gan Deian ap Rhisiart
Mae angen i newyddion a newyddiaduraeth ail-wreiddio o fewn ein cymunedau eto ac ailgydio yn y traddodiad cydweithredol – dyna oedd y neges glir gweithdy a gynhaliwyd ym Mangor yn ddiweddar.
Wrth i rai gredu bod pencadlysoedd cyfryngol yn pellhau a throi’n bellennig o’n cymunedau, gyda diswyddiadau a thoriadau cynyddol, mae yna griw o bobl yn y gogledd-orllewin yn awyddus i ail hawlio’r dirwedd newyddion a herio’r llif.
Cafodd y gweithdy hwn ei drefnu yn benodol i ddechrau trafodaeth dros ddatblygu gwasanaeth newyddion lleol ym Mangor. Cafodd gwirfoddolwyr papurau bro yr ardal wahoddiad i drafod a chnoi cil gyda chyd-drefnwyr y gweithdy – Y Sefydliad Newyddion o Ddiddordeb Cyhoeddus sydd wedi cynnal cyfres o weithdai yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr – gyda’r olaf yng Nghymru, yn Pontio, Bangor.
Bu’r drafodaeth yn edrych ar gysylltiad personol mynychwyr gyda’u papurau bro neu’r wasg leol yn y gorffennol, gan edrych ar gyflwr y maes heddiw ynghyd â chwilio am ddatrysiadau at y dyfodol.
‘Dim math o nawdd llywodraethol’
Y trefnydd lleol oedd Aled Gwyn Jôb sydd hefyd yn gwirfoddoli ar fwrdd golygyddol Papur Bro Menai. Wrth ymateb i drafodaeth yn y gweithdy, dywedodd: “Un o’r pethau sydd wedi fy nharo i sut ydan ni wedi mynd yn ôl i rywbeth sy’n gynhenid yn ein datblygiad fel cenedl sef y traddodiad cydweithredol ac ambell un wedi sôn fod y traddodiad wedi galluogi ni i godi miloedd o gapeli ar hyd a lled Cymru a rheina heb ddim math o nawdd llywodraethol, dim ond pobl yn ewyllysio gweld hyn yn digwydd hefo’i harian eu hunain.”
Un syniad a ddaeth i’r fei o ganlyniad oedd sefydlu menter gymunedol yn yr ardal. Fel yr eglurodd Aled: “Un o’r syniadau cyffrous yw ein bod yn dechrau menter newyddion cydweithredol yn ardal Bangor a’r cylch lle gallwn ni fod yn creu model sydd yn gydweithredol yn ei hanfod – sydd yn mynd i gynnig ella ryw wedd newydd ar y newyddion ac yn cynnig rhywbeth newydd.”
Datblygu’r Gymraeg
Mae datblygu’r Gymraeg yn rhan ganolog o’r holl syniad yn ôl Aled: “Pobl ydan ni sy’n deud storis wrth ein gilydd fel unigolion ac mae angen y cyfle yna mewn ffordd newydd yn y Gymraeg, a bod o’n rhywbeth sy’n mynd i helpu i ni ddatblygu’r Gymraeg hefyd.
Wrth gyfeirio at y papurau bro, mae’n gobeithio gweld ehangu ar y model. Meddai: “Un o’r syniadau yw ein bod yn gallu datblygu model papurau bro misol i rywbeth sydd yn wythnosol a’n bod yn gallu cael deunydd Cymraeg wythnosol a chael mwy o ddarllen ar y Gymraeg.”
Wrth drafod rôl technoleg, mae Aled Jôb yn gweld fod angen pontio’r cyswllt wyneb yn wyneb gyda’r digidol: “Un o’r pethau ydan ni wedi bod yn drafod bore ’ma ydi sut i gael balans y newyddion digidol sydd mor bwysig i ni – ond bod rhaid i ni gael cysylltiad wyneb yn wyneb corfforol, sy’n tynnu pobl at ei gilydd. Y cydbwysedd yna sy’n bwysig a’r hyn ydan ni wedi bod yn ei drafod yw bod angen gofod ym Mangor lle gall pobl ddod i gyfarfod ei gilydd, i drafod efo’i gilydd, i gydweithredu efo’i gilydd a bod hynny yn gyrru’r peth llawn cystal â’r elfen ddigidol.”
Un arall fu’n mynychu’r gynhadledd oedd Dylan Moore ar ran y Sefydliad Materion Cymreig sy’n arwain eu prosiect cyfryngau a democratiaeth.
Meddai Dylan: “Mae’n wych i weld yr hyn sy’n digwydd ar lefel lleol a chlywed syniadau all gysylltu led-led Cymru. Yr hyn oedd yn ddiddorol tu hwnt oedd pa mor ymwybodol oedd pobl o hen draddodiadau Cymreig – siaradodd pobl am adeiladu pethau o’r gwreiddiau fel digwyddodd gyda’r Institiwt Lofaol, capeli, y mudiad cydweithredol a gweld newyddion cyhoeddus fel ased i’r gymuned gyfan a chysylltu pobl gyda’r syniad o berthyn.”
Gyrru newid cadarnhaol
Mae Dylan Moore yn croesawu defnyddio traddodiadau’r gorffennol er mwyn creu newid ar gyfer y dyfodol. “Mae yna wir awydd i ddychwelyd i’r hyn yr arferwyd ei wneud yn y gorffennol yn dda yng Nghymru ond sydd wedi dioddef oherwydd pwerau globaleiddio a darniad cymdeithasol. Yr ydym yn defnyddio’r modelau fel cenedl yr ydym wedi’u defnyddio yn y gorffennol i yrru newid cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.”
Hybu newyddiaduriaeth annibynnol
Mae’r Sefydliad Newyddion o Ddiddordeb Cyhoeddus wedi derbyn arian i ddatblygu modelau newyddiadurol newydd annibynnol mewn gwahanol rannau o Ynys Prydain a Gogledd Iwerddon.
Cafodd ei sefydlu i hybu newyddiaduraeth annibynnol. Fel eglurodd Jonathan Heawood ar ran y Sefydliad: “Mi oeddwn i yn newyddiadurwr ac fel llawer ym Mhrydain yn poeni am newyddiaduraeth annibynnol, gan fod llawer o deitlau yn Llundain-ganolog, ac yn dilyn barn debyg ac yn rhannu’r un bydolwg a llawer ohonynt yn asgell-dde.

“Dydi hyn ddim digon da, ac nid yw’n adlewyrchu barn cymunedau yn ddigonol. Be fedrwn ni wneud i newid pethau? A’r peth cyntaf feddyliwn y byse’n ni’n ariannu sefydliadau newyddiadurol presennol.”
Ond maent hefyd yn awyddus i gefnogi mentrau gwahanol newydd.
Synnwyr cryf o gymuned
Mae Jonathan yn gweld synnwyr cryf cymunedol yng Nghymru gyda’r wlad yn dir ffrwythlon i ddatblygu mentrau newydd.
Meddai: “Yr hyn dwi’n gweld yn arbennig yng Nghymru yw bod yna synnwyr cryf o gymuned yma, yn enwedig o blith cymunedau Cymraeg. A synnwyr a gwerthoedd cryf o bwrpas cyfunol. Mae yna hefyd isadeiladedd cymunedol o amgylch y mudiad cydweithredol a’r papurau cymunedol. Ac yn wahanol i rannau eraill o Brydain, mae rhan o’r datrysiad eisoes yn ei le.”
Yr oedd Aled Jôb yn croesawu cefnogaeth y Sefydliad Newyddion o Ddiddordeb Cyhoeddus i’r drafodaeth yma yng Nghymru. “Dwi’n meddwl ein bod wedi taro ar rywbeth pwysig iawn, ac mae’n amlwg bod yna angen mawr ar ei gyfer – a gobeithio gyda help y Public Interest News Foundation yn ein hannog ni i fynd a phethau yn eu blaen.”
Seiliau newydd
Ychwanegodd: “Mae’r hyn ydan ni isio neud yn fan hyn yn ffitio o fewn ei gweledigaeth nhw bod angen seiliau newyddion newydd.”
Y gobaith o blith y trefnwyr a’r cyfranogwyr yw y bydd y gweithdy hwn hefyd yn ysgogi ac ysbrydoli trafodaeth bwysig i ddatblygu rhywbeth newyddiadurol cydweithredol newydd, nid yn unig ym Mangor ond ymhob rhan o Gymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.