Barn gan B. Bowyer-Jones
Unwaith eto felly… (with) + (va) Wyddfa – pawb yn hapus?
Nac ydy – ddim wrth glywed yr holl sŵn ar rai cyfryngau Seisnig bod yr enw Saesneg ar gyfer mynydd uchaf Cymru wedi ei ddisodli gan yr enw Cymraeg, Yr Wyddfa.
Pleidleisiodd aelodau pwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddefnyddio’r enwau Cymraeg Eryri ac Yr Wyddfa mewn cyd-destun Cymraeg a Saesneg.
Fe wnaeth ddeiseb a lofnodwyd gan dros 5,000 o bobl yn galw ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ffurfioli defnydd yr awdurdod o’r enwau Eryri ac Yr Wyddfa eu hybu i gymryd camau pendant.
Cychwynnwyd y ddeiseb mewn ymateb i gynnig gan y Cynghorydd John Pughe Roberts i’r awdurdod roi’r gorau i ddefnyddio’r enwau Saesneg – Snowdon a Snowdonia.
Gwrthodwyd y cynnig bryd hynny ar y sail bod grŵp eisoes wedi’i sefydlu i edrych ar y defnydd o enwau lleoedd.
Comisiynwyd Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd i lunio cyfres o egwyddorion i’w defnyddio fel canllaw ar gyfer ymdrin ag enwau lleoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a’r gobaith yw y bydd hynny’n cysoni’r enwau.
Bydd y newid i ddefnyddio’r enwau Cymraeg yn unig yn cael ei wneud dros amser, meddai’r awdurdod, “wrth i gyhoeddiadau a deunyddiau dehongli’r awdurdod gael eu diweddaru”.
Y gobaith yw y bydd hynny’n rhoi cyfle i bobl ddod yn ymwybodol o’r drefn newydd a “pharhau i allu dod o hyd i’r wybodaeth y maent eu hangen yn rhwydd”.
Er y newid, mae’r enwau Cymraeg a Saesneg ar awdurdod y parc cenedlaethol wedi’u cofnodi mewn cyfraith, ac felly bydd yn rhaid i’w holl ddogfennau statudol barhau i gynnwys yr enwau yn y ddwy iaith.
Ond ym myd ambell i gyfrwng Saesneg – ‘new name’ yw hwn a ‘people won’t be able to say it’. Dyma’r un cyfryngau wrth gwrs sydd weithiau yn benderfynol bod pawb yng Nghymru yn byw mewn ‘valley’.
Does dim amheuaeth bod ambell i air Cymraeg yn llond ceg i Sais – ond nid Rhosllannerchrugog sydd dan sylw fan hyn! Mae’r synau sydd yn y geiriau sy’n creu cymaint o ddychryn a’r diffyg parodrwydd i’w ynganu fel arfer ar gael yn yr iaith Saesneg yn barod.
‘Daffid’ meddai ambell un wedi gweld ‘Dafydd’ wedi ei sgwennu o’i blaen wrth ychwanegu… ‘I can’t say it’. Ond mae sŵn y ‘f’ unigol yn ddigon cyfarwydd i bob Sais fel ‘v’- a‘r ‘dd’ hefyd fel ‘th’ yn then, them a though?
Rhywbeth gweledol ydi o mae’n siŵr sy’n creu ofn a dychryn… a pheidiwch sôn bod pobl yn siarad Cymraeg ar raglen Countryfile ar nos Sul – mae’r ddadl honno’n dal i fynd ‘mlaen ar y cyfryngau cymdeithasol!
Meddai Heledd Gwyndaf ar y pwnc: “Rydyn ni wedi gweld dadleuon gan bobl sydd wedi siarad yn erbyn y penderfyniad diweddar gan Barc Cenedlaethol Eryri i gyfeirio at Yr Wyddfa wrth ei enw gwreiddiol yn unig gan ochel yn llwyr rhag defnyddio’r enw coloneiddiedig.
Cyfeiriwyd at yr Wyddfa gan rai ‘newyddiadurwyr’ fel ‘new name’ ond hefyd dywedwyd nad oedd ‘people’ yn gallu ei ddweud. Dw i’n credu mod i’n berson, a dw i’n gallu dweud ‘Yr Wyddfa’ yn iawn. Ond nid fi yw’r ‘people’ wrth gwrs. Dw i ddim yn ‘berson normal’.
Pobl uniaith Saesneg yw’r ‘people’ ac iddyn nhw mae’n rhaid i ni gyd gowtowio, yn amlwg. Dadleuodd rhai hefyd, fel hen dôn gron, ‘ond beth am y twristiaid?’ Mae’r bobl hyn yn credu eu bod yn amddiffyn y diwydiant twristiaeth, ond i’r gwrthwyneb sy’n wir, achos hwynt sy’n rhoi’r bwledi i bobl fel fi i ddadlau nad yw twristiaeth yng Nghymru yn ddiwydiant cynaliadwy.
Os ydy llewyrch unrhyw ddiwydiant yn golygu bod rhaid lladd iaith a lladd diwylliant, mi geith y diwydiant hwnnw fynd i ganu. Mae gen i enghreifftiau lu eraill, fel chi i gyd dw i’n siŵr, o sylwadau sy’n cael eu taflu atom drwy’r ffenestr uniaith Saesneg hwnnw. Mae’n bwysig i ni allu taflu dadleuon cryf yn ôl sy’n gwyrdroi’r dadleuon hyn ac yn lladd y dadleuon yn y fan a’r lle.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.