Rydym yn camddeall dwyieithrwydd… ac mi all hyn olygu ein diwedd ni
gan Heledd Gwyndaf
Mae’r nifer helaethaf o bell ffordd ohonom wedi meddwl mai ‘dwyieithrwydd’ ydy dweud popeth yn ddwyieithog, yn llafurus, un iaith ar ôl y llall. Anghywir.
Dw i wedi clywed pob math o bobl yn ymarfer eu ‘dwyieithrwydd’ ac mae gen i ofn, bod y rhai hynny sy’n eu galw eu hunain yn ‘arbenigwyr’ ac yn ‘ymgynghorwyr’ iaith yn aml wedi camddeall hefyd.
Dw i wedi gweld sawl enghraifft yn ddiweddar. Un o’r eithriadau amlwg ydy yr arbennig Mererid Hopwood wrth gwrs.
Bod yn ddwyieithog ydy dweud popeth yn Gymraeg ac os oes rhaid, ambell i beth efallai yn Saesneg. Nid yw’r ddwy iaith yn gydradd ac felly nid ydynt yn haeddu cael eu trin yn gydradd.
Nid cydraddoldeb sydd ei angen ar yr iaith Gymraeg ond tegwch.
Er enghraifft, does dim angen cyfieithu poster sydd yn dweud ‘Cyngerdd Nadolig yng Nghapel y Tabernacl, nos Fercher Rhagfyr 21 am 7yh. Croeso i bawb’. Os oes unrhyw un yn byw yng Nghymru nad sy’n deall unrhyw ran o hyn, wel bois bach.
Mae cyfieithu shwt beth elfennol yn sarhaus i’r Gymraeg ac nid yw yn mynd i ddenu yr un Tom, Dic na Harri at y Gymraeg. Mwy o’r dull trochi sydd ei angen, a llai o’r dull ailadrodd.
Mae rhai pethau yn Gymraeg yn ei hanfod, ac mae o’r pwys mwyaf bod pethau yn aros felly, mae ychwanegu Saesneg yn newid popeth. Mae’n bwysig cadw pethau Cymreig yn Gymraeg, heb ildiad gan ddenu pobl newydd atynt, mewn amrywiol ffyrdd, heb newid iaith. Ac yn aml mae lle i ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg hefyd.
Felly beth yw’r broblem?
Pam ein bod yn mynnu cyfieithu popeth? Ai awyddus ydyn ni i ddangos ein medrusrwydd yn yr iaith fain? Ydy’r broblem ein bod yn genedl mor hynod o ddiddychymyg nad y’n ni’n gallu meddwl y tu hwnt i’r blwch dweud popeth ddwywaith? Does bosibl.
Ond rheswm arall dw i’n credu ein bod mor awyddus i blesio – ein bod wir yn ofni unrhyw wrthdaro ac yn ofni wynebu cwestiynu wrth ambell i Sais ewn, a bois ma nhw i ga’l. Dydyn ni ddim mewn gwirionedd wedi arfogi’n hunain gyda’r dadleuon yn erbyn y ‘But how am I supposed to understand?’ a’r ‘I have a right to understand’ a’r ‘What did she just say?’. Rydyn ni mewn gwirionedd eisiau gwarchod ein hiaith a’n hunain gan fod brawddegau fel hyn, sydd i’w clywed yn ddyddiol, yn ddilornus i’n hiaith ac yn brifo.
Felly credaf ei fod yn hanfodol bwysig ein bod yn cael ein harfogi gan ddadleuon a rhesymeg tu ôl i’n gweithredoedd – ein bod yn gallu eu hesbonio os oes eisiau ac nad ydym ar unrhyw gyfrif yn ymddiheuro am y peth.
Yn aml mae dwyieithrwydd gwael yn cael ei wneud yn enw bod yn gynhwysol.
A dyma gamddeall gair arall. Y gamddealltwriaeth fawr gyda’r gair ‘cynhwysiant’, os am ddadlau bod cyfieithu popeth i’r Saesneg yn ‘bod yn gynhwysol’, ydy ei fod yn cymryd nad oes emosiwn ynghlwm â iaith. Mae angen i ni sylweddoli bod defnyddio’r Saesneg, oherwydd ei fygythiad i’n mamiaith yn gallu golygu ein bod yn dieithrio carfan o gymdeithas sydd yn y lleiafrif yn eu gwlad eu hunain eisoes.
Gall bod yn ‘ddwyieithog’ newid yn llwyr, natur digwyddiad neu gyfathrebiad sydd yn ei hanfod yn Gymreig. Dyw hi ddim mor syml â bod iaith yn ddull cyfathrebu yn unig, heb unrhyw gysylltiadau eraill, yn enwedig pan fo un iaith yn fygythiad i’r llall, oddi mewn i’w gwlad ei hun.
Mae dwyieithrwydd cul yn sathru ar ein hawl i fyw ein bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn bellach na hyn, dydy bod yn ‘ddwyieithog’ ddim yn rhoi unrhyw fath o ysgogiad i neb ddysgu’r Gymraeg er mwyn cymathu ac mi gyfrannith at ein Seisnigeiddio.
Pa fath o neges mewn gwirionedd sy’n cael ei gyfleu pan nad oes dim byd bellach yn Gymraeg ac nad yw’r Gymraeg yn medru sefyll ar ei phen ei hun ac nad oes unrhyw ofodau ble mae’r Gymraeg yn bodoli heb y Saesneg?
Beth mae pobl eisiau bod yn rhan ohoni (gan gynnwys sawl mewnfudwr) ydy cenedl a chymunedau hyderus a chroesawgar (a dydy hynny ddim yn golygu newid iaith).
Mae’n beth hollol sarhaus i ddweud bod defnyddio’r Gymraeg yn unig yng Nghymru yn cau pobl allan ac yn anghynhwysol ac mae angen i ni ddechrau sylweddoli hynny a gweithredu ar hynny.
Dim bod yn anghwrtais ydy peidio newid iaith i’r Saesneg, bod yn anghwrtais ydy symud i wlad a pheidio a dysgu’r iaith, ac hyd yn oed yn fwy anghwrtais ydy disgwyl i’r cymunedau hynny i newid iaith gan droi cefn ar eu holl hanes a threftadaeth, oherwydd anallu rhai i gymathu.
Sy’n dod â ni at un o’r hen chwedlau eraill:
‘Gwell i fi ddweud hwn yn Saesneg achos mae gen i rhywbeth mor bwysig i’w ddweud mi fyddai’n drueni petai mwyafrif y bobl ddim yn deall yr hyn sydd gen i i’w dweud, ac wedi’r cyfan mae pawb yn medru’r Saesneg.’
Gall y dewis iaith yn aml ddweud mwy am hyder, parch a blaenoriaethau pobl nag y gall unrhyw gynnwys y postiad.
Ond mae dewis y Saesneg (neu ddwy iaith weithiau) yn ymdreiddio i’n seicoleg ni fel siaradwyr Cymraeg, a pheidied ni â thwyllo’n hunain chwaith nad yw hyn yn ymdreiddio i seicoleg y mewnfudwyr di-Gymraeg hefyd.
Beryg iawn y dof nôl at yr agwedd hwnnw o fod ‘pawb yn siarad Saesneg ta beth’ yn y golofn fis nesaf.
I weld defnydd arbennig o gyfathrebu effeithiol dwyieithog, edrychwch ar fideos ‘Hanes yr Iaith’ gan Partneriaeth a Mererid Hopwood ar YouTube.
Dyma sut y dylid ei wneud. A chan diolch i fusnes fel Ffab Llandysul a chlybiau fel Ffermwyr Ifainc Ceredigion sydd wedi deall yr holl o’r uchod ac yn postio ar y cyfryngau cymdeithasol yn amlach na heb yn Gymraeg yn unig.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.