gan Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith
Gyda chanlyniadau cyfrifiad 2021 yn parhau’n fyw yn y cof, mae’r pwysau’n cynyddu ar Lywodraeth Cymru i gynnig ymyraethau cadarnhaol a blaengar os am unrhyw obaith o gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Un o’r pethau amlwg y gellid ei wneud i gynyddu siaradwyr yw sicrhau fod pob plentyn yn cael ei drin yn ieithyddol gydradd drwy rhoi’r Gymraeg i bawb. Tipyn pwysicach na chyrraedd y targed o filiwn yw cydnabod fod rhoi’r un sgiliau ieithyddol dwyieithog i bob plentyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.
Dagrau pethau heddiw yw fod 80% o’n plant yn parhau i gael eu hamddifadu o’r sgil o siarad Cymraeg yn hyderus. Mewn cymaint o wledydd ar draws y byd, mae dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yn norm cymdeithasol – sut felly y gall Llywodraeth Cymru gyfiawnhau peidio rhoi’r un sgiliau i bob plentyn?
Drwy lwc, Yn sgil ymgyrchu’r ddegawd ddiwethaf mae gan Lywodraeth Cymru gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i weithredu i newid ar hyn eleni, a hynny yn y Ddeddf Addysg Gymraeg arfaethedig. Wrth i gymaint ohonom aros yn eiddgar am y BPapur Gwyn y Ddeddf Addysg, hawdd gweld y bydd 2023 yn flwyddyn dyngedfennol i blant Cymru. Yn y ddeddf hon, mae’r grym gwleidyddol gan Lywodraeth Cymru i symud ein holl ysgolion ar daith i fod yn rhai cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Taith dros amser fyddai hi – un fyddai’n mynd a phobl gyda ni – ond taith sy’n rhaid ei chychwyn os ydym o ddifri am roi’r un cyfleon i bob plentyn.
Gyda chymorth Cymrawd Cyfraith Cymru, Keith Bush, mae Cymdeithas yr Iaith wedi llunio ein Deddf Addysg Gymraeg ein hunain er mwyn dangos mewn modd cwbwl ymarferol beth sy’n bosibl i Lywodraeth Cymru ei gyflawni dros ein plant.
Gyda’r Gymraeg yn perthyn i bawb, galwn ar Lywodraeth Cymru i gynnwys y prif egwyddorion isod yn y Ddeddf a sicrhau fod pob plentyn yn cael yr un cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
1. Gosod nod statudol fod pob ysgol yn mynd ar daith at fod yn un cyfrwng Cymraeg dros y 27 mlynedd nesaf.
Mae tystiolaeth rhyngwladol yn dangos mai addysg cyfrwng sy’n arwain at greu siaradwyr rhugl. Nid newid dros nos fyddai hyn, ond proses o gynllunio’n fwriadus er mwyn symud y gweithle a’n hysgolion ar daith dros amser.
2. Creu un continwwm dysgu ac asesu Cymraeg.
Ar hyn o bryd, mae bwlch sylweddol rhwng cyrhaeddiad y rhai sy’n astudio Cymraeg ail iaith a’r rhai sy’n astudio Cymraeg iaith gyntaf. Ym mis Medi 2013, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i addysg ail iaith, a gyflawnwyd gan grŵp annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies. Un o argymhellion allweddol adroddiad yr ymchwili oedd disodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwm ar gyfer dysgu’r Gymraeg.
Er bod y Llywodraeth wedi cytuno i ddileu Cymraeg ail-iaith a symud i greu un continwwm iaith maen nhw wedi gweithredu’n groes i hyn drwy ganiatáu cwricwlwm Cymraeg gwahanol i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg. Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyflwyno cynigion newydd am ddau gymhwyster TGAU Cymraeg nad ydyn nhw’n gorgyffwrdd. Er budd plant Cymru, mae modd unioni hyn yn syth yn y ddeddf.
3. Creu fframwaith cenedlaethol sy’n gosod targedau ar bob awdurdod lleol i gyrraedd y nod.
Heddiw, mae pob Awdurdod lleol yn creu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg sydd i fod i nodi sut y bydd yn cynyddu darpariaeth Gymraeg. Er hynny, mewn rhai achosion mae targedau yn isel, a does dim goblygiadau os nad ydy’r targedau yn cael eu cyrraedd.
Yn y ddeddf newydd, gall Llywodraeth Cymru greu fframwaith cenedlaethol sy’n gosod targedau ar bob awdurdod lleol i gyrraedd y nod fel bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
Dau ddewis sy’n wynebu Mark Drakeford a’i Lywodraeth yng nghyd destun y ddeddf hon felly. Un ai gall wneud penderfyniad plentyn-ganolog a rhoi’r Gymraeg i bob plentyn dros amser neu gall barhau i allgau 80% o blant ac amddifadu cenedlaethau’n rhagor rhag dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Hyderwn y bydd y Prif Weinidog a’i lywodraeth yn gweld yn glir fod y Gymraeg yn sgil hanfodol i bob plentyn a bod y ddeddf addysg yn rhan allweddol o’r jig-so os am sicrhau addysg Gymraeg i bawb gyrraedd y miliwn erbyn 2050.
Deddf i’r rheiny sydd wedi eu gadael ar ôl yw’r ddeddf hon. Deddf allasai weddnewid y darlun ieithyddol gan ddangos ein bod yn wlad sydd o ddifri am roi’r un hawliau cyffredinol i bawb.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnwys pob plentyn ar y daith at fod yn siaradwyr Cymraeg. Galwn ar garedigion yr iaith i fod yn effro i gynnwys y bil eleni. Mae pobol ifanc Cymru heddiw, a’r dyfodol, yn dibynnu arnom i sicrhau nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.