Hmmm… oes gan Zoom synhwyrydd acen tybed?
Helo a Blwyddyn Newydd Dda ddysgwyr a dilynwyr.
Rwyf wedi ailddechrau fy nysgu Cymraeg.
Erbyn rŵan, mae fy mhlentyn yn siarad Cymraeg yn dda ac rwyf mewn perygl o gael fy lapio fel maen nhw’n dweud yn y byd rasio.
Yn y golofn yma byddaf yn trio rhannu’r ochr da a drwg fel dysgwr Cymraeg wrth fyw yng nghefn gwlad Gwynedd.
Mae fy nghwrs Cymraeg ar-lein trwy Zoom (slot bore).
Gyda phlentyn actif, bysa slot nos ddim yn gweithio… a hefyd, dwi’n credu fod y brên yn gweithio yn well yn y bore.
Erbyn imi wthio fy mhlentyn allan o’r drws, i’r ysgol, medra i gael fy hanner uchaf yn edrych yn broffesiynol a pharchus (mewn realiti – mae hyn yn llawer anoddach!)
Serch hynny, mae yna hwyl dda yn y grŵp a chymysgedd dda o wahanol oedrannau a phersonoliaethau. Mae cwpl o ‘characters’ yn gwneud dysgu yn llawer o hwyl.
Ar fy nghwrs Cymraeg ar hyn o bryd rydym yn dysgu am y ‘conditional tense’, fel ‘mi faswn i, taswn i’n gallu’ ayyb.
Mae ein tiwtor – neu’r cyfrifiadur yn hytrach – yn ein rhoi mewn parau i ymarfer deialog a gofyn cwestiynau i’n gilydd.
Rwyf bob amser gyda’r un person, sydd hefyd o’r ardal rwyf yn dod yn wreiddiol – falla bod Zoom efo ‘accent detector’
“Faset ti’n hoffi mynd i’r Sahara?“ ’Dwi’n gofyn i fy mhartner. “BASOON!” Mae o’n ateb.
Gyda digon i wneud yn barod, dwi wedi cofrestru am arholiad Cymraeg y mis yma. Rwy’n teimlo’n iawn am y peth, ac ar ôl gweld enghreifftiau o gyn-bapurau rwy’n meddwl gwna i wneud yn iawn. Yn bendant, bydd angen i mi ymarfer pob un o’r gwahanol ‘ie’ a ‘na’ – dwi ddim yn dda yn y maes yma.
Dyna’i gyd am rŵan felly. Bysedd wedi croesi – wneith yr arholiad fynd yn iawn.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Da iawn