gan Cai Phillips
‘Bydda i’n chwilio am rywle i fyw yn Sir Gâr yn y dyfodol agos ond does dim posib i’r mwyafrif o bobl ifanc y sir i gystadlu gyda phobl gyfoethocach’
Yn Rali’r Cyfri yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn yma (14/1), bydd Cymdeithas yr Iaith yn symud pwyslais ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ o ymgyrchu’n erbyn gormodedd o ail gartrefi at ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo gyflawn.
Byddwn ni’n parhau i bwyso ar Awdurdodau Lleol i ddefnyddio’r grymoedd newydd i reoli’r gormodedd o ail gartrefi a llety gwyliau yn llawn, ond mae’r broblem dai yn ehangach yn Sir Gâr.
Bydda i’n chwilio am rywle i fyw yn y sir yn y dyfodol agos ond does dim posib i’r mwyafrif o bobl ifanc y sir i gystadlu gyda phobl gyfoethocach sy’n symud i’r sir i fyw yn barhaol tra bod marchnad agored am dai – sy’n golygu bod pobl ifanc yn cael eu gorfodi allan o’u cymunedau ac ni bydd dyfodol i gymunedau Cymraeg.
Dangosodd y ffigyrau ddirywiad pellach yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, a’r cwymp mwyaf yn Sir Gaerfyrddin. Mae pobl yn gadael y sir, o fethu cael cartref yn lleol yn cyfrannu at y dirywiad hynny.
Felly, bydda i’n cyflwyno galwad ddydd Sadwrn am Deddf Eiddo gyflawn a fydd yn rheoli’r farchnad, yn blaenoriaethu pobl leol, ac yn caniatáu gosod amodau lleol ar berchnogaeth tai a thir.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.