mewn dim amser, mae hi’n dri o’r gloch ac yn amser i ‘nôl y bychan.
Wrth ddisgwyl tu allan i’r giatiau ysgol, dwi’n cael cyfle i ymarfer ar gyfer fy mhrawf siarad Cymraeg sydd mewn pythefnos. I fod yn onest, dwi ddim yn berson cymdeithasol, felly mae’r syniad o siarad hefo pobol yn fy nychryn. Beth bynnag, dwi’n benderfynol o drio. Os dwi ddim yn cael hwyl gyda’r prawf, mi fyddaf yn siomedig iawn ag yn difaru fy mod heb ymarfer mwy. Fydd y prawf siarad ym Mangor.
Yn y bore, mae’r prawf sgwennu ac yn y pnawn, mae’r prawf siarad. Felly, dwi’n edrych ’mlaen cael ymweld â’r siop goffi fach newydd ar y stryd fawr yn ystod y toriad. Ar ôl cyrraedd adra o’r ‘school-run’, mae’r tŷ yn hymian. Deeew, mae’r cathod wedi bod yn brysur yn y bocs baw. Does dim diwedd i’r busnes glanhau ‘ma!! Tan y tro nesa.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.