Brecwast yw un o brydau pwysicaf y dydd ac mae’n gyfle gwych i siarad a rhannu eich meddyliau cyn dechrau’r diwrnod, gan helpu hefyd i wella iechyd meddwl pobl.
Felly er mwyn hybu’r buddion iechyd a chael cyfle am sgwrs cyn i’r diwrnod ddechrau, unwaith eto, mae timau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ar draws y wlad yn cynnal amrywiaeth o frecwastau ffermdy yn ystod yr wythnos rhwng dydd Llun 23 a dydd Sul 29 Ionawr. Bydd UAC, unwaith eto hefyd yn cynnal brecwast ffermdy yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, Ionawr 24.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:
“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn arw at ein brecwastau ffermdy blynyddol. Gallwn ddechrau’r diwrnod gyda’n teulu, ffrindiau a chymdogion, mewn ffordd gadarnhaol ac iach, a chodi arian ar yr un pryd at ein hachos elusennol, sef Sefydliad y DPJ. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at gefnogaeth wych eleni eto Mae’n deg dweud bod dechrau iach i’r diwrnod nid yn unig yn dda i galon iach, ond hefyd i feddwl iach.”
Mae wythnos frecwast Ffermdy UAC hefyd yn rhoi cyfle i hyrwyddo’r cynnyrch lleol o safon wych y mae ffermwyr yn ei gynhyrchu i ni bob dydd o’r flwyddyn, a thrwy gydol yr wythnos frecwast bydd UAC yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein heconomi wledig.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni am frecwast. Rydyn ni eisiau i chi fod yn rhan o’r hyn rydyn ni’n ei wneud, a rhannu eich meddyliau a’ch pryderon am gyflwr y diwydiant. Rydym hefyd am glywed eich hanesion chi, a fydd yn helpu ni i ddeall sut gallwn ni helpu ein gilydd. Pa ffordd well o wneud hynny na o gwmpas bwrdd lle rydyn ni’n mwynhau bwyd gwych a phaned o de,” ychwanegodd Glyn Roberts.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.